Dangos 246 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfansoddiadau cerddorol David Hughes ('Cristiolus Môn'),

  • NLW ex 2439.
  • ffeil
  • 1838-1866.

Llyfrau tonau David Hughes, ysgolfeistr a cherddor, a anwyd yn Llangristiolus, Môn, yn cynnwys emyn-donau, salm-donau ac anthemau ganddo, ynghyd â llythyr o werthfawrogiad, 1866, o Efrog Newydd, yn gofyn iddo anfon 'dwsin neu ddau ddwsin' o’i gyhoeddiad Yr Atthraw Cerddorol (1951). = Tune-books of David Hughes, scoolmaster and musician, born in Llangristiolus, Anglesea, containing hymn-tunes, psalm tunes and anthems by him, together with a letter of appreciation, 1866, from New York, asking for further copies of his publication Yr Atthraw Cerddorol (1951).

Hughes, David, 1810-1881.

Papurau R. Leonard Hugh: Urdd Siarad Cymraeg,

  • NLW ex 2637.
  • ffeil
  • 1950-1966.

Papurau, 1950-1966, gohebiaeth yn bennaf yn ymwneud ag Urdd Siarad Cymraeg, sef mudiad a sefydlwyd gan y Parch. Ddr R. Leonard Hugh ac eraill ym mis Mai 1947, ynghyd â llyfr nodiadau a chyfrifon a ddefnyddiwyd ym mhabell yr USC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth, 1952 ac yn Y Rhyl, 1953.

Hugh, R. Leonard.

Brawdoliaeth gyffredinol,

  • NLW ex 2638.
  • ffeil
  • [?1897] /

Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].

Davies, William.

Ryan a fi,

  • NLW ex 2645.
  • ffeil
  • [2000x2009] /

Atgofion John P. Davies am ei blentyndod yn Nyffryn Aman gyda'r digrifwr a'r perfformiwr Ryan Davies, a'u cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, [2000x2009], ynghyd ag atgofion yr awdur o'i brofiadau yn gwasanaethu ym Mesopotamia, 1955-57.

Davies, John P.

Llyfr y llanw a'r trai,

  • NLW ex 2650.
  • ffeil
  • 1957.

Cyfrol yn cynnwys cyflwyniad o farddoniaeth a rhyddiaith yn portreadu stori'r Ffydd yng Nghymru gan 'Cefni' a gyflwynwyd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a gynhaliwyd yn Llangefni, 1957.

Hanes Tal-y-bont, Brycheiniog,

  • NLW ex 2651.
  • ffeil
  • 1881, 1959.

Teipysgif o draethawd gan Thomas Williams, Tal-y-bont, Sir Frycheiniog, 1959, yn olrhain hanes y pentref, wedi ei gyflwyno ar gyfer cystaleuaeth mewn eisteddfod yn y pentref ym 1881, ynghyd â chyfrol yn olrhain hanes ei deulu gan Thomas Williams. Cedwir y fersiwn gwreiddiol o'r traethawd yn y Llyfrgell (NLW MS 16675).

Williams, Thomas.

Llyfr nodiadau Garfield Hughes,

  • NLW ex 2435.
  • ffeil
  • [1932x1968].

Nodiadau'n cymharu ffurfiau ieithyddol a gramadeg yn yr iaith Gymraeg, Llydaweg a Chernyweg, [1932x1968].

Hughes, Garfield H.

Y Cylch Catholig,

  • NLW ex 2663.
  • ffeil
  • 1989-1999.

Cardiau yn rhestru aelodau'r Cylch Catholig yng Nghymru a thu allan i Gymru, 1989-1999.

Cariadon y Cei a Gwas dau feistr,

  • NLW ex 2664.
  • ffeil
  • [2007].

Cyfieithiadau gan Gerald Morgan o ddwy ddrama gan Carlo Goldoni sef 'Cariadon y Cei' a 'Gwas dau feistr', [2007].

Goldoni, Carlo, 1707-1793.

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd,

  • NLW ex 2674.
  • ffeil
  • 1980-1995.

Papurau Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd ('Y Geltaidd'), Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1980-1995, gan gynnwys gohebiaeth, tocynnau a rhestri aelodaeth a llyfr cofnodion cyfarfodydd.

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd.

Llythyrau o'r Wladfa,

  • NLW ex 2696.
  • ffeil
  • 1965-2010.

Papurau, 1965-2010, gan gynnwys casgliad o lythyrau a chardiau post o'r Wladfa, yn bennaf oddi wrth Mrs Elisa Dimol de Davies, Trelew, at y rhoddwr a'i deulu.

Englynion yn llaw 'Hydd Cyfeiliog',

  • NLW ex 2707.
  • ffeil
  • 1933.

Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.

Rees, David John.

Papurau Llyfni Huws,

  • NLW Misc. Records 303.
  • ffeil
  • 1889-1962.

Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.

Enoc Evans (Neco) 1874-1952,

  • NLW ex 2719.
  • ffeil
  • 2011.

Cerddi'r bardd Enoc Evans, Llanfihangel Ystrad, mewn teipysgrif, wedi'u casglu ynghyd gan Meredudd Daniels, [2011].

Evans, Enoch.

Canlyniadau 61 i 80 o 246