Deunydd yn ymwneud â dyletswyddau achlysurol John Meirion Morris fel cynhyrchydd llwyfan tra 'roedd yn athro celf yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, 1961-1964, a thra 'roedd yn ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1968-1978. Y cynhyrchiadau dan sylw yw: 'The Pirates of Penzance' gan Arthur Sullivan a W. S. Gilbert (cynhyrchwyd gan John Meirion Morris a perfformwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur Llanidloes, 1963); 'Iolanthe' gan Arthur Sullivan a W. S. Gilbert (cynhyrchwyd gan John Meirion Morris a perfformwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur Llanidloes, 1964); 'Y Llyffantod'' gan y dramodydd, athro a darlithydd Hugh Lloyd Edwards (cynhyrchwyd gan John Meirion Morris a perfformwyd gan Gymdeithas Drama Myfyrwyr Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1975); a 'Pryderi' gan y prifardd, llenor a chyhoeddwr Myrddin ap Dafydd, oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth (cynhyrchwyd gan John Meirion Morris a perfformwyd gan Gymdeithas Ddrama Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, 1976). Ceir hefyd lythyrau, 1968 ac annyddiedig, at John Meirion Morris oddi wrth H. Pierce Jones, Y Ficerdy, Pwllheli yn ymwneud â drama anhysbys (?'Y Gweilch'); deunydd yn ymwneud â drama 'Blodeuwedd' gan y gwleidydd, bardd, dramodydd a beirniad llenyddol Saunders Lewis, lle nodir John Meirion Morris fel 'cynllunydd' (perfformwyd gan Gwmni Drama Myfyrwyr Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1978); a llythyrau annyddiedig at John Meirion Morris oddi wrth y gweithredydd gwleidyddol Emyr Llywelyn (Emyr Llew) ynghylch drama o'r enw 'Heledd'. Mae'r deunydd yn cynnwys gohebiaeth, rhaglenni printiedig, torion o'r wasg a ffotograffau. Ymysg y gohebwyr mae Myrddin ap Dafydd; Emyr Llywelyn; y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a sefydlwr cwmnïau teledu Wil Aaron; a'r gantores, llenor a'r darlledydd Amy Parry-Williams. Ceir nodiadau cefndirol ar y deunydd yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris.
= Material relating to John Meirion Morris' occasional duties as a stage producer while he was working as an art teacher at Llanidloes Secondary School, 1961-1964, and as a lecturer in the Education Department of University College of Wales Aberystwyth, 1968-1978. The productions are: 'The Pirates of Penzance' by Arthur Sullivan and W. S. Gilbert (produced by John Meirion Morris and performed by Llanidloes Amateur Operatic Society, 1963); 'Iolanthe' by Arthur Sullivan and W. S. Gilbert (produced by John Meirion Morris and performed by Llanidloes Amateur Operatic Society, 1964); 'Y Llyffantod' ('The Frogs') by the dramatist, teacher and lecturer Hugh Lloyd Edwards (produced by John Meirion Morris and performed by University College of Wales Aberystwyth Welsh Students' Drama Society, 1975); and 'Pryderi' by the chaired bard, writer and publisher Myrddin ap Dafydd, who was at the time a student at University College of Wales Aberystwyth (produced by John Meirion Morris and performed by University College of Wales Aberystwyth Welsh Students' Drama Society, 1976). Also included are letters, 1968 and undated, to John Meirion Morris from H. Pierce Jones, The Vicarage, Pwllheli relating to an unnamed play (?'Y Gweilch' ('The Hawks')); material relating to the play 'Blodeuwedd' by Welsh politician, poet, dramatist and literary critic Saunders Lewis, where John Meirion Morris is noted as 'designer' (performed bu University College of Wales Aberystwyth Welsh Students' Drama Society, 1978); and undated letters to John Meirion Morris from the political activist Emyr Llywelyn (Emyr Llew) regarding a play titled 'Heledd'. The material includes correspondence, printed programmes, press cuttings and photographs. Amongst the correspondents are Myrddin ap Dafydd; Emyr Llywelyn; the producer, director and television company founder Wil Aaron, and the singer, writer and broadcaster Amy Parry-Williams. Also included are background notes on the material in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.