Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau

Copi llawysgrif a phrintiedig gyda chywiriadau o’i bryddest fuddugol ‘Meirionnydd’, Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949, ynghyd â chopi o'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo gan Gyngor yr Eisteddfod, a'i atgofion: 'I nearly missed my coronation'.

Cylchgronau

Copïau o’r Haul a’r Gangell (adargraffiadau),1960, yn cynnwys ‘Mae rhwyg y Methodistiaid a ni yn dechrau cau’ a ‘Cymru yn y chwedegau’ ac o’r Llenor, ynghyd ag allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru o erthyglau ganddo o’r Llenor a Cymru.

Llythyrau

Llythyrau, [1950]-[2012], yn ymwneud â'i ddiddordebau academaidd a'i gyhoeddiadau.

Cerddi eisteddfodol

Cerdd ‘Lili y Dyffrynnnoedd ydwyf i’ a 'Hiraeth', Colofn yr Awen, Seren Cymru, 6 Hydref 1950; awdl ‘Y castell’, Eisteddfod Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, 1959 a ‘Hiraeth’, Seren [Cymru]; ac awdl 'Y frwydr' gan ['Daear y graith'] a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'i chyffiniau yn 1981.

Nodiadau eraill ar gyfer dosbarthiadau nos

Nodiadau gan ac yn llaw Waldo Williams, yn ôl pob tebyg wedi'u paratoi ar gyfer cyflwyno darlithoedd dosbarthiadau nos, y deunydd dan sylw yn ymdrin gan fwyaf â hanes Cymru, y gynghanedd a'r iaith Gymraeg.

Cyfieithiadau o ganeuon

Cyfieithiadau o 38 cân ar gais W. S. Gwynn Williams a gyhoeddwyd gan Gwmni Gwynn, 1951-1965. Yn eu plith mae 'Hwn yw dydd geni Crist ein Iôr' (Hodie Christus natus est) a'i addasiad o ddwy gân werin Gymreig 'Modryb Neli' a 'Yr hen ŵr mwyn', a'r 'Gleisiad' (The trout).

Amryw gyhoeddiadau

Amryw gyhoeddiadau, yn bennaf gan Blaid Cymru, gan gynnwys Bobi Jones (gol.), 'Camre Cymru: cerddi'r rali gan amryw feirdd', 1952; H. W. J. Edwards, 'What is Welsh nationalism', ail argr., 1953, 2nd ed., 1954; Dr J. Gwyn Griffiths, 'A parliament in Cardiff', 1953; Pennar Davies, 'Y gongl fach hon am Ddic Siôn Dafydd ac argyfwng ei enaid', [c.1953?]; Ymgyrch Senedd i Gymru, 'Senedd i Gymru', 1953; Parliament for Wales Campaign, 'Parliament for Wales', 1953; Gwynfor Evans, '70 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru', ail argr., 1954; Dr Ceinwen H. Thomas, 'The return of a language: an experiment in the revival of Danish in South Slesvig; an address delivered ... to the annual conference of Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru', 1954; 'Polisi amaethyddol Pliad Cymru', 1954; 'Policy for Welsh agriculture by Plaid Cymru', 1954; Gwynfor Evans, 'The Labour Party and Welsh home rule', [post 1954]; Gwynfor Evans, 'The political broadcasts ban in Wales', 1955; J. E. Jones, '1925-1955, Cychwyn Plaid Cymru', 1955, yn cynnwys nodiadau; H. W. J. Edwards, 'Introducing Welsh nationalism', [post 1955]; Gwynfor Evans et al., 'Wales against conscription', [post 1955]; Gwynfor Evans et al., 'Our three nations, Wales : Scotland : England', 1956; F. M. Jones, 'Yr Eglwys a'r Blaid', 1956; 'Rali Plaid Cymru 1956, Bala, Medi 29: "Cadw Cwm Tryweryn i Gymru"', 1956; Gwynfor Evans, 'Save Cwm Tryweryn for Wales', [c.1956]; 'Have a go, Joe!: an easy quiz!', [post 1956]; Gwynfor Evans a J. E. Jones, 'Television in Wales', [1956x1970]; Gwynfor Evans, '80 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru', [argr. gyntaf?], [c.1957], 4ydd argraffiad, [post 1963]; Gwynfor Evans, '80 questions and answers on Plaid Cymru', 3rd ed., [c.1957]; Gwynfor Evans, 'Gwersi Tryweryn', [c.1957]; Dr Ceinwen Thomas, 'Monmouthshire in Wales', [c.1957]; Gene Sharp, 'Which way to freedom: a study in non-violence', [1957x1971]; J. E. Jones, 'Y pleidiau Seisnig a'u cynffonnau yng Nghymru', [1958x1970]; J. E. Jones, 'Satellite parties in Wales', [1958x1970]; Dr R. Tudur Jones, 'Egwyddorion cenedlaetholdeb', 1959; Dr Leopold Kohr, 'An Austrian looks at Welsh nationalism', [c.1959]; Edward Nevin, 'Wales and the Common Market', 1960; 'Electricity board for Wales', [c.1960].

Hughes a’i Fab

Llythyrau, 1953-1956, yn ymwneud â chyhoeddi'r nofel Gŵr Pen y bryn a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1923, ailargraffu'r nofel gan y wasg a darlledu addasiad o'r nofel gan y BBC yn 1954. Ceir llythyrau oddi wrth D. Tecwyn Lloyd.

Results 121 to 140 of 45762