Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.
Copïau o gerddi ac o draethawd gan H. Griffiths ('Hywel Myrddin'), Caerfyrddin, ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys ei feirniadaethau ar gyfansoddiadau llenyddol yn Eisteddfod Beulah, a llythyr ato oddi wrth J. Iorwerth Roberts, Llangollen. = Copies of poems and an essay by H. Griffiths ('Hywel Myrddin'), Carmarthen; a note-book containing his adjudications on literary compositions at Beulah Eisteddfod; and a letter to him from. J. Iorwerth Roberts, Llangollen.
Cwestiynau a luniwyd yn Saesneg gan yr Athro Dewi Z. Phillipps, Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, mewn ateb i ddarlith ar y testun 'Beth yw pwrpas llenydda?' a draddodwyd gan y Dr. R. M. Jones, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin, Awst 1974. Am fersiwn Gymraeg o'r cwestiynau gan yr Athro Bedwyr Lewis Jones gweler Y Traethodydd, Ionawr 1975, tt. 10-44.
Tudalen o Feibl teulu yn cynnwys dyddiadau geni tad-cu a mam-gu Syr Ben Bowen Thomas. = Page from a family Bible giving dates of birth of Sir Ben Bowen Thomas's grandparents.
Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.
Pamffledi etholiadol (2), 1934, a ddosparthwyd ar ran y Parch H. Samuel pan oedd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyngor Plwyfol Llangiwg, Morgannwg. = Two election pamphlets, 1934, of the Rev. H. Samuel as a Plaid Cymru candidate in Llangiwg Parish Council Election.
Englynion gan David Griffith ('Clwydfardd'); cyfarch ?yn llaw'r Parch J. R. Jones ('Kilsby'). = Two 'englynion' by David Griffith (Clwydfardd), and a greeting, ?in the hand of the Rev. J. R. Jones ('Kilsby').
Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.
Geiriau (Cymraeg a Saesneg) a cherddoriaeth cân yn dwyn y teitl 'Nadolig? Pwy a wyr', ynghyd â sgript rhaglen ar fywyd Owen Williams, Eglwysbach, cerddor a chyfansoddwr. = Copy of the words (Welsh and English) and music of a song entitled 'Christmas maybe?'; and a copy of the script of a programme on the life of Owen Williams of Eglwysbach, musician, composer.