Dangos 3784 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Arnodiadau Morrisiaid Môn,

  • NLW MS 23966B.
  • ffeil
  • 1603-1759

Copi anghyflawn o gyfrol William Middelton, 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], gyda'r chwe dalen gyntaf, a dalennau 1-30, 229-30, 233-87 ar goll (awgryma nodyn ar f. 118 verso iddynt gael eu colli cyn y ddeunawfed ganrif). Ceir yn y gyfrol nifer o fân nodiadau mewn inc yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg (y mwyafrif wedi gwisgo neu wedi eu tocio), gan gynnwys enwau Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), ac Owen Parry, 1690 (f. 63). = Incomplete copy of William Middelton's 'Psalmae y brenhinol brophwyd Dafydh' (Llunden, 1603) [Libri Walliae 466-9, ESTC S90848], lacking the six preliminary leaves and ff. 1-30, 229-30, 233-87 (the note on f. 118 verso suggests that they were lost before the eighteenth century). The volume bears a number of minor annotations in ink of the seventeenth century (most faded or cropped), including the names of Richard Jones (ff. 45, 65 passim), Kadwalad[r] Wynn (f. 55), Hugh Jones (ff. 88 verso, 89 passim), and Owen Parry, 1690 (f. 63).
Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, roedd y gyfrol yng ngogledd Môn, fel y tystia enwau Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) a John Hughes o Lanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, a ddarlunnir efallai ar f. 112 verso). Bu wedyn ym Mhentreiriannell, Môn, lle'r ysgrifennwyd arno enwau Lewis Morris, 1721 (f. 62), Siôn Morris, 1721/2 (f. 49) a Rhisiart Morris, 1725 (f. 17), ac ychwanegodd Lewis Morris nifer o ddarnau o farddoniaeth, yn Gymraeg a Saesneg, ar ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, a 116 verso. Wedi ei chludo i Benbryn, Ceredigion, cyflwynodd Lewis y gyfrol ym Medi 1759 i Siôn Bradford o Fetws Tir Iarll, Morgannwg (f. 17 verso). = Early in the eighteenth century, the volume was in the north of Anglesey, as witness the names of Richard Owen, Llanfihangel-yn-Nhywyn, 1711 (ff. 81, 85 verso) and John Hughes of Llanfair-yn-neubwll (ff. 26, 36, and possibly pictured on f. 112 verso). Subsequently at Pentreiriannell, Anglesey, it was inscribed with the names of Lewis Morris, 1721 (f. 62), John Morris, 1721/2 (f. 49) and Richard Morris, 1725 (f. 17), and Lewis Morris added numerous fragments of verse, in both Welsh and English, on ff. 90, 91, 111 verso, 114, 115 verso, and 116 verso. Having been transported to Penbryn, Cardiganshire, the volume was in September 1759 presented by Lewis to John Bradford, of Betws Tir Iarll, Glamorgan (f. 17 verso).

Morris, Lewis, 1701-1765

Arweinlyfr i deithwyr a thraethawd

Arweinlyfr i deithwyr ar gyfandir Ewrop a beirniadaeth, traethodau : 'Cyfraniad J. D. Jones (1827-1870) i Ganiadaeth y Cysegr' a beirrniadaeth (rhifau 31 a 33 yn y Rhestr Testunau), ynghyd â beirniadaeth ar 'Llawlyfr y garddwr amatur' a thraethawd : 'Cyfraniad Sir Feirionnydd i gelfyddyd Cerdd Dannau yn ystod hanner can mlynedd cyntaf y ganrif hon' (rhif 32 a 34a yn y Rhestr Testunau).

Atgofion Capten,

  • NLW ex 2486.
  • ffeil
  • 1935-1936.

Atgofion y Capten llong R. E. Jones, y Felinheli, 1935-1936.

Atgofion Gomer Roberts,

Adysgrif ganddo mewn teipysgrif, Awst 1992, o 'Atgofion am ardal Llawrybetws' gan Gomer Roberts a luniodd yn 1926.

Roberts, Gomer Morgan

Canlyniadau 101 i 120 o 3784