Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Amryw gyhoeddiadau

Copïau o 'Pecyn y Wasg=The Press Pack', 21 Rhagfyr 1995; 'Cymru rydd mewn Ewrop unedig=A democratic Wales in a united Europe' (Plaid Cymru, 1995); a Dafydd Wigley AS, 'Dewis teg i Gymru=A real choice for Wales ' (Plaid Cymru, cyfres goffa Herbert Thomas, rhif 2, 1996).

Amryw gyhoeddiadau

Amryw gyhoeddiadau, yn bennaf gan Blaid Cymru, gan gynnwys 'Cyfiawnder i Gymro: datganiad J. E. Jones, trefnydd y Blaid, gerbron ynadon Caernarfon', [c.1942]; Saunders Lewis, 'Cam-ffarmio Cymru', 1943; Wynne Samuel, 'Transference must stop; half-a-million Welshmen were transferred to England and transference goes on', [c.1943]; 'TVA for Wales', 2nd imp., [post 1943]; 'The wages of servitude: Wales' reward for collaboration with English government', 1944; 'Plan electricity for Wales', 1944, gydag arysgrif gan Dewi Watkin Powell ar ysgrifennu'r pamffled; 'The battle for Wales (report of Welsh politics 1946)'; Wynne Samuel, 'Local government and Wales', [c.1946]; Gwynfor Evans, 'Havoc in Wales: the War Office demands', [post 1946]; D. J. a N. Davies, 'Can Wales afford self-government?', adolygiadau 1947 a 1949; Wilfred Wellock, 'The third way', 1947; Davies Aberpennar, 'Look you: a miscellany concerning Wales', 1948; D. J. Davies a H. P. Richards, 'The Welsh coal industry: memorandum submitted to the executive committee of the Welsh Nationalist Party', [c.1948]; Wynne Samuel, 'Must the Welsh pits close?', [c.1948]; D. Myrddin Lloyd, 'Plaid Cymru a'i neges', 1949, yn cynnwys nodiadau; D. Myrddin Lloyd, 'Plaid Cymru and its message', 1949; 'The state and language: an English version of the presidential address by Ernest Blythe to Comhdháil Náisiúnta na Gaeilge, 3 December, 1949'; Huw T. Edwards, 'What I want for Wales', 1949; J. E. Jones, 'Ffeithiau: llwyddiant trwy hunan-lywodraeth', [c.1949]; J. E. Jones, 'Facts for Wales: prosperity through self-government', 2nd & 4th ed's [c.1949]; 'Is Wales a poor country?: the case for self-government', [c.1949]; C. F. Matthews, 'Wales can prosper: the T.V.A. way', [post 1949]; Sir Frederick Rees, 'The problem of Wales', 1950; Roy A. Lewis, 'Nation without a government: twenty-five years of misgovernment in Wales', [c.1950]; 'Trydan heb ddifrod', [c.1950].

Amryw gyhoeddiadau

Amryw gyhoeddiadau, yn bennaf gan Blaid Cymru, gan gynnwys 'Cofeb Owain Glyn Dŵr, Medi 10, 1932, rhaglen'; 'Blaenion y Blaid (Ysgol Haf 1936); 'Nationalist Pary of Wales: self-government or mis-government', [1936x1939]; Dafydd Jenkins (ed.), 'Monmouthshire: the case for Wales', [post 1937]; W. Hughes Jones, 'A challenge to Wales', 1938; 'Cymru rydd: braslun o bolisi'r Blaid Genedlaethol', [cyn 1939?]; D. J. a N. Davies, 'Can Wales afford self-government?', 1939; a 'Llais y Cymry yn lluoedd Lloegr, dyfyniadau o'u llythyrau', [1939x1945].

Amryw lyfrau

Amryw llyfrau: W. Hughes Jones, 'Wales drops the pilots', [c.1936?]; Prof. J. E. Daniel, 'Welsh nationalism: what it stands for', [c.1937]; Dr D. J. Williams, 'Towards Welsh freedom', 1958; Phil Williams, 'Voice from the valleys', 1981; John Davies et al., 'Heddgadw gwleidyddol yng Nghymru', 1984.

