Showing 33 results

Archival description
Papurau Norah Isaac, file
Print preview View:

Ysgol Gymraeg, Lluest

Papurau, [1944]-[1963], yn ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel prifathrawes Ysgol Lluest yn bennaf, gan gynnwys rhestr o aelodau pwyllgor yr ysgol, 1948-1951; llyfr cofnodion sy'n cynnwys rhestr o aelodau'r dosbarth hŷn, 1945-1947, a'r maes llafur. Ceir copïau o'r darnau a ddysgwyd, rhaglen cyngerdd Nadolig yr ysgol, 1948, a sgript cyngerdd Nadolig 1949; taflenni 'Mynnaf loywi fy Nghymraeg', 1944; ynghyd â ffotograffau o'r ysgol a'r disgyblion, [1949] a thaflen gwasanaeth angladd Syr Ifan ab Owen Edwards, 1970, pan dalwyd teyrnged iddo gan Norah Isaac.

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio, 1936-1952 (gyda bylchau), y bu Norah Isaac yn actio ynddynt neu'n llefarydd. Yn eu plith mae 'Gwener y Grôg' gan T. Rowland Hughes, 1936; a 'Pryddestau radio. Y Patrwm' gan T. Glynne Davies, 1952.

Hughes, Thomas Rowland

'Priodas waed'

Sgript 'Priodas waed', cyfieithiad o ddrama Federico Garcia Lorca, a gyflwynwyd gan Gwmni Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn [Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965], ynghyd â manylion am y cynhyrchiad o [Raglen y Dydd]. [Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan John Davies a John Rowlands a'i golygu gan Gareth Alban Davies].

['Yr ogof']

Sgript ['Yr ogof' cyfieithiad Alwena Owen o ddrama Jean Anouilh 'La grotte' a berfformiwyd gan Gwmni Coleg y Drindod yn 1968].

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1927-2003, gan gynnwys tystysgrif Norah Isaac am ennill yr ail wobr am adrodd 'Y Crythor Dall' gan [Syr John Morris-Jones] yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; papur arholiad llenyddiaeth Gymraeg Norah Isaac yn dwyn stamp Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928; ei nodiadau, 1945, ar gyfer y Pwyllgor Ymgynghorol ar Addysg yng Nghaerdydd; atgynhyrchiad o [Idris Ll. Foster, Y Gymraeg yn yr Ysgolion Gramadeg (Undeb Cymru Fydd, 1952), gyda sylwadau wedi'u hychwanegu gan Norah Isaac; llungopi o adolygiad, [1950x1958], o 'Hamlet yn Gymraeg - a gan ferched yn unig. Campwaith yn y Barri' ac o adolygiad Mati Rees o Norah Isaac, Crwydro Gorff a Meddwl [Abertawe, 1980]; llyfr nodiadau'n cynnwys sgwrs Norah Isaac ar gyfer rhaglen 'Wythnos i'w chofio', 1976; a thaflen angladd Norah Isaac, 11 Awst 2003.

Cerddi gan Norah Isaac

Cerddi, 1932-1991, yn cynnwys 'Y Blacowt' mewn tafodiaith a llyfr ysgrifennu Norah Isaac pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Blaenllynfi, gan gynnwys cerdd 'Y claf wrth yr oenig', 1933, 'Unigedd', 1932, a soned 'Gwersyll yr Urdd, Llangrannog', 1934; emyn Gŵyl Ddewi; cerdd 'To my music teacher in the twenties', 1976; cerdd rydd ganddi ar achlysur gweinyddu'r cymun olaf yn Eglwys Noddfa (1897-1991), Caerau, Maesteg, Rhagfyr 1991; ynghyd â chyfieithiad o'r emyn 'Arglwydd gad im dawel orffwys' i'r Saesneg.

Coleg Y Barri

Papurau'n ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel darlithydd yn Y Barri yn cynnwys rhaglen gwaith llafar y myfyrwyr, 1950, yn seiliedig ar nofelau a barddoniaeth T. Rowland Hughes; taflenni a baratowyd ganddi, [1952]-[1954], yn cynnwys sgyrsiau ac yn ymwneud â gwaith llenorion; anerchiad coffa Syr Ben Bowen Thomas, 1956, i Ellen Evan, Prifathrawes Coleg Y Barri, 1923-1953 (printiedig); llyfr yn cynnwys ymarferion ail iaith gan Norah Isaac ar gyfer dysgwyr a luniodd tra yn Y Barri; 'Miss Isaac-yn cofio'r cychwyn cynnar' yn Addysg Gymraeg yn y Barri [1992]; a llun o feim myfyrwyr y coleg yn Llundain, [1956].

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

'Llyfr drama NI'

Deialogau ac ymarferion a luniwyd gan Norah Isaac a llawysgrif cyfrol arfaethedig o sgyrsiau ar gyfer plant 'Sut hwyl a da boch chi', [1980].

