Showing 10 results

Archival description
Only top-level descriptions Ffeil = File
Print preview View:

Llythyrau oddi wrth Griffith ac Elizabeth Williams, Abersoch

  • NLW ex 2916
  • Ffeil = File
  • 1819-30, 2015.

Grŵp bach o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg, 1819-30, oddi wrth Griffith ac Elizabeth Williams, Abersoch at eu meibion William William Griffith a Owen Griffith oedd wedi ymfudo i Utica a Steuben, Talaith Efrog Newydd, gan gynnwys tri llythyr oddi wrth fab arall Solomon Williams, Cei Newydd, at ei frawd William yn yr Amerig. Ceir cyfrol yn cynnwys erthygl y rhoddwr ‘Our dearest children’ a gyhoeddwyd fel ‘Letters from Wales’ yn Ninnau, Mawrth-Ebrill 2015, deunydd achyddol a chyfieithiadau o’r llythrau i Saesneg i gyd-fynd gyda’r llythyrau. = A small group of letters written in Welsh, 1819-30, from Griffith and Elizabeth Williams, Abersoch to their two sons, William William Griffith and Owen Griffith who had emigrated to Utica and Steuben, New York State respectively, including three from another son Solomon Williams, New Quay, to his brother William in the States. An accompanying volume comprising the donor’s article ‘Our dearest children’ published as ‘Letters from Wales’ in the Welsh/American newspaper Ninnau, March-April 2015, genealogical information and translations of the letters into English has been included with the letters.

Williams, Griffith

Llyfr tonau

  • NLW MS 18994A.
  • Ffeil = File
  • 1856-1857

Llyfr tonau yn cynnwys emyn-donau, etc. Nodiant cerddorol. = Tune book including hymn-tunes, etc. Music notation.

Llythyr Trevor Jones, Rival Quarry,

  • NLW ex 2924
  • Ffeil = File
  • 1858, 2006, 2013

Llythyr, 1858, oddi wrth Trevor Jones, Rival Quarry, at David Jones, a oedd yn eiddo i Megan Roberts, ynghyd â llythyr cefndirol, 2013, oddi wrthi. Enwyd pentref Trefor ar ôl y Trevor hwn. Derbyniwyd copi hefyd o lyfr Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor, a gyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, yn 2006 i nodi canmlwyddiant sefydlu’r pentref newydd hwn.

Jones, Trevor

Llythyrau William Rhys Thomas

  • NLW ex 2918
  • Ffeil = File
  • 1897-2006

Papurau, 1897-2006, gan gynnwys llythyrau, 1901-[1958], a anfonwyd gan William Rhys Thomas (1879-1962) at ei chwaer Bess a’i rieni yng Nghlyn-nedd, wedi iddo ymfudo i Awstralia yn 1901 i weithio yng ngwaith glo Collie ger Perth fel gyrrwr injan. Ceir adroddiad ‘Ychydig o hanes fy nhaith o Plymouth i Awstralia’; ynghyd â llythyrau diweddarach oddi wrth ei ferched Gwladys ac Olwen at eu modryb Bess, a llythyr oddi wrth wyres William Thomas at y rhoddwr, ynghyd â gwybodaeth achyddol amdano a sgwrs a draddodwyd gan y rhoddwr am y llythyrau.

Thomas, William Rhys, 1879-1962

Papurau W. Llewelyn Edwards,

  • NLW ex 2928
  • Ffeil = File
  • [1915]-[1993]

Papurau ychwanegol, [1915]-[1993], y cerddor William Llewelyn Edwards, yn cynnwys drafft o’i gyfrol gyntaf o emyn-donau Clychau’r maes (Llandysul, 1976) gyda’r hen nodiant yn ei law; llyfrau lloffion yn cofnodi ei lwyddiannau cerddorol a darlledu eu emyn-donau ar ‘Caniadaeth y Cysegr’; llythyrau yn ei longyfarch ar ennill y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982; a nodiadau cefndirol ar ei emyn-donau. Ceir traethawd ‘Golwg ar fywyd a gwaith William Llewelyn Edwards, Bron Rhiwel, Llandre, Bow Street, cyfansoddwr emyn donau’ gan Anwen Ebenezer, a chyfrol ’Iesu bia’r gân’ yn cynnwys emyn-donau J. T. Rees a fu’n dysgu cerddoriaeth i William Llewelyn Edwards.

Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000

Llythyrau J. R. Jones

  • NLW ex 2940
  • Ffeil = File
  • 1945, 1970

Naw llythyr, 1970 a heb ddyddiad, yn Gymraeg, oddi wrth yr Athro J. R. Jones at aelodau o'i deulu, ynghyd â llythyr ato gan yr Athro Richard I. Aaron, 1945.

Aaron, Richard I. (Richard Ithamar), 1901-1987