Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Llyfr cofnodion Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru-Cangen Colegau Caerdydd a’r Cylch, 1965-66. R. Elwyn Hughes oedd Ysgrifennydd Mygedol y gangen, ynghyd â rhestr aelodaeth UCAC, 1967.

Papurau amrywiol,

Cytundeb (yn Saesneg), 1976, rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a David Jenkins ynglŷn â thelerau byw yn Hengwrt a oedd yn eiddo i'r Llyfrgell; toriad o'r Aberdare Leader yn adrodd am ei ymweliad â Chymrodorion Aberdâr yn 1978; a chywydd ffarwel i'r Athrawon R. Geraint Gruffydd, Brynley F. Roberts a J. E. Caerwyn Williams ac i'r Prifathro Syr Goronwy Daniel gan Roy Stephens, 1979.

Stephens, Roy, 1945-1989.

Llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards,

Llythyrau, [1935]-[1966], yn ymwneud â cholledion ariannol Ysgolion Abermâd a Lluest, gweithgareddau Urdd Gobaith Cymru, a chylchrediad cylchgronau fel Cymru'r Plant. Ceir dau lythyr hefyd oddi wrth D. J. [Williams] a llythyr oddi wrth George M. Ll. Davies.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970.

Papurau cynnar,

Papurau cynnar yr Eglwys, yn cynnwys cyfrifon, 1876; gohebiaeth gynnar, 1876-1881; hanes yr Eglwys, 1876; cofnodion y cyfarfod cyntaf, 1876, a derbyniadau tuag at y Weinidogaeth, 1878-1881.

Gohebiaeth

Llythyrau yn ymwneud â byd y ddrama, gan gynnwys llythyr oddi wrth y dramodydd E. Eynon Evans, 1974.

Yr ardd,

Gwaith a anfonwyd i gystadleuaeth y fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Amrywiol

Llyfr nodiadau ar ‘stage costumes’ a gwaith meim a beirniadaeth Gwynne D. Evans ar gystadleuaeth ysgrifennu drama un act Cymdeithas Ddrama Cymru 1967, ynghyd ag amrywiaeth o sgetshis ganddo a phapurau personol.

Results 41 to 60 of 59614