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau, [1953]-[1979], oddi wrth Saunders Lewis yn cynnwys newyddion personol. Mae'n diolch iddi am anfon copi o Iolo iddo [cf 4/5] ac yn dweud iddo ddarllen sylwadau'r beirniaid am y ddrama yn y wasg. Yr oedd wedi gwrthod ei gwahoddiad i ddarlithio yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974. Ceir hefyd lythyr a anfonodd ati wedi iddi dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, Llundain, yn 1979. Derbyniwyd llungopïau o'r mwyafrif o'r llythyrau hyn eisoes (Papurau Norah Isaac 146/135 a 211).

Lewis, Saunders, 1893-1985

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio, 1945-1970. Yn eu plith mae 'Haul ar Fôr (Aberystwyth)', 1945; 'Tro trwy Gymru', 1949; 'Ewenni', [1951]; 'Ar grwydr yng Nghymru. Caerfyrddin', 1953; 'Hans Christian Andersen', 1955; 'Aberpergwm', 'Gogerddan', 'Gelli Aur', 'Cefn Amlwch', 'Plas Penhelig', 'Plas Penucha', 'Penmynydd', 'Bronwydd', 1955 (yn y gyfres 'Plasau Cymru'); 'Cadw dyddiadur', 1957; 'Ar grwydr yng Nghymru. Myddfai', 1960; 'Ar grwydr yng Nghymru. Llangollen', 1963; 'Hywel Dda', 1963; 'Robert Owen, Y Drenewydd', 1964, ynghyd â drafft cynharach anghyflawn o'r sgript mewn llawysgrif; ac 'Ar grwydr yng Nghymru. Y Mynydd Du', 1966 a 1970. Ceir hefyd sgriptiau anghyflawn a drafftiau o sgriptiau.

'Iolo'

Y sgript wreiddiol 'Iolo neu Galon wrth Galon' a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 ac a gyhoeddwyd fel Iolo yn 1975, ynghyd â sgript 'Iolo Morgannwg' ar gyfer y teledu, 1978, gyda llythyrau oddi wrth Ifor Rees, cynhyrchydd gyda'r BBC. Ceir hefyd sgript 'Iolo' wedi'i diwygio. Mae'n bosib mai sgript ar gyfer perfformiad Cwmni Iolo, 1992, i ddathlu daucanmlwyddiant Gorsedd y Beirdd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ydoedd.

Rees, Ifor

'Corlannu pobl'

Sgript 'Corlannu pobl' yn cynnwys y diwygiadau i'r testun a gyhoeddwyd fel Corlannu pobl. Cyflwyniad dramatig i ddathlu tri chanmlwyddiant geni Griffith Jones Llanddowror, ynghyd â thalfyriad o'r sgript a ddangoswyd ar S4C yn 1983, a thaflen o syniadau am Griffith Jones gan Muriel Bowen Evans ar gyfer athrawon (yn y gyfres 'O bant i bentan', 1983).

Evans, Muriel Bowen

Ifan ab Owen Edwards

Rhannau mewn teipysgrif, gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif, gan Norah Isaac o'i phortread o Syr Ifan ab Owen Edwards, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1972. Nid yw'r tudalennau yn dilyn. Ceir hefyd sgript deledu ar gyfer plant, 1958, ar 'O.M.', pan gafwyd cyfraniad gan Norah Isaac i'r rhaglen.

Llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards,

Llythyrau, [1935]-[1966], yn ymwneud â cholledion ariannol Ysgolion Abermâd a Lluest, gweithgareddau Urdd Gobaith Cymru, a chylchrediad cylchgronau fel Cymru'r Plant. Ceir dau lythyr hefyd oddi wrth D. J. [Williams] a llythyr oddi wrth George M. Ll. Davies.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970.

Llythyrau Cymrawd

Llythyrau a chardiau, 1988-1989, yn llongyfarch Norah Isaac ar yr anrhydedd o gael ei dewis yn Gymrawd o'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys rhai oddi wrth Dr Emyr Wyn Jones; George Noakes; Jâms Nicholas; englyn gan [W.] Rhys [Nicholas] 'I Norah (ar gael ei hurddo yn Gymrawd)'; Mathonwy [Hughes]; Dyddgu [Owen]; W. Emrys Evans (2); ynghyd ag erthygl gyda'r teitl 'Norah is voted a jolly good fellow', Daily Post, 1989.

Jones, Emyr Wyn.

Gwaith y disgyblion

Enghreifftiau o waith creadigol rhai o'r disgyblion, [1948]-[1949], ynghyd â rhifynnau o 'Dail Gwanwyn', 1943-1950, cylchgrawn yr Ysgol Gymraeg.

Results 1 to 20 of 33