Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Etholiad Cyffredinol 1945

Mae'r ffeil yn cynnwys copi llawysgrif o araith Saesneg gan Bebb, a oedd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn sir Gaernarfon, ar hunanlywodraeth i Gymru a chopi o'i anerchiad etholiadol a yrrwyd at etholwyr sir Gaernarfon yn ystod yr ymgyrch.

Hanes

Papurau yn ymwneud â'i gyhoeddiadau ynglŷn â hanes Cymru, 1934-1951.

Crefydd a Hanes Crefydd

Mae'r uned hon yn cynnwys deunydd yn ymwneud â gwaith Bebb ar grefydd a hanes crefydd yng Nghymru. Mae'n cynnwys llawysgrifau a nodiadau ar gyfer rhai o'i gyhoeddiadau, llawysgrif o waith anghyhoeddedig, ynghyd â nodiadau ar hanes yr achos Methodistaidd yn Narowen a Melinbyrhedyn, 1937-1956.

'John ap John'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif y ddwy erthygl olaf (gyda'r tudalen cyntaf yn eisiau) mewn cyfres o erthyglau byr ar fywyd a gwaith John ap John, y Crynwr a gyhoeddwyd yn Cymru, 61-63 (1921-1922), sef yng nghyfrol 63 (1922), 46-8, 74-5.

John ap John, 1625?-1697

Deunydd gwreiddiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad atgyweirio capel Melinbyrhedyn, 1887, adroddiad ar Ddiwygiad [1904-1905] ym Melinbyrhedyn, 1905, a thoriad papur newydd yn cynnwys adroddiad o ymweliad Mrs [Mary] Jones, Egryn, â Melinbyrhedyn, 1905.

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Results 101 to 114 of 114