Showing 47 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

'Randibŵ' a 'Gwifrau'r Gyfraith'

  • NLW ex 2342
  • file
  • 1935-1947

Copi teipysgrif o ddrama i blant gan Eic Davies, c.1947, a chopi teipysgrif o ddrama mewn un act gan Ronald Gow, wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Selwyn Jones, 1935.

Davies, Eic, 1910-1993

Soar y Mynydd : llyfrau ymwelwyr,

  • NLW ex 2514.
  • file
  • 2000-2011.

Llyfrau ymwelwyr Eglwys Bresbyteraidd Soar y Mynydd, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, yn cynnwys cofnod am y gwasanaethau a gynhaliwyd. = Visitors' books of Soar y Mynydd Presbyterian church, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, with notes on the services held.

Tystysgrif ordeiniad ac atgofion Capel y Dysteb a Chapel Coffa,

  • NLW MS 16712D.
  • file
  • [1903x1956] /

Tystysgrif ordeiniad, yn Saesneg, y Parchedig John Luther Thomas, dyddiedig 19 Awst 1903, ac atgofion teipysgrif gan John Luther Thomas, yng Nghymraeg, o Gapel Annibynwyr Seion (Capel y Dysteb), Conwy a'r Capel Coffa (Annibynwyr), Cyffordd Llandudno, 1903-1921, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol yn ymwneud â'r Parchedigion R. Conwy Pritchard a Henry Richard Lloyd, Conwy. = The ordination certificate, in English, of the Reverend John Luther Thomas, dated 19 August 1903, and typescript memoirs by John Luther Thomas, in Welsh, of Seion Independent Chapel (Capel y Dysteb), Conway and of Capel Coffa (Independent) Chapel, Llandudno Junction, 1903-1921, together with biographical notes relating to the Reverends R. Conwy Pritchard and Henry Richard Lloyd, Conway.
Ceir cyfeiriadau at yr Athro R. Tudur Jones, Coleg Bala-Bangor (ff. 2, 11); y Parchedig John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); y Parchedig W. E. Penllyn Jones, Hen Golwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian') (f. 10), ac eraill. = There are references to Dr R. Tudur Jones, Bala-Bangor College (ff. 2, 11); the Reverend John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); the Reverend W. E. Penllyn Jones, Old Colwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian'), and others.

Thomas, J. Luther (John Luther), 1881-1970.

'Yr Aipht' : : Pryddest,

  • NLW MS 16674D.
  • file
  • [1884x1898] /

Pryddest yn dwyn y teitl 'Yr Aipht' gan ac yn llaw Edward Ffoulkes, sef yr ymgais fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1884, ynghyd â drafftiau o'r un gwaith a thystysgrif enillydd; llythyr, dyddiedig 12 Ebrill 1885, oddi wrth Edward Ffoulkes at Alfred, Arglwydd Tennyson, ynghyd ag ateb Tennyson, dyddiedig 15 Ebrill 1885, a llythyr, dyddiedig 17 Hydref 1885, oddi wrth y Parch. Henry Griffith, Ventnor, Ynys Wyth at Edward Ffoulkes, ynghyd ag ateb Ffoulkes, dyddiedig 24 Hydref 1885; anerchiadau yn llaw Edward Ffoulkes ar '[William] Wordsworth' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Moriah, Caernarfon, d.d.), ar 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (i'w draddodi yng Nghymdeithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl, 10 Chwefror 1891, ynghyd â thoriad o'r Cymro, dyddiedig 5 Chwefror 1891, yn cyfeirio at y digwyddiad), ac ar 'Dadblygiad' (i'w draddodi yng Nghymdeithas Lenyddol Capel Coch, Llanberis, 26 Ionawr 1898) = An autograph pryddest entitled 'Yr Aipht' by Edward Ffoulkes, the winning entry in the National Eisteddfod held at Liverpool, 1884, together with rought drafts of the same work and a winner's certificate; a letter, dated 12 April 1885, from Edward Ffoulkes to Alfred, Lord Tennyson, together with Tennyson's reply, dated 15 April 1885, and a letter, dated 17 October 1885, from the Rev. Henry Griffith, Ventnor, Isle of Wight, to Edward Ffoulkes, together with Ffoulkes's reply, dated 24 October 1885; addresses in the hand of Edward Ffoulkes on '[William] Wordsworth' (to be delivered at Moriah Literary Society, Caernarfon, n.d.), on 'Eben Fardd' [Ebenezer Thomas] (to be delivered at the Liverpool Welsh National Society, 10 February 1891, together with a cutting from Y Cymro dated 5 February 1891, relating to the event), and on 'Dadblygiad' ['Development'] (to be delivered at Capel Coch Literary Society, Llanberis, 26 January 1898).
Ceir cyfeiriadau at Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight ((f. 61 recto-verso) ac eraill = There are references to Edward Dowden (ff. 59-60), William Angus Knight (f. 61 recto-verso) and others.

