Mae'r casgliad yn cynnwys sgriptiau ffilm a baratowyd yn ystod y 1980au a'r 1990au gan Eurwyn Williams fel aelod o amrywiol griwiau ffilm, yn bennaf ar gyfer Ffilmiau Eryri. Ceir hefyd nifer o daflenni gan gynnwys amserlenni ffilmio, lleoliadau a rhestri o actorion, y mwyafrif yn ymwneud â'r ffilm 'Owain Glyndwr: Prince of Wales' = The collection consists of film scripts prepared during the 1980s and 1990s by Eurwyn William as a member of various film crews, mainly for Ffilmiau Eryri. There is also a number of leaflets including filming schedules, locations and lists of actors, most of these relating to the film 'Owain Glyndwr: Prince of Wales'.
Gohebiaeth, sgriptiau llwyfan, sgriptiau radio a theledu, cyfansoddiadau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadau, a dyddiaduron, [1874], 1927-2003, ynghyd â phapurau personol a theuluol a phapurau'n ymwneud â'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth.
Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.
Gohebiaeth a phapurau eraill y Parchedig Robert Charles Jones (RCJ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a fu am gyfnod, 1873-8, yn genhadwr yn Guayacan, Coquimbo, Chile.