Showing 9 results

Archival description
Roberts, Kate, 1891-1985 file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1960

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod cyfarfodydd cynnar yr Academi ac ethol ei swyddogion cyntaf; Yr Athro Griffith John Williams (Llywydd), Iorwerth Peate (Cadeirydd), Bobi Jones (Ysgrifennydd) a Gwilym R. Jones (Trysorydd), ynghyd â llungopïau o'r drafodaeth a fu yn y wasg a sylwadau ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Saunders Lewis, J. M. Edwards, Thomas Parry, Gwenallt, Waldo Williams, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies, Euros Bowen, D. J. Williams, T. J. Morgan a D. Myrddin Lloyd.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1963

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, a threfnaiadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Kate Roberts, Iorwerth Peate a Griffith John Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1965

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Alun Talfan Davies, John Gwilym Jones, Kate Roberts, Bedwyr Lewis Jones, Gwyn Thomas, Rhiannon Davies Jones, Alun Jones, Y Cilie, Gareth Miles a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1968

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Hugh Bevan, Kate Roberts ac R. S. Thomas. Ceir cyfeiriadau at ystyried, a gwrthod, rhoi Gwobr Griffith John Williams i Cymru Fydd, Saunders Lewis, at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig yn sgîl anogaeth gan Meic Stephens a than ysgrifenyddiaeth Sally Roberts.

Thomas, Gwyn, 1936-

Papurau J. Gwyn Griffiths

  • NLW ex 2337
  • file
  • 1948-1982

Papurau, 1948-1982, a gasglwyd ynghyd gan yr Athro J. Gwyn Griffiths, y mwyfarif yn lythyron yn ymwneud â chyhoeddiad a olygwyd ganddo ar D. J. Williams, Abergwaun. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. Gwenallt Jones, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan Davies a Bobi Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â Phlaid Cymru, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1948-1958, Cangen Abertawe o'r Blaid, a phapurau amrywiol eraill.

Griffiths, John Gwyn

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • file
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977