Showing 4 results

Archival description
file
Print preview View:

Effemera gwleidyddol

Papurau, 1922-1965, gan gynnwys taflen etholiadol William James Jenkins, ymgeisydd Llafur yn Etholiad Cyffredinol 1924; erthyglau printiedig, 1922-1924, yn allweddol i hanes cychwyn Plaid Genedlaethol Cymru; papurau'n ymwneud â materion ariannol fel Cronfa Gwŷl Dewi a chyfraniadau Penfro; agendâu pwyllgor gwaith Rhanbarth Dyfed, 1938-1939; rhestr o'r Ysgolion Haf a gynhaliwyd, 1926-1955, a nodiadau am flynyddoedd cynnar Y Blaid Genedlaethol; llythyr, 1959, yn enw D. J. Williams yn apelio am gyfraniadau at gronfa Waldo Williams fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro'r flwyddyn honno a'i daflen etholiadol; copïau o gofrestr etholwyr Abergwaun, 1966, rhestr o aelodau'r Blaid Cangen Sir Benfro a rheolau'r etholiad; trefniadau adloniant yn Abergwaun i godi arian i'r Blaid; 'Llyfr canu Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol 1933, Blaenau Ffestiniog', ynghyd â phapur a roddwyd gan J. E. Jones gyda'r teitl 'The present situation in Wales and the progress and task of the Welsh National Movement' mewn cyngres FUEN (Undeb Ffederal y Cenhedloedd Ewropeaidd) yn Leeuwarden, Yr Iseldiroedd.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Llythyrau,

Llythyrau, 1966-1969. Ymhlith y gohebwyr mae J. E. [Jones], Harri Webb, D. J. [Williams] (3) a John Fitzgerald.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Llythyrau J-L

Llythyrau oddi wrth W. A. Jenkins, E[van] D[avid] Jones, Ebeneser Aman Jones, Gwyn Jones, Iorwerth Jones, J[ohn] E[dward] Jones, John W. Jones, William Glasnant Jones, T[homas] A[rthur] Levi a J. D. Lewis a'i Feibion (Gwasg Gomer), Harry [Liffy], [D.] Myrddin Lloyd, 1924-1972.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Llythyrau

Llythyrau yn ymwneud â Phlaid Cymru, er bod naws lled-bersonol i rai o'r lythyrau, 1926-1945. Ceir hefyd ffurflenni aelodaeth. Mae yma lythyrau oddi wrth J. E. Jones a H. R. Jones.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970