Showing 30 results

Archival description
Papurau Gwydderig File
Print preview View:

Pum cyfrol yn cynnwys adysgrifau [?gan wahanol aelodau'r teulu] o gyfansoddiadau Gwydderig, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r deunydd yn ....

Pum cyfrol yn cynnwys adysgrifau [?gan wahanol aelodau'r teulu] o gyfansoddiadau Gwydderig, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r deunydd yn rhifau 1-12. Mae rhifau 13-15 wedi'u tudalennu'n un gyfres, 1-184, 185-356, 357-95. Dechreuir ail gyfres o dudalennau yng nghyfrol 15 ac mae'r rhain (tt. 1-86) yn cyfateb o ran cynnwys i gyfrol 17, tt. 153-276. Ar ddiwedd rhif 15 ceir dau fynegai i gynnwys y gyfrol, tt. 357-95, tt. 1-49. Ceir mynegai ar ddiwedd rhif 16 i gynnwys y gyfrol honno.

Llyfr nodiadau o eiddo Benjamin Williams, 'Isfryn', Heol Llandeilo, Brynaman, brawd Gwydderig, yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd, 1917, ac ....

Llyfr nodiadau o eiddo Benjamin Williams, 'Isfryn', Heol Llandeilo, Brynaman, brawd Gwydderig, yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd, 1917, ac englynion amrywiol eraill. Codwyd nifer o'r cerddi coffa o bapurau newydd a cheir yn eu plith englynion o waith Alfa [William Alfa Richards], Eifion Wyn [Eliseus Williams], J.T. Job, 'Penar' [Griffith Penar Griffiths], a 'Volander' [John Volander Jones].

Results 1 to 20 of 30