Showing 165 results

Archival description
Series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Gohebwyr eraill

Llythyrau at R. Tudur Jones gan ohebwyr eraill, 1938-1994, ynghyd â rhai papurau perthnasol, wedi eu trefnu’n ffeiliau, yn ôl blynyddoedd.

Gwilym Hiraethog

Nodiadau ymchwil T. Eirug Davies ar Gwilym Hiraethog; ei draethawd anfuddugol ‘Cyfraniad Gwilym Hiraethog i fywyd a llên ei gyfnod’, Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1929, ynghyd â chopi o ddarlith Alun Eirug Davies ar y llenor, 2010.

Gwledda canoloesol a Rhyl Operatic Society,

Casgliad o ganeuon, wedi'u trefnu neu eu cyfansoddi ar gyfer perfformiadau yn y Gwleddoedd Canoloesol poblogaidd a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun. Hefyd darnau a berfformiwyd gan Gymdeithas Operatig Amatur y Rhyl pan fu Gilmor yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Iechyd

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys gohebiaeth, adroddiadau, papurau pwyllgorau a.y.b.

Llyfrau nodiadau

Deuddeg llyfr o nodiadau bras o gyfarfodydd gweinyddol mewnol a rhestri "i'w gwneud", tua Mawrth 2003-Gorffennaf 2007. Mae'r rhan fwyaf o'r nodiadau heb eu dyddio. Mae un llyfr gyda'r enw Dafydd Trystan; mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau heb enwau.

Llywodraeth Cymru'n Un

Papurau yn ymwneud a chlymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2011 gan gynnwys gwybodaeth ar y trafodaethau ar ffurfio'r clymblaid, trafodaeth am glymblaid amgen rhwng Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig, materion staffio a busnes y llywodraeth.

Results 81 to 100 of 165