Cyfrol o emynau ac emyn-donau, 1824-1827, yn bennaf yn llaw 'Ioan ap Iago ap Dewi', o bosib John James (Ioan ap Iago), Cil-y-cwm, sir Gaerfyrddin, bardd ac awdur y llyfr Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llanymddyfri, 1828), a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. = A volume of hymns and hymn-tunes, 1824-1827, mainly in the autograph of 'Ioan ap Iago ap Dewi', who is possibly to be identified with John James (Ioan ap Iago) of Cil-y-cwm, Carmarthenshire, poet and author of the posthumously published Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llandovery, 1828).
Mae'r tonau a'r geiriau, gyda defnydd ysbeidiol o goelbren y beirdd, wedi eu rhwymo gyda chopi printiedig o John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Abertawe, 1823). Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys tair cyfres o englynion (f. 2 recto-verso), un wedi ei briodoli i Dafydd ap Gwilym (f. 2), ac un arall i Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). Mae dalen brintiedig yn dwyn yr emyn 'Y Cristion yn Marw' gan P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Abertawe, [?1827]) wedi ei phastio y tu mewn i'r clawr blaen (gweler hefyd ff. 65 verso-68), a sieciau London Bank, yn daladwy i Evan Morgan, 1823, wedi eu pastio y tu mewn i'r clawr cefn. = The manuscript tunes and words, with occasional use of coelbren y beirdd, are bound with a printed copy of John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Swansea, 1823). Also included are three sequences of englynion (f. 2 recto-verso), one attributed to Dafydd ap Gwilym (f. 2) and another to Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). A printed leaf containing the hymn 'Y Cristion yn Marw' by P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Swansea, [?1827]) has been pasted inside the front cover (see also ff. 65 verso-68), and cheques of the London Bank, payable to Evan Morgan, 1823, have been pasted inside the back cover.