Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Ar gof a chadw 1964-2013,

  • NLW ex 2848.
  • file
  • 2013.

Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.

Gwyndaf, Robin

Papurau Meri Huws,

  • NLW ex 2846.
  • file
  • [1975]-[1982].

Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.

Huws, Meri.

Dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' a 'Dŵr',

  • NLW ex 2839.
  • file
  • 2000.

Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.

Bryn, Bethan.

Gwersi Cymraeg,

  • NLW ex 2830.
  • file
  • [1973].

Sgriptiau gwersi dysgu Cymraeg fel ail iaith. [Mae'n bosib eu bod i gyd-fynd gyda recordiau]

Sgriptiau Eluned Phillips,

  • NLW ex 2770.
  • file
  • [1950]-[1970] /

Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.

Phillips, Eluned, 1914-2009

Hanes Eglwys Seion (W), Pwllheli,

  • NLW ex 2777.
  • file
  • 2012 /

Hanes Eglwys Fethodistaidd (Wesla) Seion, Pwllheli gan W. Arvon Roberts, 2012.

Roberts, W. Arvon.

Emyn-donau William James,

  • NLW ex 2576.
  • file
  • [1904]-[1960].

Emyn-donau gan William James yn bennaf, [1904]-[1960], gan gynnwys 'Pen yr yrfa' a Gogoniant i Dduw-Tangnefedd i ddynion sef carol Nadolig wedi'i hargraffu. Bu'n godwr canu yn eglwys y Methodistiad Calfinaidd yn Salem, Aberystwyth, a chyfansoddodd nifer o emyn-donau i'r eglwys, ynghyd â llyfr yn dwyn y teitl ''Tônau arbenig'. Credir fod y llawysgrifau'n perthyn i organydd yr eglwys.

James, William 1877-1964.

Llyfrau lloffion Anthony Goulty,

  • NLW ex 2492.
  • file
  • [1949]-[1997].

Tair cyfrol yn cynnwys toriadau papur newydd o golofnau'r Faner a'r Cymro'n ymwneud â gloywi iaith a garddio. Ceir torion hefyd yn ymwneud â D. Tecwyn Evans ac o'i golofn 'Gloywi'r iaith' yn Y Faner. Yr oedd y diweddar Anthony Goulty, Sais o gyfreithiwr ym Manceinion, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Caer. Bu'n weithgar iawn yn ogystal gyda Sain Clwyd Sound, sef grŵp o weithwyr gwirfoddol, gan gynnwys y rhoddwr, a oedd yn cyfarfod yn stiwdio Sain Clwyd yn rheolaidd i wneud tapiau i'r Deillion.

Cymdeithas Gymraeg Napoli,

  • NLW ex 2490.
  • file
  • 1944-1945.

Llyfr cyfrifon ariannol, 1944-1945, Cymdeithas Gymraeg Napoli, a fu ym meddiant diweddar dad y rhoddwr pan oedd yn filwr yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cymdeithas Gymraeg Napoli.

Drama : 'Cwmcynfelin',

  • NLW ex 2434.
  • file
  • [1933].

Drama 'Cwmcynfelin' gan y Parch. Hugh Lunt ('Gwynodl'), Ystrad Fflur, i ddathlu canmlwyddiant Mudiad Rhydychen, 1833-1933.

Lunt, Hugh.

Hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams,

  • NLW Misc. Records 564.
  • file
  • 1978-1981.

Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.

Ystadegau Cronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr,

  • NLW Misc. Records 556.
  • file
  • 1945.

Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.

Papurau'r Parchedig Gwilym Morris (1910-1988),

  • NLW ex 2738.
  • file
  • [1937]-[1988].

Cyfansoddiadau’r Parch. Gwilym Morris, [1937]-[1988], enillydd cyson mewn eisteddfodau cenedlaethol ac eisteddfodau lleol ledled Cymru a sgriptiwr dramâu radio. Ceir cerddi ac ysgrifau ganddo a nodir ar y mynegeion a ddarparwyd os yw'r ysgrifau wedi'u cyhoeddi yn ei gyfrol Yr enfys drwy y glaw (Abertawe, 1981), ynghyd â bywgraffiad ohono gan ei ferch.

Morris, Gwilym.

Results 41 to 60 of 246