Showing 15 results

Archival description
Papurau Carys Bell file
Print preview View:

Llyfrau nodiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau, sef llawysgrifau o'r nofelau 'Dewis llais?', 1978-1979; 'Choose a voice?', 1981-1982; 'Newid ysgol, newid byd', 1979-1980; 'New school, new stage' (anghyflawn), 1980-[?1981]; 'Ynys y cylch' (yn cynnwys ail gopi o'r cynllun a nodiadau ymchwil), 1982-1985; 'Patrwm rhosod', 1982; a 'Reed music', 1986.

'I ble'r aeth y Nadolig?'

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1987-1989, yn ymwneud â'r ysgrif hunangofiannol 'I ble'r aeth y Nadolig?', ddaeth yn gydradd drydydd yn y gystadleuaeth 'Ar fy myw!' a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, 1988. Cyhoeddwyd yr ysgrif yn y gyfrol Ar fy myw, gol. Manon Rhys (Dinas Powys, 1989). Ymhlith y papurau ceir llawysgrif a chopïau teipysgrif a phrintiedig o'r darn, gyda beirniadaeth ar y gystadleuaeth, ynghyd â gohebiaeth berthnasol yn cynnwys llythyrau gan Tony Bianchi (4) a Rosanne Reeves (4).

Bianchi, Tony, 1952-

Blodau'r haul

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif a chopïau teipysgrif, 1994-1996, o'r nofel Blodau'r haul (Dinbych, 1996), ynghyd â gohebiaeth a nodiadau perthnasol.

Bywyd du a gwyn

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif a theipysgrif gyda chywiriadau yn llaw yr awdur, 1995-1997, o'r nofel Bywyd du a gwyn (Dinbych, 1997), ynghyd â llythyrau a nodiadau perthnasol, yn eu plith adroddiad am y gwaith.

'On your own'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau gyda chywiriadau llawysgrif, 1992 a [?1997], o'r nofel Saesneg 'On your own' ('Dazzle tide' yn wreiddiol), ynghyd â gohebiaeth a nodiadau perthnasol, 1991-1995, 1997-2000, yn eu plith llythyrau gan Nina Bawden a Neil MacGregor, ac adroddiadau darllenwyr; nodiadau llawysgrif a phrintiedig, yn ogystal â ffotograffau perthnasol, 1991-1995. -- Ymysg yr ohebiaeth mae llythyrau yn ymwneud â chyfieithiad Saesneg o'r nofel Newid ysgol, newid byd, sef 'New school, new stage', 1991-1993, yn cynnwys adroddiadau darllenwyr; a gohebiaeth ynglŷn â chyfieithiad o'i llyfr Tynnu lluniau, 1994.

Bawden, Nina, 1925-

Papurau personol a theuluol

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, [1974x1975], 1991 a 1997-2001 (gydag amryw fylchau), yn ymwneud â hanes ewythr Carys Bell, y Capten Medwyn Jones, sef un o'r rhai a dorrodd warchae Bilbao yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Yn eu plith ceir copïau o lythyr gan Carys Bell a gyhoeddwyd yn Y Cymro, 1997, a phapurau perthnasol megis llungopïau o lythyrau a anfonwyd at y Capten, 1971, a llungopïau o erthyglau papur newydd yn adrodd hanes y gwarchae, 1937. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau ymchwil amrywiol, 1991; a theyrngedau i Carys Bell, 2001, a ddarllenwyd mewn gwasanaeth goffa ym Mhorthmadog, ac a gyhoeddwyd mewn amryw o bapurau newydd.

Erthyglau a sgriptiau Cymraeg

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau a chopïau printiedig, gydag ambell lawysgrif, o erthyglau a sgriptiau Cymraeg gan Carys Richards, [1960x2001]. Mae'r erthyglau yn ymdrin â'r celfyddydau yn bennaf, a chyhoeddwyd amryw ohonynt yn Y Faner a'r Cymro. Yn ogystal, ceir sgriptiau ar gyfer sgyrsiau radio gan Carys Richards yn trafod amrywiaeth o bynciau (nodir bod rhai o'r sgyrsiau ar gyfer y rhaglen 'Merched yn bennaf'). Ymhlith y papurau mae'r atgofion, 'Cyrri ger Carneddi', a gyhoeddwyd yn y gyfrol Ysgub o'r ysgol, gol. William Owen (Penygroes, 1987), ac yn ddiweddarach yn Iancs, conshis a spam, gol. L. Verrill-Rhys (Dinas Powys, 2002); a 'Plentyn y Port', 1987; a theyrngedau i Ruth First, 1982, a Henry Moore, 1986. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau perthnasol, yn eu plith rhai gan Hafina Clwyd (2), Luned Meredith, Helen Steinthal, Emyr Price (2), Meg Dafydd (2), a drafftiau o lythyrau gan Carys Bell.

