Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry
Print preview View:

Erthyglau,

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1978-[1982], gan gynnwys erthygl John Roberts, 'Gwenlyn, Pozzo a Lucky', 1978; drafft o erthygl gan John Hefin yn trafod Gwenlyn Parry a sefydlu Pobol y Cwm, [1982]; ac erthyglau wedi eu casglu yn trafod y theatr yn gyffredinol.

Papurau personol a theyrngedau,

Papurau personol a theyrngedau, 1962-1993, yn cynnwys gohebiaeth, 1962-1989; papurau'n ymwneud â'r Academi Gymreig, 1967-[1987]; papurau personol, 1971-1993; cerddi, 1971-[1991]; a sgript drama deyrnged i Gwenlyn Parry, I Gofio Gwenlyn, 1992.

Yr Academi Gymreig,

Papurau'n ymwneud â'r Academi Gymreig, 1967-[1987], gan gynnwys llyfr cyfrifon yr Academi Gymreig yn ystod cyfnod trysoraeth Bedwyr L. Jones, 1967-1972; cerdyn aelodaeth Gwenlyn Parry; a chartŵn yn darlunio Rhydderch Jones, yng nghwmni Gwenlyn Parry, ymysg eraill, yn cael ei dderbyn yn gymrodor.

Papurau personol,

Papurau personol Gwenlyn Parry, 1969-1993, rhai ohonynyt wedi eu crynhoi gan Ann Beynon ar ôl ei farwolaeth, gan gynnwys trefn gwasanaethau angladdau Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry, 1987 a 1991; copi o deyrnged Gwenlyn Parry i Huw Lloyd Edwards, [1975]; cerdyn adnabod Gwenlyn Parry i'r BBC; a thystysgrifau enwebu BAFTA Cymru ar gyfer y categori, 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrîn Gymraeg', 1992 ac 1993.

I Gofio Gwenlyn,

Sgript drama deyrnged i Gwenlyn Parry, I Gofio Gwenlyn, a'i perfformiwyd yn rhan o ŵyl coffa i'r dramodydd yn 1992. Crëwyd y sgript gan ddefnyddio detholiadau o weithiau Gwenlyn Parry yn unig, gan gynnwys Saer Doliau, Y Ffin a Panto. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen yr ŵyl.

Results 61 to 65 of 65