Dangos 256 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

Archif Y Faner

  • GB 0210 FANER
  • fonds
  • 1986-1992

Mae'r fonds yn cynnwys papurau, 1986-1992, a grynhowyd gan Luned Meredith a David Meredith fel perchnogion Y Faner, gan gynnwys gohebiaeth a datganiadau i'r wasg; erthyglau drafft a chynnyrch cyffredinol y cylchgrawn ac, yn arbennig felly, casgliad cyflawn o'r holl gynnyrch a ddefnyddiwyd wrth gysodi pob rhifyn o Chwefror 1992 hyd at y rhifyn olaf yn Ebrill 1992; ceir hefyd bapurau gweinyddol Y Faner, yn cynnwys, gohebiaeth yn ymwneud â diwedd y cylchgrawn, llyfrau nodiadau'r golygydd a chymhorthion golygyddol; rhai cofnodion ariannol, a mynegai cyffredinol i gyfranwyr ac i'r pynciau a drafodwyd ganddynt yn Y Faner, 1987-1992.

Meredith, David

Archif Y Lolfa,

  • GB 0210 LOLFA
  • fonds
  • 1964-2000 /

Gohebiaeth yn ymwneud â gwaith dydd i ddydd Y Lolfa yn trafod cynigion am gyhoeddiadau, y broses gyhoeddi ei hun, offer argraffu'r Lolfa, staff, grantiau Cyngor Llyfrau Cymru a materion yn codi o gyhoeddiadau'r Lolfa. Ymhlith y gohebwyr mae artistiaid, awduron, gwleidyddion a ffigyrau blaenllaw Cymru, ac yn aml yn y llythyrau cymysgir trafodaethau busnes a materion cyfoes, hynt yr iaith Gymraeg, yr angen am gyhoeddiadau Cymraeg a Chymreig, a naws wleidyddol Cymru. = Correspondence relating to the daily work of the publishing firm Y Lolfa including offers of publications, the publishing process, publishing equipment, staff, Welsh Books Council grants and matters arising from Lolfa publications. The correspondents include artists, authors, politicians and prominent figures in Wales, and the letters often contain a mixture of business discussions and current affairs, news concerning the Welsh language, the need for publications in Welsh and about Wales, and politics in Wales.

Papurau ychwanegol o'r Lolfa yn cynnwys papurau yn ymwneud a 'Y Byd' a 'Cymuned'.

Lolfa (Firm)

Archifau Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg,

  • GB 0210 PDAG
  • fonds
  • 1987-1997 /

Cofnodion Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, PDAG, 1985-1994, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth, adroddiadau a deunydd ymchwil, gyda phapurau sydd yn ymwneud gan fwyaf â'r sector addysg yng Nghymru (ysgolion, prifysgolion a cholegau, ac addysg i oedolion) ac â chyrff megis y Swyddfa Gymreig, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Cwricwlwm Cymru, Cydbwyllgor Addysg Cymru, Rhieni dros addysg Gymraeg, ac amryw gynghorau sir yng Nghymru = Records of the Welsh Education Development Committee (Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, PDAG), 1985-1994, including minutes of meetings, correspondence, reports and research material, with papers mostly relating to the Welsh education sector (schools, universities and colleges, and adult learning) and to bodies such as the Welsh Office, the Welsh Language Board, Curriculum Council for Wales, the Welsh Joint Education Committee, Parents for Welsh medium education, and to various county councils in Wales.

Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg.

Archifau Urdd Gobaith Cymru (Ceredigion),

  • GB 0210 URDDION
  • fonds
  • 1965-1997 /

Cofnodion Urdd Gobaith Cymru, Rhanbarth Ceredigion,1965-1997, yn cynnwys cofnodion pwyllgorau, 1965-1995; gohebiaeth, 1979-1995; adroddiadau a deunydd printiedig, 1975-1993; a phapurau amrywiol, 1983-1995 = Records of Urdd Gobaith Cymru, Rhanbarth Ceredigion, 1965-1997, comprising committee minutes, 1965-1995; correspondence, 1979-1995; reports and printed material, 1975-1993; and miscellaneous papers, 1983-1995.

Urdd Gobaith Cymru. Rhanbarth Ceredigion.

Archifau'r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg,

  • GB 0210 BWRDDFFILM
  • fonds
  • 1970-1991 /

Cofnodion Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1986, yn cynnwys papurau gweinyddol, gohebiaeth gyffredinol, gohebiaeth yn ymwneud â chynhyrchu ffilmiau i'r Bwrdd, a phapurau a gohebiaeth yn ymwneud â phynciau ariannol,1972-1986, gan cynnwys cofnodion y Bwrdd, 1970-1972, dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; a chofnodion ariannol,1986-1991 = Records of Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, 1970-1986, comprising administrative papers, general correspondence, correspondence relating to the production of films for the Board, and papers and correspondence relating to financial matters, 1972-1986, and including minutes of the Board for 1970-1972, under the name Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog; and financial records, 1986-1991.

Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.

CMA: Cofnodion Capel Newydd y Brithdir, Gwynedd

  • GB 0210 NEWBRI
  • fonds
  • 1912-2000

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1912-1973, llyfrau cyfrifon, 1912-2000, Capel Newydd y Brithdir, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gwerthu'r Foelas (Tŷ'r Gweinidog), 1971-1973.

Capel Newydd y Brithdir (Brithdir, Gwynedd, Wales)

CMA: Cofnodion Capel Y Morfa, Abergele

  • GB 0210 MORELE
  • fonds
  • 1930-2003

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel y Morfa, Abergele, gan gynnwys dau lyfr cofnodion, 1930-1996, dau lyfr cyfrifon, 1967-2002, pamffledi yn ymwneud â hanes y capel a'r henaduriaeth, 1966-2003, a phapurau perthnasol eraill, 1966-2003.

