Showing 4 results

Archival description
Papurau Erfyl Fychan Cynan, 1895-1970
Print preview View:

Llythyrau'r Orsedd

Llythyrau'n trafod materion yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1950-1965. Ymhlith y gohebwyr mae Mam o Nedd (1) a 'Note as to the duties of the Mistress of the Robes' ganddi, 1952; Trefîn (3) yn cynnwys ei gywydd coffa i Elfed, 1954; D. Rhys Phillips (2); Brynallt (13); Cynan (8); Leila Megane (1); a Maxwell Fraser (2).

Coombe Tennant, Winifred, 1874-1956

Llythyrau

Llythyrau, [1949]-[1963], gan gynnwys rhai oddi wrth y Fonesig Amy Parry-Williams, Brynallt (3), Mam o Nedd, Cynan, Telynores Rhondda (2), Caerwyn (3), J. Dyfnallt Owen, Trefîn (2), Syr John Cecil-Williams, D. Jacob Davies, Clement Davies, Gwilym R. Tilsley; ynghyd â mân bapurau gan gynnwys taflen, 1931, yn hysbysebu cyhoeddi llyfr Erfyl Fychan, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a 'Serch ifanc a huna' sef cyfieithiad Erfyl Fychan o eiriau Arthur Somerverell 'Young love lies sleeping', Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 (printiedig).

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988

'Cell gymysg'

'Cell gymysg' sef casgliad o adysgrifau gan Erfyl Fychan a ddechreuodd yn 1929, gan gynnwys anterliwt gan Ellis y Cowper a nifer o englynion gan T. Gwynn Jones. Ceir hefyd enghreifftiau o waith Erfyl Fychan ei hun gan gynnwys 'Y Di-wifr'; penillion 'Dadl ynghylch Neuadd y Sir ym Maldwyn 1930'; 'Noswyl J. Breese Davies, Dinas Mawddwy, hunodd 4/x/40'; englyn, 'Eryri'; penillion a luniodd ar gyfer agoriad Gŵyl Gerdd Dant Cymru yn Y Felinheli, 1947, a phenillion cyfarch i D. R. Hughes ('Myfyr Eifion') ar achlysur cyflwyno Tysteb Genedlaethol iddo yng Nghaerdydd yn 1948; 'Carol y Byd Dyrus', 1962, a chyfarchion pen-blwydd i Cynan yn 70, 1965. Ceir hefyd ychwanegiadau gan [ei fab Geraint Vaughan-Jones] a phapurau rhydd yn ei law.

'Llythyrau llenorion ac eraill'

Llythyrau, 1926-1965, yn ymwneud â'i yrfa academaidd, atebion ynglŷn â'i waith ymchwil a'i ddiddordebau eraill megis yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys rhai oddi wrth Clement Davies (2), Bryfdir (1), J. T. Jones (3), J. L. Cecil-Williams (2), T. H. Parry-Williams (2), T. Gwynn Jones (26), ynghyd â dau dystlythyr ganddo, 1935, 1942, Dora Herbert Jones (1), Gwilym R. Tilsley (2), Brynallt (2), Dillwyn Miles (1), Cynan (2), E. R. Winstedt, golygydd y Gypsy Lore Society (6), D. J. Williams, Abergwaun (1), J. Dyfnallt Owen (1), J. O. Williams (1), William George (1). Ceir hefyd eitemau eraill megis sgript 'Cerdd Dant' gan Erfyl Fychan a ddarlledwyd yn 'Yr Egwyl Gymraeg', [?1935], 'Cân Geraint' ganddo, [c. 1929] a rhaglen dadorchuddio cofgolofn i I. D. Hooson, 1952.

Davies, Clement, 1884-1962