Showing 37 results

Archival description
Patagonia (Argentina and Chile)
Print preview View:

Patagonia Correspondence (Glenys Goossens)

  • NLW Facs 898
  • File

Llungopïau o lythyrau, 1995-1996, a anfonwyd gan Glenys Goossens, Canada, at berthnasau yn Abergele yn rhoi gwybodaeth achyddol am ei thad William Edward Thomas (1895-1995), ŵyr i Robert a Catherine Davies, Llandrillo, a ymfudodd i Batagonia ar y 'Mimosa' yn 1865; ynghyd â llungopïau a chyfieithiadau o erthyglau, llythyrau, etc, yn ymwneud â chorff a ddarganfuwyd ar draeth Port Madryn yn 1995 a'r ymgais i geisio profi mai corff Catherine Davies ydoedd. / Photocopies of letters, 1995-1996, sent by Glenys Goossens, Canada, to relatives in Abergele containing genealogical information concerning her father William Edward Davies (1895-1995), grandson of Robert and Catherine Davies, Llandrillo, who emigrated to Patagonia in 1865 aboard the 'Mimosa'; together with photocopies and translations of press cuttings, correspondence, etc, relating to human bones discovered near Port Madryn in 1995, alleged to be the remains of Catherine Davies.

Miscellaneous papers of Jonathan Ceredig Davies.

  • NLW ex 2179
  • File
  • 1841-1924

Miscellaneous papers, 1841-1924, which belonged to Jonathan Ceredig Davies (1859-1924), genealogist, missionary and folk-lorist, including letters and invitations, a passport, photographs, press cuttings, a bidding letter and a printed testimonial to Ceredig Davies, written in Trelew, Patagonia, 1891.

Davies, Jonathan Ceredig, 1859-1932

Papurau Dr Marshall Lloyd,

  • GB 0210 MAROYD
  • fonds
  • 1965 /

Nodiadau, rhaglenni, taflenni, a chyfnodolion Cymraeg a Saesneg, 1965, a grynhowyd gan Dr Marshall Lloyd, yn ymwneud â'i ymweliad â Phatagonia ar achlysur dathlu canmlwyddiant Y Wladfa Gymreig. = Notes, pictures, programmes, leaflets, and Welsh and Spanish periodicals, 1965, accumulated by Dr Marshall Lloyd, relating to his visit to Patagonia during the centenary celebrations of the founding of Y Wladfa, the Welsh colony.

Lloyd, J. H. Marshall.

Cyfansoddiadau cerddorol Clydwyn Ap Aeron Jones,

  • NLW ex 2856.
  • file
  • [1949]-1981.

Cyfansoddiadau Clydwyn Ap Aeron Jones, (1913-1998), gan gynnnwys ei drefniant o 'Ar hyd y nos' a chaneuon mewn Sbaeneg, ynghyd â'i curriculum vitae, 1942-1980, a rhaglenni cyngherddau Côr Unedig Chubut y bu'n ei arwain.

Jones, Clydwyn Ap Aeron.

Françoise Maurel thesis 'Gwladfa Patagonia ...'

  • NLW ex 2285
  • File
  • 2003

A copy of a thesis entitled 'Gwladfa Patagonia: La colonie galloise du Chubut 1865-1915', by Françoise Maurel, submitted for a Doctorate degree (Université de Bretagne Occidentale), 2003.

Maurel, Françoise

Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin

  • GB 0210 CYMRUARIANNIN
  • Fonds
  • 1998-2012

Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru-Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadleuaeth rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer 'Cystadleuaeth y Wladfa' yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.

Ffeil o bapurau cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol y Wladfa, Caerdydd a'r Cylch 2008.

Dwy ffeil o bapurau yn ymwneud a Chymdeithas Cymru-Ariannin, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a'r Cyffiniau, 2009.

Deunydd o gystadlaethau Cymdeithas Cymru-Ariannin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 1995-2005.

Ffeil o bapurau yn ymwneud a Chystadleuaeth y Wladfa (Rhif 170), Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Morgannwg, 2012.

Cymdeithas Cymru-Ariannin

Mihangel ap Iwan Manuscripts

  • GB 0210 MSMAPIWAN
  • Fonds
  • [19-20 cents]

A collection comprising correspondence, legal papers, press cuttings and other material relating to the Wladfa Gymreig in Patagonia, including material relating to Cwmni Masnachol Camwy; journals of Llwyd ap Iwan and an account by him of the Chubut Valley.