Foulkes, Edward, 1850-1917

Yr Argyfwng : Rhagair a Diweddglo/Llawysgrif,

  • NLW MS 16954E.
  • file
  • [1953]-1954 /

Llawysgrif ddrafft, 1954, o Ragair a Diweddglo 'Yr Argyfwng' gan W. Ambrose Bebb yn ei law ei hun; un llythyr, 1954, a phedwar cerdyn post, 1954, oddi wrth Bebb at Alan Talfan Davies, rhoddwr y llawysgrif, yn ymwneud â chwblhau a chyhoeddi 'Yr Argyfwng'; torion o'r Herald Cymraeg, 1953, sef pigion o Golofn y Llenor a ysgrifennwyd gan Bebb, gan gynnwys rhai o'r wyth o ysgrifau a gyhoeddwyd yn yr Herald dan y teitl 'Yr Argyfwng' yn ystod gwanwyn 1953; sylwadau, 1954, ar 'Yr Argyfwng', fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf erthyglau yn yr Herald Cymraeg, gan y Parchedig J. P. Davies, Porthmadog, yr Athro Oliver Stephens, John Charles Jones, Esgob Bangor, y Parchedig E. Tegla Davies, a'r Parchedig Lewis Valentine. Cyhoeddwyd 'Yr Argyfwng' ar ffurf llyfr flwyddyn wedi marw Bebb, ym 1956 = Autograph draft manuscript, 1954, of the Foreword and Conclusion to 'Yr Argyfwng' by W. Ambrose Bebb; one letter, 1954, and four postcards, 1954, from Bebb to Alan Talfan Davies, the donor of the manuscript, relating to the completion and publication of 'Yr Argyfwng'; press cuttings from the Herald Cymraeg, 1953, which consist of some of Bebb's weekly columns and including some of the series of eight pieces of writing which were published in the Herald under the title 'Yr Argyfwng' during the spring of 1953; comments and observations, 1954, on 'Yr Argyfwng', in its original form of printed articles in the Herald Cymraeg, by the Reverend J. P. Davies, Porthmadog, Professor Oliver Stephens, John Charles Jones, Bishop of Bangor, the Reverend E. Tegla Davies, and the Reverend Lewis Valentine. 'Yr Argyfwng' was published in book form posthumously in 1956.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • file
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Ysgrifau Robert Ellis, Ysgoldy,

  • NLW MS 16379D.
  • file
  • [1850au]-1897.

Cyfrol yn llaw'r Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, Llanddeiniolen, sir Gaernarfon [1850au]-1881, sy'n cynnwys cofnodion hunangofiannol ac ysgrifau eraill. = A volume in the hand of the Rev. Robert Ellis of Ysgoldy, Llanddeiniolen, Caernarvonshire [1870s]-1881, containing autobiographical memoranda and other writings.
Ceir yn y gyfrol gofnodion hunangofiannol a theuluol (ff. i verso, 1 recto-verso, 2 verso, 5 recto-verso, 9-11, 27 verso-28 verso, 32 verso-33, 47-48 verso, 50 verso-51 a 172-177 verso (testun â'i wyneb i waered)), detholion o'i ddyddiaduron am 1853-1864 (ff. 151 verso-171 verso, testun â'i wyneb i waered), darnau ar hanes plwyf Llanddeiniolen (ff. 51 verso-66), ac ysgrifau yn ymwneud yn fras a diwinyddiaeth, gweinyddiaeth a diwylliant y Methodistiaid Calfinaidd, rhai ohonynt wedi eu cyhoeddi yn Y Drysorfa (ff. 1 verso-2, 3-4 verso, 6-8 verso, 11 verso-27, 29-32, 33 verso-42, 42-43 (testun â'i wyneb i waered), 43 verso-46 verso, 49-50 a 178-182 (testun â'i wyneb i waered)). Rhoddwyd eitemau rhydd o fewn y gyfrol, gan gynnwys torion o'r wasg, 1895-1897, mewn amlen archifol (4 ff.). Cyhoeddwyd rhannau o gynnwys y llawysgrif yn Cofiant a Gweithiau y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, gol. gan y Parch John Owen Jones (Caernarfon, 1883). = The volume includes autobiographical and family memoranda (ff. i verso, 1 recto-verso, 2 verso, 5 recto-verso, 9-11, 27 verso-28 verso, 32 verso-33, 47-48 verso, 50 verso-51 and 172-177 verso (inverted text)), extracts from his diaries for 1853-1864 (ff. 151 verso-171 verso, inverted text), pieces relating to the history of Llanddeiniolen (ff. 51 verso-66), and articles broadly concerning Calvinistic Methodist theology, administration and culture, some published in Y Drysorfa (ff. 1 verso-2, 3-4 verso, 6-8 verso, 11 verso-27, 29-32, 33 verso-42, 42-43 (inverted text), 43 verso-46 verso, 49-50 and 178-182 (inverted text)). Items found loose within the volume, including press cuttings, 1895-1897, have been placed in an archival envelope (4 ff.). Some of the manuscript's contents were published in Cofiant a Gweithiau y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, ed. by the Rev. John Owen Jones (Caernarfon, 1883).

Ellis, Robert, 1808-1881

Results 41 to 47 of 47