Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Print preview View:

Llythyrau I-Johnson

Llythyrau, 1916-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Glyn Ifans (7), Norah Isaac (5), Dafydd Iwan (1), H. T. Jacob (5), Carwyn [James] (1), T. J. Jenkin (7), Dafydd Jenkins (21), Dr David Jenkins (4), J. Gwili Jenkins (2), R. T. Jenkins (2), J. T. Job (3) a Noel John (16).

Ifans, Glyn, 1920-

Llythyrau M (Morgan-Moss)

Llythyrau, [1922]-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Derec [Llwyd Morgan] (4), Dyfnallt Morgan (3), Elena Puw Morgan (1), Herbert Morgan (2), Prys Morgan (1), T. J. Morgan (9), R[hys] Hopkin Morris (1) a Gwenfron Moss (1).

Morgan, Derec Llwyd

Llythyrau R (Roberts, L.-Rowley)

Llythyrau, [1914]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Lynette Roberts (1), Bob [Roberts] ('Bob Tai'r Felin') (1), T. F. Roberts (4), Wyn Roberts (1), Syr Archibald Rowlands (18) (y ddau lythyr cyntaf, [1914] at Penry Pryce) ac [R. J. Rowlands], 'Meuryn' (1).

Roberts, Lynette, 1909-1995

Llythyrau oddi wrth Lewis Valentine

Llythyrau, [1925]-1969, oddi wrth Lewis Valentine at D. J. Williams, yn trafod ei drefniadau pregethu a'i waith gydag Undeb y Bedyddwyr, Plaid Cymru, ac yn ymateb i weithiau llenyddol y llenor. Yn llythyr 6 Chwefror 1962 ceir nodiadau bywgraffyddol ganddo ar gyfer ysgrif D. J. Williams yn [Seren Gomer] wedi iddo gael ei ethol yn Is-Lywydd Undeb y Bedyddwyr. Mae'r llythyr olaf oddi wrth Margaret Valentine.

Valentine, Lewis

'Dyddiadur Dyn Anonest'

Mae dechrau'r gyfrol yn cynnwys achres teulu Llywele, Llansawel, a nodiadau am hanes ei hynafiaid, a chofnodion yn ymwneud â chyfrifon Penrhiw ac Abernant, 1938-1953. Defnyddiwyd cefn y ledjer fel dyddiadur, 1941-1951, gyda'r teitl 'Dyddiadur Dyn Anonest', gan gynnwys cerdd 'Pen-yr-Yrfa' gan George M. Ll. Davies wedi'i gopïo gan Siân Williams yn 1943.

Papurau teuluol

Papurau'n ymwneud â theulu D. J. Williams yn ei fro enedigol yn ardal Rhydcymerau gan gynnwys Beibl y teulu a phapurau'n ymwneud â thenantiaid Penrhiw ac Abernant, 1808-[1967].

Teulu Penrhiw

Rhestr o'r rhoddion a'r taliadau, 22 Rhagfyr 1837, a dderbyniodd John Williams a Margaret James [tad-cu a mam-gu D. J. Williams] ar gyfer diwrnod ei neithior; marwnad, [1886], i'w dad-cu Jaci [John Williams], Penrhiw, Llansawel, gan 'Hen Gyfaill'; ynghyd â llungopïau, 1967, o gyfrifiad 1851 yn cynnwys cofnod ar gyfer teulu John a Margaret Williams, Penrhiw, a ddarparwyd gan D. Oswald Davies, a nodiadau teipysgrif, 1967, o gyfrifiad 1841-1861 a ffynonellau achyddol eraill.

Results 61 to 80 of 187