Morfa (Church : Abergele, Wales)

CMA: Cofnodion Eglwys Seilo, Llandudno,

  • GB 0210 SEILLAN
  • fonds
  • 1854-2000 /

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion y Capel, 1854-2000, a chofnodion yr Ysgol Sul, 1899-1957, gan gynnwys cofrestri, cyfrifon, cyfraniadau aelodau, cofnodion pwyllgorau a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys. = The fonds comprises the records of the Chapel, 1854-2000, together with the Sunday School records, 1899-1957, including registers, accounts, members' contributions, committee minutes and papers relating to the Church's societies.

Seilo (Church : Llandudno, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Aberfan,

  • GB 0210 ABRFAN
  • fonds
  • 1892-1988 /

Cofysgrifau Capel Aberfan, yn cynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1892-1988; tair cyfrol yn cynnwys cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1897-1981; cyhoeddiadau Sabothol, 1917-1958; cofnodion y Blaenoriaid, 1947-1976; cofrestr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1964-1971; cofrestr yr Ysgol Sul, 1926-1959; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1925-1948.

Capel Aberfan (Aberfan, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Abergeirw

  • GB 0210 ABEGRW
  • fonds
  • 1897-1975

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol Capel Abergeirw, sir Feirionnydd, 1899-1940; ynghyd â llyfrau'r ysgrifennydd, 1941-1975; llyfr cofrestriad aelodau'r Capel, 1910-1917; a chofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Capel, 1897-1928.

Eglwys Abergeirw (Llanfachreth, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Beddgelert

  • GB 0210 BEDERT
  • fonds
  • 1873-1998

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu Capel Beddgelert a threfnu cyfarfodydd a gwasanaethau. Mae hefyd yn cynnwys llyfrau cyfrifon ysgrifennydd y 'Cyfarfod Ysgolion', sef cyfarfod chwarterol Ysgolion Sul Beddgelert, Rhyd-ddu, Bethania, Peniel a Blaen Nantmor.

Capel Beddgelert (Beddgelert, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Berea, Glanadda, Bangor

  • GB 0210 BERDDA
  • fonds
  • 1856-2000

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion gweinyddol, 1866-1989, gan gynnwys cofrestri'r capel, 1866-1974, a chofnodion pwyllgorau amrywiol, 1891-1971; cofnodion ariannol, 1856-2000; hanes yr achos a'r capel, 1935-1975; a phapurau amrywiol, 1897-1999.

Berea (Church : Bangor, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Aberdâr,

  • GB 0210 BETDAR
  • fonds
  • 1860-1970 /

Cofysgrifau Capel Bethania, Aberdâr, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1922-1966; cofnodion ariannol, 1860-1970; ac ystadegau'r Capel, 1898-1932.

Bethania (Church : Aberdare, Wales).

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Corris Uchaf

  • GB 0210 BETHCU
  • fonds
  • 1897-1919

Mae'r fonds yn cynnwys Cofrestr Aelodau Cymdeithas Dirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1897-1919, a Llyfr Casgliad yr Ugeinfed Ganrif, 1901-1903.

Capel Bethania (Corris, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Glanaman,

  • CMA: Capel Bethania, Glanaman.
  • fonds
  • 1843-2001.

Cofysgrifau Capel Bethania, Glanaman, 1843-2001, yn cynnwys llyfr ystadegau, 1909-1930; cofrestr bedyddiadau, 1843-1918; chwe chofrestr priodasau, 1928-2001; cofnodion ariannol, 1907-1955; a llyfr yr Ysgol Sul, 1924-1937. = Records of Bethania Chapel, Glanaman, 1843-2001, including statistics, 1909-1930; register of baptisms, 1843-1918; six registers of marriages, 1928-2001; financial records, 1907-1955; and a Sunday School book, 1924-1937.

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Llanpumsaint,

  • CMA: Capel Bethel, Llanpumsaint.
  • fonds
  • 1935-2014.

Cofysgrifau Capel Bethel, Llanpumsaint, 1935-2014, yn cynnwys cofrestr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1950-2014; cofnodion ariannol, 1941-2013; a llyfr cofnodion, 1953-1958. = Records of Bethel Chapel, Llanpumsaint, 1935-2014, including a register of births, baptisms and burials, 1950-2014; financial records, 1941-2013; and a minute book, 1953-1958.

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Talsarnau

  • GB 0210 BETTAL
  • fonds
  • 1837-1865

Mae'r fonds yn cynnwys adysgrifau, 1807-1865, o gofrestri genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau.

Bethel Chapel (Talsarnau, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bethesda Mynydd y Fflint

  • GB 0210 MYNFLI
  • fonds
  • 1906-1972

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1906-1972 (gydag amryw fylchau), a phriodasau, 1938-1956 (gyda bylchau), Capel Bethesda Mynydd y Fflint.

Mynydd y Fflint (Church : Flint Mountain, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Boduan, Boduan

  • GB 0210 BODUAN
  • fonds
  • 1908-1996

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'r Ysgol Sul. Ymhlith cofnodion eraill ceir Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1940-1960, Llyfrau'r Trysorydd, 1940-1983, Adroddiadau Blynyddol, 1972-1995, Llyfr Ardreth yr Eisteddleoedd, 1950-1981, a Llyfrau'r Ysgrifennydd, 1908-1949.

Capel Boduan (Boduan, Wales)

Canlyniadau 1 i 20 o 256