Amryw Nans Jones

Amryw bapur rhydd Plaid Cymru, gan gynnwys teipysgrif o ganlyniadau etholiadau, 1929-1955; cerdyn cinio ffarwel i Noëlle Davies, 1957; rhaglen cyngerdd Gŵyl Dewi Coleg Hyfforddi Caerdydd, 1961; memorandum gan Ray Smith, trefnydd De Cymru, i'r Pwyllgor Gwaith yn beirniadu trefniannau mewnol y Blaid, 1963; 'bras nodiadau' teipysgrif yn galw am fudiad newydd i ferched yng Nghymru, [1960au?]; cyfansoddiad Adran y Merched, mewn cynnig i Gynhadledd, [1970au?]; rhestr o gyhoeddiadau, c.1971; calendr y blaid genedlaethol 1980; cynigion dilys Cynhadledd 1987; a chyfrifon Plaid Cymru, 30 Mehefin 1993. Hefyd 'Remember Cwm Tryweryn', baled gan Meic Stephens mewn cefnogaeth Cronfa Emyr Llew, [c.1963]; caneuon etholiad Caerffili, 1968; englyn 'I Nans Jones ar ymddeol o'i swydd yn Swyddfa Plaid Cymru', gan Ithel Davies, [c.1967]; 'Gwynfor', cân gan Dafydd Iwan, [d.d.]; a rhaglen perfformiad Cwmni Theatr Gwynedd o 'Excelsior' gan Saunders Lewis, [1991].

Amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys erthyglau ganddi: 'Anfarwoldeb Sian Owen' [a gyhoeddwyd yn Seren Menai, cyfnodolyn Y Coleg Normal, Bangor]; ‘O’r crochan berw’, Seren Cymru, 1987; ynghyd ag englyn gan Robin [Llwyd] ab Owain iddi, un o'i myfyrwyr; teyrnged gan Meic Stephens i Rhiannon Davies Jones a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr i, 29 Hydref 2014; a chopi o deyrnged [Eurfryn Davies a draddododd yn ei hangladd (gw. NLW ex 2979)].

Amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys llyfr nodiadau 'Nodiadau a dyfyniadau. Llên a barddoniaeth', 1930 a llyfrau nodiadau amrywiol; llyfr torion o'r Faner, 1970, am 'Stori Oberammergau' gan Gwilym R. Jones; taflen dathlu chwarter can mlwyddiant Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych yn 1985 yn cynnwys cerdd ganddo: ‘I ddathlu pen-blwydd Ysgol Twm o’r Nant’; a thaflen ‘Teyrnged i Gwilym R.’ a drefnwyd gan Yr Academi Gymreig yn 1983.

Amser Siocled,

"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.

Amserlenni bws, barddoniaeth a hanes Cymru

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys yr hyn a ymddengys fel amserlenni bws, ynghyd â rhestrau o deitlau ac enwau yn ymwneud â barddoniaeth, llenyddiaeth a hanes Cymru, mesuriadau [?llenni] (gw. Llyfr nodiadau Linda a Waldo ), rhestr siopa, a bras nodiadau eraill.

Anerchiad gan Cranogwen

  • NLW MS 23895A.
  • File
  • [?1891]

Llyfr nodiadau, [?1891], yn cynnwys rhan o anerchiad gan Sarah Jane Rees (Cranogwen) ar yr Ysgolion Sul Cymreig a'r diffygion ymddangosiadol yn y dulliau dysgu a arferwyd ynddynt. = Notebook, [?1891], containing part of an address by Sarah Jane Rees (Cranogwen), on Welsh Sunday Schools and perceived deficiencies in the teaching methods employed in them.
Mae rhan cyntaf y testun ar gefn y dail yn unig (ff. 1-9), wedi hynny mae wedi ei ysgrifennu ar draws pob agoriad (ff. 9 verso-16 verso); mae'r diwedd, ac o bosib y dechrau, yn eisiau. = The first half of the text is on the rectos only (ff. 1-9), thereafter it is written across each opening (ff. 9 verso-16 verso); the end, and possibly the beginning, is missing.

Cranogwen, 1839-1916

Anerchiadau ac erthyglau

Anerchiadau ac erthyglau amrywiol, gan gynnwys 'Na foed heddwch', cylchgrawn Byw, Mehefin 1964; ‘How books are made’, 1965; ‘Pennod o hunangofiant’, 1976; 'Cofio Huw Derfel', 1990; 'Gall cau capeli'r Carneddi a'r Gerlan brofin ergyd farwol i Ddyffryn Ogwen', llythyr agored at drigolion Bethesda a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan, 1993; ‘John Wycliffe a’i amserau’, Y Pentan, 2001; a ‘Tair ffrwd ein hetifeddiaeth’, Y Pentan, 2004.

Anfonebau; a chatalog sêl Tŷ Canol

Papurau, 1978-2001, yn ymwneud â materion ariannol, y rhan fwyaf yn anfonebau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys mapiau (1979-1980); catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891); a thorion o’r wasg (1980-1981).

Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre

Results 41 to 60 of 1284