Dangos 2349 canlyniad

Disgrifiad archifol
Is-fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhoddion Mai 2018 a Mai 2019

Papurau, 1950-2016, gan gynnwys gohebiaeth, papurau’n ymwneud â’r Mudiad Efengylaidd, darlithiau ar grefydd, llyfryddiaeth, ei wefan, ynghyd â rhai cyfieithiadau o’i gerddi.

Rhodd Ionawr 2024

Papurau gan neu'n ymwneud â Mathonwy Hughes, sy'n cynnwys deunydd yn ymwneud â bywyd a gwaith Mathonwy Hughes ac â bywyd diwylliannol Dyffryn Nantlle; ynghyd â pheth deunydd gan neu'n ymwneud â'r bardd a'r golygydd Gwilym R. Jones.

Rhodd 2021

Papurau gwleidyddol Ieuan Wyn Jones gan gynnwys deunydd yn ymwneud a'i ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Gyfunol, ei waith fel Aelod Seneddol dros Ynys Mon, gwaith o fewn Plaid Cymru, fel Aelod o'r Cynulliad dros Ynys Mon, Llywydd Plaid Cymru, Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol a Dirprwy Prif Weinidog Cymru.

Rhodd 2000

Gohebiaeth yn bennaf, 1926-1989. Mae nifer helaeth o'r llythyrau'n deillio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987. Ceir hefyd lythyrau, 1951-1952, a dderbyniodd tra'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain; papurau'n deillio o'i gyfnod yn ddisgybl yn Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala, 1927-1934; copi o'i draethawd 'Golwg ar hanes ardal Llawrybetws neu Nantffreuer: o Bethel i lawr i Gaefaes', 1988-1990; a phapurau amrywiol, 1930-1989.

Rhodd 1975,

Llythyrau at Hughes a'i Fab, 1909-1949, cyfansoddiadau llenyddol Eisteddfod Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1942, a chyfansoddiadau eisteddfod Chwilog, 1946.

Pryniad 2005-2006,

Papurau personol, papurau proffesiynol a phapurau llenyddol D. Tecwyn Lloyd, ynghyd â rhai'n ymwneud â hanes lleol a phapurau pobl eraill, [1870]-1998, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau a phapurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol megis ei astudiaeth o Saunders Lewis. Ceir deunydd yn gysylltiedig â'i waith fel golygydd i'r cylchgrawn Taliesin ac fel tiwtor addysg i oedolion.

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies, [1911]-[2017], yn ymwneud â’i gyhoeddiadau a pharatoi llyfrau am ei Dad y Parch. T. Eirug Davies, bardd a golygydd, ynghyd â phapurau ei Dad.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Canlyniadau 1 i 20 o 2349