Dwy sgript o waith Gwenlyn Parry, sef 'Poen yn bol', [1963], a 'Ty ar y tywod', [1968], a gyflwynwyd gan yr awdur i dad y rhoddwr. Sgript ymarfer ar gyfer darllediad ar y teledu yw un 'Ty ar y tywod' wedi'i llofnodi gan y dramodydd. = Two scripts by Gwenlyn Parry, namely 'Poen yn bol' [1963], and 'Ty ar y tywod' [1968], presented by the author to the donor's father. The 'Ty ar y tywod' script is a practice script for a television broadcast and bears the signature of the dramatist.
Llythyrau personol yr hanesydd Richard Bennett, Hendre, Pennant, Llanbryn-mair, a ysgrifennodd yn bennaf at ei gefnder Richard Jones, Pertheirin, Caersws, ac oddi wrtho yntau, a llythyrau oddi wrth aelodau eraill o'r teulu; ynghyd â dyddiadur Laura Pryce, Castellfawr, [Rhoslefain], 1872.
Sgript a sgript camera (ail ddrafft) y ffilm 'Bydd yn Wrol' gan John Owen, 1996, wedi ei chynhyrchu gan Terry Dyddgen-Jones, cynhyrchiad HTV ar gyfer S4C, ac a enwebwyd ar gyfer gwobr y ffilm deledu orau yng Ngŵyl Prix Europa TV Festival ym Merlin.
Tair cyfrol lawysgrif yn cynnwys cyfieithiadau i'r Llydaweg gan Raymond Le Bacon, sef cyfieithiad o waith gan Andersen, La petite sirène; cyfieithiad o waith Antoine de Saint-Exupéry, â’r teitl Llydaweg Er preñssseig bien (dau hanesyn bach yr ymddengys iddynt gael eu codi oddi ar lafar); cyfieithiad o Animal Farm, gan George Orwell (Penguin 1987); cyfieithiad o Henry IV, gan Shakespeare a hunangofiant gan Raymond Le Bacon â’r teitl Me Thãmméigdj Buh́e; a chyfieithiad o Macbeth gan Shakespeare.
Adysgrif, [2013], o sgwrs rhwng Llyr Gwyndaf, mab y rhoddwr, a'r dramodydd Gwenlyn Parry, a gyflwynodd fel rhan o'i gwrs drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar ffurf casét yn 1985.
Rhaglenni cyngherddau y bu'r tenor enwog Richie Thomas (1906-1988), Penmachno, yn perfformio ynddynt, ynghyd â pheth gohebiaeth. = Concert programmes featuring the well-known tenor Richie Thomas (1906-1988), of Penmachno, together with some correspondence.
Papurau'r diweddar Barchedig J. E. Davies, gweinidog gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, a ffigwr amlwg yng Nghymdeithas y Cymod yng Nghymru. Ef oedd ysgrifennydd Cangen Rhydaman o Gymdeithas y Cymod a bu'n gadeirydd cenedlaethol y mudiad.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.
Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.
Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.
Emyn-donau 'Cwm Rheidol' a 'Bronystwyth' gan Gwynfryn Y. Jones, organydd yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, ynghyd â llythyr, 1972, ato gan Dyfnallt Morgan a drosodd eiriau gwreiddiol Morswyn o'r Gymraeg i'r Saesneg iddo ('Rock of Ages').
Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.
Cyfansoddiadau Clydwyn Ap Aeron Jones, (1913-1998), gan gynnnwys ei drefniant o 'Ar hyd y nos' a chaneuon mewn Sbaeneg, ynghyd â'i curriculum vitae, 1942-1980, a rhaglenni cyngherddau Côr Unedig Chubut y bu'n ei arwain.
Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.
Papurau Dr David Llewelyn Williams, prif swyddog meddygol Bwrdd Iechyd Cymru o 1920–1935, yn ymwneud â’i gyfnod yn fyfyriwr meddygol yng Nghaeredin; fel meddyg llong yn 1903; ei ymweliad â’r India yn 1935 gan gynnwys dyddiadur; llyfrau lloffion yn ymwneud â’i waith fel swyddog meddygol yn Sir Ddinbych ac yn Wrecsam gan gynnwys papurau’n ymwneud ag achos difrifol o wenwyn bwyd yn Wrecsam yn 1910; erthyglau a chyhoeddiadau ganddo yn ymwneud â phynciau fel glendid, dirwest a’r ddarfodedigaeth; a llythyrau cydymdeimlad a dderbyniwyd ar ôl ei farwolaeth yn 1949. = Papers of Dr David Llewelyn Williams, chief medical officer of the Welsh Board of Health, 1920-1935, relating to his time as a medical student in Edinburgh; as a ship surgeon in 1903; his visit to India in 1935 including a diary; scrapbooks relating to his work as a medical officer in Denbighshire and Wrexham including papers relating to a severe case of food poisoning in Wrexham; articles and publications by him on subjects such as sanitation, temperance and tuberculosis; together with letters of condolences received following his death in 1949.
Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.
Papurau’n ymwneud â Tu Chwith, cylchgrawn llenyddol cyfoes, a sefydlwyd yn 1993 o dan olygyddiaeth Simon Brooks ac Elin Llwyd Morgan, gyda thema arbennig i bob rhifyn. Ceir llythyrau oddi wrthynt a llenorion a chyfranwyr i’r cylchgrawn.