- (91).
- Sub-fonds
- 1932-80.
Part of Papurau L. Haydn Lewis,
42 results with digital objects Show results with digital objects
Part of Papurau L. Haydn Lewis,
Part of Papurau Erfyl Fychan
Sgriptiau radio yn cynnwys 'Hen arferion Cymru fu, 1700-1800', 1935, sef dwy wers ar y baledwr a baledi; 'Ugain munud gyda'r Bardd Crwst', 1938; 'Dic Dywyll - Tywysog y Baledwyr', 1938; 'Twm o'r Nant, yr Anterliwdiwr', [1938]; 'Cymeriadau' yn y gyfres 'Cywain', 1965; 'Digwyddiad pwysig y carwn i fod yno', 1966; 'Y llyfr gorau y caraswn fod wedi'i ysgrifennu' a 'Y cymeriad gorau a gyfarfyddais', 'Cywain', 1966.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr bedyddiadau'r capel, 1833-1976.
Part of Papurau Glasnant
Copïau llawysgrif a nodiadau o bregethau'r Parch. W. Glasnant Jones, [1892x1951].
Cymanfa Gyffredinol, Penrhyndeudraeth 1978
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â threfnu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 12-15 Mehefin 1978, a gynhaliwyd yng Nghapel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth, gan gynnwys cofnodion y Pwyllgor Trefnu Lleol, 1977-1978; llythyrau; rhestr o'r cynrychiolwyr; a phoster y cyfarfodydd cyhoeddus ac o brif atyniadau'r wythnos.
General Assembly of the Presbyterian Church of Wales (1978: Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth)
Mae'r ffeil yn cynnwys enwau tanysgrifwyr o swllt ac uchod a gyfrannodd at gronfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert yn 1865, ac hefyd hanes adeiladu'r capel. Rhestrir y tanysgrifwyr fesul dosbarth: Dosbarth yr Adfa, Dosbarth Llanfair, Dosbarth Llanfyllin a Dosbarth Croesoswallt.
Part of Sgriptiau Gwynne D. Evans
Sgritptiau gan gynnwys ’ Y groes grwca’, 1946;’ Yr Etifeddwyr’ (drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955) a ddarlledwyd yn 1956; ‘Corn Beca’, drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955 a sgriptiau radio, 1956 a 1964; ‘Sadwrn’, darlledwyd yn 1965; ‘Cartref’, drama un act, 1961, a chyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963 , a drama deledu, 1967.
Mae'r ffeil yn cynnwys pump llyfr nodiadau ac wyth dalen rhydd o nodiadau a chofnodion yn ymwneud â Chapel y Morfa, a Dosbarth Rhuddlan.
Part of Papurau John Ellis Williams
Mae'r ffeil yn cynnwys ffotograff o Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), a cherdd ganddo, a thri toriad papur newydd, 1912-1945.
Hedd Wyn, 1887-1917
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau dienw gyda 'Hanes Eglwys y Tabernacl, Porthmadog. 1862-1891', [1891] ac ysgrif Jonathan Davies, [1914x1922], ar hanes yr eglwys, 1862-1912; anerchiad, 1899, a draddodwyd i Gyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd gan y llywydd Jon[athan] Davies; dau lythyr, 1913, oddi wrth Y Parchedig John Roberts, Lerpwl at Mr Davies, ynghyd â thorion o'r wasg yn cynnwys erthygl am Gymdeithasfa Porthmadog, Y Cymro, 1927; teyrnged i Richard Davies, Porthmadog, Y Goleuad, 1922, a Jonathan Davies, Y Goleuad, 1933.
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol yn dwyn label Llyfrgell Eglwys y Garth, sef llyfr tonau yn llaw William Owen, Tŷ Fry, [?Llanelwy], 1838.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr llythyrau aelodaeth mewn tair rhan, sef un rhan i'w gadw yn y llyfr, un rhan i'w anfon at swyddogion yr Eglwys y symuda yr aelod iddi, a rhan arall i'w roddi i'r aelod fyddo'n symud.
Mae'r ffeil yn cynnwys cofrestr casgliad y weinidogaeth.
Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol o adysgrifau, 1807-1837, o gofrestr genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau, gan John Jones, Plâs-uchaf, 1837, ynghyd â chofnodion diweddarach, 1838-1865, o gofrestr newydd. Ceir y nodyn canlynol y tu mewn i'r gyfrol: 'Cyflwynwyd y Cofrestr hwn i Mr Richard Lloyd, Tabernacl, Portmadoc, gan Evan Williams, Llythyrdy, Talsarnau', 9 Mehefin 1930.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr casgliad Gweinidogaeth yr Eglwys ('Llyfr Eglwysig'), 1926-1949. Ceir manylion am gasgliadau tuag at y Weinidogaeth, megis enwau'r aelodau, eu preswylfeydd a'u cyfraniadau misol.
Mae'r ffeil, 1956-[1997], yn cynnwys tystysgrifau trosglwyddo aelodaeth a llythyrau cymeradwyaeth, 1956-1997, gan gynnwys nifer ar gyfer aelodau Capel Rhiwspardyn, Mehefin 1970 [oherwydd ei gau yn 1970], taflenni ystadegol, 1969-1995, ynghyd ag adroddiadau gan bensaer ar gyflwr y capel a'r Foelas, Tŷ'r Gweinidog, [1971x1997], a llythyrau, 1971-1973, yn ymwneud â gwerthu'r Foelas.
Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau
Mae'r ffeil yn cynnwys manylion genedigaethau a bedyddiadau, 1813-1959. Nodir enw'r plentyn a'i rieni, galwedigaeth y tad, dyddiadau geni a bedyddio'r plentyn, ac enw'r gweinidog a'i fedyddiodd.
Cofrestr bedyddiadau, 1911-1960.
Part of CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrifon y Gronfa Gynnal a Threth Cyfarfod Misol, 1953-1959, ynghyd â llofnod yr archwilwyr, 1960. Nodir enwau a chyfeiriadau aelodau a cheir manylion am eu cyfraniadau.