Clwyd, Hafina

Erthyglau a sgriptiau Saesneg

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, ynghyd â rhai drafftiau llawysgrif a chopïau printiedig, o erthyglau a sgriptiau Saesneg gan Carys Richards, 1957-[2001] (gydag amryw fylchau). Maent yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau; yn eu plith mae adolygiadau o arddangosfeydd celf; ei hatgofion am Olga Rudge, a gyhoeddwyd yn y New Welsh Review, 1990, a Phyllis Playter, a gyhoeddwyd yn The Powys Review, 1991; ac erthygl ganddi, 1999, yn adrodd atgofion Ian Tibbs, cyd-swyddog Alun Lewis yn y fyddin. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau perthnasol, yn eu plith rhai gan Evelyn Silber (2), Belinda Humfrey (3), Robin Reeves a Robert Minhinnick, a drafftiau o lythyrau gan Carys Bell.

Silber, Evelyn,

Newid ysgol, newid byd

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau teipysgrif, 1979-1980, o'r nofel Newid ysgol, newid byd (Dinbych, 1984), ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a lluniau perthnasol, 1979-1981 a 1983-1984.

'Dau lwyfan'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif, 1997-1998, a drafft o deipysgrif, 1998, o'r nofel 'Dau Lwyfan' ('Perthnasau' yn wreiddiol), ynghyd â gohebiaeth a nodiadau perthnasol, 1998-2000, yn cynnwys adroddiad am y gwaith.

'Reed music'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif, 1987, o'r nofel Saesneg 'Reed Music', ynghyd â gohebiaeth berthnasol, 1988-1989.

'Dail helyg'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif, 1996-1997, a theipysgrifau (drafftiau yn bennaf), 2000, o'r nofel 'Dail helyg', ynghyd â gohebiaeth, drafftiau amrywiol a nodiadau perthnasol, 1996-2001, yn eu plith llythyrau gan yr Athro Alistair Crawford (6), ac adroddiad am y gwaith.

Crawford, Alistair

'Celwyddau'

Mae'r ffeil yn cynnwys rhan gyntaf o lawysgrif, ynghyd â chynllun, 1998, o waith a ymddengys i fod yn nofel yn dwyn y teitl 'Celwyddau'.

'Plant y Port'

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud â drama gan Carys Bell gyda cherddoriaeth gan Olwen Morris, sef 'Plant y Port', a gynigiwyd ar gyfer y gystadleuaeth 'A play for Wales' a drefnwyd gan y Liverpool Daily Post mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd, 1977. Ceir llawysgrifau a theipysgrifau o'r sgript a'r caneuon, rhai ohonynt yn ddrafftiau, yn ogystal â'r sgôr cerddorol, c. 1975, a chopi o'r sgript radio, 'Caesar's back in town' gan Gordon Snell a Gordon Clyde, darlledwyd 1976. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau, 1977, 1979-1983, 1985 a 1989, amryw ohonynt gan gwmnïau teledu yn trafod y gwaith; yn eu plith ceir llythyr gan Siôn Eirian.

Eirian, Siôn,

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng Carys Bell a'r Parch. Huw Ethall a'i wraig Hilda, 1981 a 1989-2001; llythyrau gan yr arlunydd Helen Steinthal, 1981 a 1989-1991, ynghyd â nodiadau bywgraffydol yn ei llaw a chopi o deyrnged Carys Bell iddi a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1992; gohebiaeth, 1980 a 1982-1985, rhwng Carys Bell a Selyf Roberts (Cadeirydd Undeb Awduron Cymru), sef cyngor ynghylch ei gweithiau llenyddol, gyda chrynodeb ac adroddiad darllenydd o'i nofel Ynys y cylch; gohebiaeth rhwng Carys Bell a gwasg Honno, 1988-2000 (gyda bylchau), yn cynnwys llythyrau gan Leigh Verrill-Rhys (4) a Deirdre Beddoe (copi), ynghyd â llawysgrif atgofion Carys Bell am ei phlentyndod adeg yr Ail Ryfel Byd, a ymddengys i fod yn ddrafft o'r ysgrif a gyfrannodd ar gyfer y gyfrol Parachutes and petticoats; a gohebiaeth amrywiol, 1970-2001 (gydag amryw fylchau).

Huw Ethall