Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Anwlyfa,

Sgôr mewn llawysgrif, heb y geiriau, o gyfansoddiad Gilmor Griffiths. Mae'r trefniant yn addas i 'Dal fi fy nuw, dal fi i'r lan' neu 'Fy nhad o'r nef, o wrando 'nghri'.

Anwylyn Mair,

Sgôr mewn llawysgrif, brasluniau a llungopïau o wahanol drefniadau 'Anwylyn Mair', geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Lleisiau S.A. gyda chyfeiliant naill ai ar gyfer ffliwt (i & ii) ffidil, clarinét a guitar, neu ffliwt a ffidil, neu'r delyn.

Araith wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Brynconin

Llungopi o dudalennau llyfr nodiadau yn cynnwys araith yn llaw John Edwal Williams wedi'i chyfeirio at blant Ysgol Gynradd Brynconin, Mynachlog-ddu oedd yn mynd ymlaen i Ysgol Sir Arberth ym mis Medi 1917. Yr oedd John Edwal yn brifathro Ysgol Brynconin ar y pryd. Ar gefn y ddalen olaf ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), sy'n darllen 'Oedd llety personol i bob un o blant ysgol Blaen [sic - am Brynconin] oedd yn mynd ml'an i ysgol Arberth'; ynghyd â llungopi o'r araith fel yr ymddangosodd yn The Baptist Record.

'Archaeoleg'

Gohebiaeth a phapurau, 1990, yn ymwneud ag unfed Fforwm ar ddeg y Ganolfan, ‘Archaeoleg’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Nancy Edwards; Wendy Davies; Yann-Ber Piriou; David Thorne; John Sharkey; a J. Arnell.

Archebion; holiaduron; Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn; Y Comisiwn Elusennau; EWROSGOL; cynlluniau adeilad; arwyddion; agoriad Caffi Meinir; Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â materion amrywiol datblygu safle ac adeiladau Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys archebion llety ([?1990]x[?1995]); holiaduron (1994); materion ariannol (1993-1994); Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn (GANG) (1992); Y Comisiwn Elusennau (1993-1994); Pwyllgor Gwaith Ewrosgol (1990); werthiant Plas Pistyll (1993); Cofrestrau Cyfamodi (1988); Cynllun Adfer Tir (1991); cynlluniau adeilad (1981); Coed Cymru (1993); eiddo a dodrefn (1992-1993); arwyddion (1992); iechyd a diogelwch (1991); ac agoriad Caffi Meinir (1991-1993). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys X2 print lliw o’r Nant, ([?1990]-[?1995]), a nifer o dorion o’r wasg (1972; 1976; 1993-1994).

Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones

Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.

Ariannu, cynllunio, a lleoli adeilad y Ganolfan

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1989, yn ymwneud ag ariannu, cynllunio, a lleoli adeilad y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau (1986-1989) oddi wrth Peter Walker AS; Gareth A. Bevan; M.A.R Kemp; R. Geraint Gruffydd; John G. Roberts; Andrew Hawke; J. Bowen; Brynley F. Roberts; David Farmer; Pat Widger; A.R. Jones; D.B. Lloyd; Sarah Fox; A.T. Durbin; Hugh Morgan; Helen Hollis; Glanmor Williams; a P.S. Robinson; a phapurau yn cynnwys memoranda, (1987-1989); Adroddiad y Syrfewyr Meintiau (1989); cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Prifysgol Cymru (1986); cofnodion cyfarfod Gweithgor Cymynrodd Dr Elwyn Davies (1987); cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1987); a chynlluniau pensaernïol ([1989]).

Arweiniol,

Llawysgrif a llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant i eiriau 'Arglwydd ein Duw fe ddeuwn eto ger dy fron' gan Dafydd Owen. Hen nodiant a sol-ffa.

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Arysgrif carreg fedd John a Mary William

Llungopi o arysgrif carreg fedd John a Mary William, rhieni David (Dafydd neu Dafi) Williams, tad John Edwal Williams, ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Llanddewi Felffre, yr arysgrif gwreiddiol yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal.

As I went out a strolling,

Trefniant o'r alaw 'As I went out a strolling' (llunell cyntaf) ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr gyda geiriau. Yr enw 'Bernard Woolford , Ruthin Castle', 1971, sef Cyfarwyddwr a stiward y gwledda ar y cefn.

Results 61 to 80 of 1284