Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions Valentine, Lewis
Print preview View:

Yr Argyfwng : Rhagair a Diweddglo/Llawysgrif,

  • NLW MS 16954E.
  • file
  • [1953]-1954 /

Llawysgrif ddrafft, 1954, o Ragair a Diweddglo 'Yr Argyfwng' gan W. Ambrose Bebb yn ei law ei hun; un llythyr, 1954, a phedwar cerdyn post, 1954, oddi wrth Bebb at Alan Talfan Davies, rhoddwr y llawysgrif, yn ymwneud â chwblhau a chyhoeddi 'Yr Argyfwng'; torion o'r Herald Cymraeg, 1953, sef pigion o Golofn y Llenor a ysgrifennwyd gan Bebb, gan gynnwys rhai o'r wyth o ysgrifau a gyhoeddwyd yn yr Herald dan y teitl 'Yr Argyfwng' yn ystod gwanwyn 1953; sylwadau, 1954, ar 'Yr Argyfwng', fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf erthyglau yn yr Herald Cymraeg, gan y Parchedig J. P. Davies, Porthmadog, yr Athro Oliver Stephens, John Charles Jones, Esgob Bangor, y Parchedig E. Tegla Davies, a'r Parchedig Lewis Valentine. Cyhoeddwyd 'Yr Argyfwng' ar ffurf llyfr flwyddyn wedi marw Bebb, ym 1956 = Autograph draft manuscript, 1954, of the Foreword and Conclusion to 'Yr Argyfwng' by W. Ambrose Bebb; one letter, 1954, and four postcards, 1954, from Bebb to Alan Talfan Davies, the donor of the manuscript, relating to the completion and publication of 'Yr Argyfwng'; press cuttings from the Herald Cymraeg, 1953, which consist of some of Bebb's weekly columns and including some of the series of eight pieces of writing which were published in the Herald under the title 'Yr Argyfwng' during the spring of 1953; comments and observations, 1954, on 'Yr Argyfwng', in its original form of printed articles in the Herald Cymraeg, by the Reverend J. P. Davies, Porthmadog, Professor Oliver Stephens, John Charles Jones, Bishop of Bangor, the Reverend E. Tegla Davies, and the Reverend Lewis Valentine. 'Yr Argyfwng' was published in book form posthumously in 1956.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Papurau J. Gwyn Griffiths

  • NLW ex 2337
  • file
  • 1948-1982

Papurau, 1948-1982, a gasglwyd ynghyd gan yr Athro J. Gwyn Griffiths, y mwyfarif yn lythyron yn ymwneud â chyhoeddiad a olygwyd ganddo ar D. J. Williams, Abergwaun. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Kate Roberts, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. Gwenallt Jones, Gwynfor Evans, Aneirin Talfan Davies a Bobi Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys papurau yn ymwneud â Phlaid Cymru, gan gynnwys llyfr cofnodion, 1948-1958, Cangen Abertawe o'r Blaid, a phapurau amrywiol eraill.

Griffiths, John Gwyn