Print preview Close

Showing 35 results

Archival description
file English
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Cerddi

Llyfr nodiadau gan gynnwys ei bryddest i 'Abraham Lincoln' [a enillodd goron iddo yn San Ffransisco yn 1913]; llyfr nodiadau, 1913, yn cynnwys cerdd i G[oronwy] O[wen]; amlen gyda drafftiau o'r cerddi 'Morgannwg (Gwlad y glo)' a 'Mynwent y cŵn (yn Nanteos)'; llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi ar ffurf torion o'r wasg ar gyfer Trydydd Cerddi Crwys a gyhoeddwyd yn 1935 (ond rhoir 1936 ar ddiwedd rhagair y llawysgrif), ynghyd â thorion diweddarach megis 'Anathoth', Y Tyst, 1966 ac amlen wedi'i labelu 'Poems by Dad'; a chopi o Shakespeare, The Merchant of Venice (Rhydychen, 1891) gyda cherdd 'Casglu blodau' gan W. C. Williams, [18]95, wedi'i hysgrifennu yn y gyfrol.

Adysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys adysgrif o F. H. Bradley, Ethical Studies (Llundain, 1876) ac un arall yn cynnwys adysgrif o Wilhelm Bousser, What is religion? (Llundain, 1907) yn yr un llaw, [1876]-[1920]. Ymddengys nad Crwys sydd wedi gwneud y gwaith copïo.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys ysgrif 'The itinerant prophet etc' gan Crwys, 1925, ond a ysgrifennwyd yn Gymraeg; sgript 'Siencyn Penrhydd' gan Crwys, a llythyr, 1953, oddi wrth Elwyn Evans, BBC, yn ei gwrthod; llyfr nodiadau'n cynnwys ?anerchiad gan Crwys yn Saesneg ar 'the late Tom Ellis' [T. E. Ellis], [1899]-[1900]; 'Cywydd cyfarch Wncwl Crwys yn Neuadd y Graig' [yn 90 oed, 1965] gan Gwilym Herber [Williams]; a thaflen rhaglen deyrnged i Crwys a gynhaliwyd o dan nawdd Tŷ'r Cymry yn Abertawe, 1966.

Williams, Gwilym Herber

Timothy Richard

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau (heb eu trefnu'n gronolegol) oddi wrth Timothy Richard, a dau oddi wrth ei wraig Mary (ff. 1 a 6), wedi eu hysgrifennu yn bennaf at ei fam. Sonnir ynddynt am ei waith cenhadol a'r Eglwys yn China.

Richard, Timothy, 1845-1919

Results 1 to 20 of 35