Showing 6 results

Archival description
Miscellaneous letters and papers item
Print preview View:

Cŵyn yr Indiad,

Cyfres o bum englyn penfyr yn dwyn y teitl 'Cŵyn yr Indiad', yn llaw R. Bryn Williams, [?1980], sydd yn ddetholiad o benillion o'i awdl 'Patagonia', a enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964 (gw. R. Bryn Williams, Patagonia (Aberystwyth, 1965), tt. 32-33, ac R. Bryn Williams, O'r Tir Pell: Cyfrol o Gerddi (Lerpwl, 1972), tt. 86-87). = A series of five englynion penfyr titled 'Cŵyn yr Indiad', in the hand of R. Bryn Williams, [?1980], being a selection of verses from his awdl 'Patagonia', which won him the chair at the 1964 National Eisteddfod in Swansea (see R. Bryn Williams, Patagonia (Aberystwyth, 1965), pp. 32-33, and R. Bryn Williams, O'r Tir Pell: Cyfrol o Gerddi (Liverpool, 1972), pp. 86-87).

Williams, R. Bryn.

Englynion gan Elfyn,

Copïau, [1920au], mewn llaw anhysbys, o chwe englyn gan Robert Owen Hughes (Elfyn), sydd yn ddetholiad o'r gerdd 'Addef ac Ymbil' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, 60 (1905), 89-90 (f. 1 recto-verso). = Copies, [1920s], in an unknown hand, of six englynion by Robert Owen Hughes (Elfyn), being a selection from the poem entitled 'Addef ac Ymbil', published in Y Traethodydd, 60 (1905), 89-90 (f. 1 recto-verso).
Cynhwysir hefyd y ddau englyn ar garreg ei fedd yn Llan Ffestiniog, sef un o'i waith ei hun, a'r llall o waith Eifion Wyn (f. 1 verso). = Also included are the two englynion inscribed on Elfyn's tombstone at Llan Ffestiniog, one of his own composition, and the other by Eifion Wyn (f. 1 verso).

Elfyn, 1858-1919

Llythyr Kate Roberts,

Llythyr, 4 Gorffennaf 1960, oddi wrth Kate Roberts, Dinbych, at [y Parch. W. Llewelyn Jones], yn trafod bywyd cynnar R. Williams Parry. = A letter, 4 July 1960, from Kate Roberts, Denbigh, to [the Rev. W. Llewelyn Jones], discussing the early life of R. Williams Parry.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyr Kate Roberts,

Llythyr, 30 Mawrth 1928, oddi wrth Kate Roberts, Aberdâr, at [?David George] Williams, [Ystalyfera], yn cyfeirio at ffotograff ohoni yn y Western Mail ac yn cwyno nad ydi hi byth yn clywed oddi wrth bron i gyd o'i chyfeillion eraill yn Ystalyfera. = A letter, 30 March 1928, from Kate Roberts, Aberdare, to [?David George] Williams, [Ystalyfera], referring to a photograph of her in the Western Mail and complaining that she no longer hears from most of her other friends in Ystalyfera.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyr T. Gwynn Jones,

Llythyr, 5 Mai [recte Mehefin] 1941, oddi wrth yr Athro [Emeritws] T. Gwynn Jones at yr Athro Ganon W. H. Harris, a oedd newydd ei benodi yn Athro'r Gymraeg, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn bennaf yn trafod ei hen gwrs Llenyddiaeth Gymraeg yn Aberystwyth, a'r darpar offeiriaid a gweinidogion a ddysgodd yno. = Letter, 5 May [recte June] 1941, from [Emeritus] Professor T. Gwynn Jones to Professor Canon W. H. Harris, who was newly appointed Professor of Welsh at St. David's College, Lampeter, mainly concerning Jones's former course in Welsh literature at Aberystwyth and the trainee clergy and ministers he taught there.
Mae Jones yn ateb llythyr gan yr Athro Harris, dyddiedig 31 Mai 1941, yn gofyn iddo am gopi o brospectws ei hen gwrs (gw. NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones G1930). = The letter is in reply to that of Professor Harris, dated 31 May 1941, asking Jones for a copy of the prospectus for his former course (see NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones G1930).

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Llythyrau O. M. Edwards,

Pedwar llythyr, 1900-1902, oddi wrth O. M. Edwards, tri at [W. A.] Lewis, 1900-1901 (ff. 26-28), ac un at un Mr Edwards, 22 Tachwedd 1902 (f. 29), yn ymwneud yn bennaf â busnes cyhoeddi. = Four letters, 1900-1902, from O. M. Edwards, three addressed to [W. A.] Lewis, 1900-1901 (ff. 26-28), and one to a Mr Edwards, 22 November 1902 (f. 29), mainly relating to publishing concerns.
Ysgrifennwyd y llythyrau yn y trên o Lundain i Rydychen (f. 26), yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen (ff. 27, 29), ac yn Llanuwchllyn (ff. 28); mae cyfeiriadau ynddynt at Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (ff. 26-27), Robert Bryan (ff. 26, 28) a John Penry (f. 29). = The letters were written on the London to Oxford train (f. 26), at Lincoln College, Oxford (ff. 27, 29) and in Llanuwchllyn (f. 28); there are references in them to Isaac Foulkes (Llyfrbryf) (ff. 26-27), Robert Bryan (ff. 26, 28) and John Penry (f. 29).

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920