Showing 5 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn James, Wynfford Ffeil / File
Print preview View:

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth at neu oddi wrth aelodau o deulu Menna Elfyn, gan gynnwys llythyr at Menna Elfyn oddi wrth ei mam; llythyr at Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, oddi wrth Plaid Cymru; llythyrau cyd-rwng Wynfford James a Chyngor Celfyddydau Cymru; ebost at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James sy'n blaenyrru ebyst oddi wrth amryw ohebwyr; ebost at Menna Elfyn oddi wrth ei merch Fflur Dafydd sy'n blaenyrru ebyst a anfonwyd cyd-rwng Fflur Dafydd a Nigel Jenkins; a nifer o gardiau post a anfonwyd gan Menna Elfyn o amryw lefydd ledled y byd at ei rhieni a'i chwaer.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, ebyst, cardiau a chardiau Nadolig a anfonwyd at Menna Elfyn oddi wrth amryw ohebwyr, gan gynnwys Raymond Garlick, Michael Coady, Bobi Jones, Dic Jones, Ted Hughes, Meredydd Evans a Phyllis Kinney, Gerallt Lloyd Owen, Maura Dooley, Shani Rhys James, Seamus Heaney, Eigra Lewis Roberts ac Iwan Llwyd, gyda chanran helaeth o'r ohebiaeth yn ymdrin â gwaith llenyddol Menna Elfyn. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfrol gyhoeddiedig o ohebiaeth (ym Masgeg, Cymraeg a Sbaeneg) rhwng Menna Elfyn a'r awdur a'r actores Fasgaidd Arantxa Urretabizkaia a cherdyn i longyfarch Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James ar enedigaeth eu merch Fflur Dafydd ym 1978.

Achos Blaenplwyf: Gohebiaeth carchar Wynfford James

Deunydd yn ymwneud â dedfryd a charchariad Wynfford James, gŵr Menna Elfyn, a Rhodri Williams wedi achos ym 1978 lle difrodwyd mast ddarlledu Blaenplwyf gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith fel rhan o ymgyrch i sicrhau sianel deledu i Gymru, gan gynnwys yn bennaf llythyrau, cardiau Nadolig a chardiau post at Wynfford James a Rhodri Williams (y gohebwyr yn cynnwys Menna Elfyn, mam Wynfford James, cyfeillion a chefnogwyr megis Dafydd Iwan, Alun 'Sbardun' Huws ac aelodau Cymdeithas yr Iaith); ynghyd â llythyrau at Menna Elfyn oddi wrth ei gŵr Wynfford James tra 'roedd yr olaf yn y carchar a llythyr at Menna Elfyn [?wedi rhyddhau Wynfford James], datganiad gan aelodau Cymdeithas yr Iaith i'w ddarllen yn Llys Ynadon Caerfyrddin ar gychwyn yr achos, a cherdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Wedi'r achos (Blaen-plwyf, 1978), ynghyd â chyfieithiad o'r gerdd i'r Ffrangeg. Ymysg y gohebiaeth ceir ambell gyfeiriad at Fflur, merch Menna Elfyn a Wynfford James, a aned ym 1978.

Rhaglen deledu: Bardd yn Fietnam

Deunydd yn ymwneud â'r rhaglen deledu Bardd yn Fietnam (1995), sef cynhyrchiad gan gwmni Boda ar gyfer S4C yn dilyn ymweliad Menna Elfyn â'r wlad, gan gynnwys drafftiau o sgriptiau teledu, amserlen ffilmio, costau a chyfrifon, manylion teithio ac ymweld, dogfennau teithio, copïau drafft a theg o gerddi gan Menna Elfyn (gan gynnwys cyfieithiadau o rai ohonynt i'r Saesneg), gohebiaeth at Menna Elfyn oddi wrth gynhyrchwyr y rhaglen ac oddi wrth Trinh Thi Dieu (sef prif gyswllt Menna Elfyn yn Hanoi), gohebiaeth oddi wrth Menna Elfyn at ei gŵr Wynfford James, cylchgronau a thorion papur newydd.

The Welsh Fold

Deunydd yn ymwneud â The Welsh Fold (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan David Evan Thomas), a gyfansoddwyd ar gyfer Côr Cymry Gogledd America, gan gynnwys geiriau'r gerdd - ynghyd â chyfieithiad Saesneg gan Wynfford James, gŵr Menna Elfyn - sgôr gerddorol y darn a gohebiaeth at Menna Elfyn oddi wrth Wynfford James a Mary Bills.