Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Mesopotamia

Copi o'r Times of Mesopotamia, 5 Mehefin 1927, a olygwyd ganddo, adysgrifau, 2018, o lythyrau oddi wrtho at Caradog Prichard, 1928, ac allbrintiau, 2017, o archif hanesyddol y Daily Mail o erthyglau a gyfrannodd i’r papur hwnnw, 1928-1929.

Ffotograffau

Ffotograffau a thorion yn ymwneud â'i lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol; ei daflen etholiad fel ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn mewn Etholiad Cyffredinol, [1964x1970]; gweithio gyda’r BBC; llungopïau o’r Radio Times am y ddrama ‘Y darn arian’ a gyfieithiwyd ganddo o’r Saesneg ac a ddarlledwyd yn 1936, a sgwrs ganddo ‘Alltud o Gymro yn Ceylon’ a ddarlledwyd yn 1937.

Personalia

Papurau personol amrywiol Nansi Selwood ac yn ymwneud â hi, 1947-2017, gan gynnwys rhaglen Noson Wobrwyo Gwobr Goffa Griffith John Williams, 1988, pan ddyfarnwyd iddi'r wobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei nofel Brychan dir; rhaglenni cymdeithasau y bu'n eu hannerch; allbrintiau o erthyglau a gyhoeddwyd ar y We yn 2012 yn ymwneud â’i golwg yn dirywio ac fel yr aeth ati i ddysgu braille yn ei hwythdegau, ynghyd â thaflen angladd ei mam Martha Williams, 1969, a thaflen gwasanaeth angladd Nansi Selwood, 18 Chwefror 2017.

Cyfansoddiadau cerddorol

Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).

Barddoniaeth

Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Ffiniau’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Llwybrau’; englyn unodl union: ‘Darlun’; telyneg: ‘Copa’; cywydd teyrnged 18 llinell; soned: ‘Llidiart’; filanél: ‘Tywyllwch’; casgliad o chwe cherdd, yn addas ar gyfer yr arddegau: agored; a cherdd dddychan: ‘Gwleidydd'.

Gwyliau cerdd

Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru, 1978, pan berfformiwyd ‘Arfon’ gan Ian Parrott am y tro cyntaf gan Elinor Bennett
Gŵyl Gerdd Menai, 1982, cyngerdd dwy delyn gan Elinor Bennett a Meinir Heulyn
Gŵyl Aberystwyth, 1982, teyrnged i Alwena Roberts ['Telynores Iâl] gan Meinir Heulyn ac Elinor Bennett
Gŵyl Gorawl Caerdydd, 1983, Côr telynau
Gŵyl Gerdd Abergwaun, 1983, 1988, a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun, 2001, cyngerdd gyda Chantorion John S. Davies yn 2001
Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru, 1985
Cerdd Aberystwyth, Canolfan Celfyddydau, 1987-8, datganiad: ‘The harp from Mozart to folk song’
Gŵyl Cricieth, 1988, 1992, 1994, 1995, 1996
Gŵyl Gerdd a chelf Abertawe, 1988, deuawd telyn gyda Judith Hall ar y ffliwt
City of London Festival, 1988, deuawd telyn gyda Meinir Heulyn a Chôr Orpheus Treforys
Bowdon Festival, 1989
Mananan International Festival of music and the arts, 1989
Gower festival, 1989, datganiad ffliwt a thelyn gyda Judith Hall
Gŵyl Gerddoriaeth Bro Morgannwg, 1990, 1992, 1995, 2011, deuawd telyn gyda Judith Hall ar y ffliwt, 1990
Gŵyl Beaumaris, 1990, Barddoniaeth a thelyn gyda R. S. Thomas, Gŵyl Beaumaris Festival 2004, Dwy Delyn gyda Catrin Finch a datganiad yr ŵyl yn 2016
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 1990

Gwaed ifanc

Llyfr nodiadau gyda stamp Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys cerddi ganddo 1921-1924, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Gwaed ifanc yn 1923 gyda cherddi gan E. Prosser Rhys, a llungopi o’r gyfrol, ynghyd ag adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, 2016. Ceir gosodiad cerdd dant Dewi Mai o Feirion mewn sol-ffa o ddwy gerdd ‘Atgof’ a ‘Mi wn’ gan John Eilian, Nadolig 1947, i ddathlu llwyddiant John Eilian yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1947.

Results 1 to 20 of 1033