Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Nodiadau amrywiol

Mân nodiadau, gan fwyaf, ar unigolion a phynciau amrywiol (rhai gan eraill): Brut y Tywysogion, Thomas Wilkins, Antoni Powel, Awbreaid, Lewis Hopcyn, Rhys Morgan, Dafydd Nicolas, eisteddfodau, Edward Evan, Rhys Meurig, Rhyddiaith Morgannwg, Barry Island, copïwyr llawysgrifau a hanes Morgannwg, teulu'r Stradlings, Tomas ab Ieuan, Wil Hopcyn, llyfrgell y Bont-faen, ayyb.

Y Wasg Gymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.

Charles Edwards

Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Charles Edwards, gan gynnwys copi llawysgrif o'i ragymadrodd i'r gyfrol Y Ffydd Ddi-ffuant, ..., gan Charles Edwards (1936), a llythyrau perthynol, 1935.

Dafydd Jones o Drefriw

Papurau'n cynnwys 'Atodiad. Llythyrau eraill at Ddafydd Jones o Drefriw', 1757-1778. Gweler 'Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw', wedi eu copïo a'u golygu gan G. J. Williams yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1943), Atodiad, Cyfres III, rhif 2.

Llenyddiaeth Gymraeg

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1911x1963], ar lenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid; nifer o ddarlithoedd ac erthyglau; ynghyd ag adysgrifau o lawysgrifau o wahanol ffynonellau a nodiadau amrywiol.

Papurau amrywiol

Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Torion papur

Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.

Owen, Bob, 1885-1962

Results 21 to 40 of 150