Mihangel ap Iwan, d. 1944

Dyddiadur,

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1970, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1970, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim); Alun Cilie (passim); John Alun Jones (passim); cystudd Waldo Williams (f. 120); nofel gan Islwyn Ffowc Elis (passim); ac at gystadlaethau gwyddbwyll Iolo Ceredig Jones, gan gyfeirio at hefyd gyfeiriadau at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim) ac at apêl er budd Patagonia (ff. 156, 158). = The volume contains references to Dic Jones (passim); Alun Cilie (passim); John Alun Jones (passim); Waldo Williams's illness (f. 120); a novel by Islwyn Ffowc Elis (passim); and to Iolo Ceredig Jones' participation in chess tournaments; with references also to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim) and an appeal in aid of Patagonia (ff. 156, 158).

The career of the athlete German 'Loly' Roberts.

  • NLW Facs 968
  • File
  • [1998]

A volume containing photocopies of press articles from Patagonian newspapers, on the life and career of Germán 'Loly' Roberts, an athlete of Welsh descent.

'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia'

  • NLW Facs 944
  • File
  • [2000]

Llungopïau o 'Ychydig am y Wladfa Gymreig yn Patagonia' sef hanes [?Edward Cox] a aeth i'r Wladfa yn 1886 yn bedair ar ddeg mlwydd oed ar y llong 'Mozart' o Lerpwl gyda'i chwaer hŷn. Yr oedd Llwyd ap Iwan ymhlith ei gyd-deithwyr. Dychwelodd i Gymru yn 1896. Disgrifir y daith yno ac yn ôl yn fanwl, ar ffurf dyddiadur weithiau. Adroddir am y brodorion, byd natur a'i waith yn cneifio miloedd o ddefaid. Cyhoeddwyd y gwaith yn Yr Arwydd, papur bro gogledd-ddwyrain Sir Fôn, Mawrth, Mai, Gorffennaf, Medi a Hydref 1995

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • File
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924

R. J. Berwyn photocopies

  • NLW Facs 876
  • File

Llungopïau gan gynnwys erthygl 'Mynwent Rawson' gan R. J. Berwyn (1863-1917) ar gyfer Y Drafod; tystysgrif geni, 1912,yn Sbaeneg, y plentyn cyntaf a anwyd yn y Wladfa yn 1865 yn dwyn llofnod 'RJB'; a dau lythyr, 1912 a heb ddyddiad, oddi wrth R. J. Berwyn at aelodau o'i deulu. / Photocopies including an article 'Mynwent Rawson' by R. J. Berwyn (1863-1917) for Y Drafod; a birth certificate, 1912, in Spanish, of the first child born in the Welsh Colony, Patagonia, 1865, bearing the signature of 'RJB'; and two letters, 1912 and undated, from R. J. Berwyn to members of his family.

Berwyn, R.J.

Owen, Australia, family letters,

  • NLW Facs 369/51.
  • File
  • 1915.

Llungopïau o bedwar llythyr, 1915, oddi wrth aelodau o'r teulu Owen a ymfudodd o Batagonia i Moora, Gorllewin Awstralia, at eu perthynas Maggie Owen yn Abergele. = Photocopies of four letters in Welsh, 1915, from members of the Owen family who emigrated to Moora, Western Australia, from Patagonia, to their relative Maggie Owen in Abergele.

Miscellaneous papers relating to Patagonia.

  • NLW ex 2155
  • File
  • 1965

Papurau yn ymwneud ag ymweliad â Phatagonia yn ystod blwyddyn dathlu canmlwyddiant y Wladfa, 1965.

Griffiths, T. Elwyn (Thomas Elwyn), 1918-

Llythyrau o'r Wladfa,

Dau lythyr, 21 Mehefin 1924 (ff. 2-4) ac 8 Awst 1926 (ff. 5-7), oddi wrth Thomas Rickard Davies, Chubut, Patagonia, at aelodau o'i deulu yn ardal Buellt. = Two letters, 21 June 1924 (f. 2-4) and 8 August 1926 (ff. 5-7), from Thomas Rickard Davies, Chubut, Patagonia, to members of his family in the Builth area.
Cyfeiria'r llythyrwr at newyddion teuluol, gan gynnwys marwolaethau ei dad (ff. 2-3) a T. Dalar Evans, cyfaill i'w dad (ff. 5-6). = The writer refers to family news, including the deaths of his father (ff. 2-3) and of his father's friend, T. Dalar Evans (ff. 5-6).

Davies, Thomas Rickard, b. 1874.

Results 21 to 37 of 37