Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Barddoniaeth (cywydd moliant-emyn),

Cywyddau moliant i grefftwr; cywyddau coffa i D. J. Davies, Capel Als; englynion : 'Olew'; englynion ysgafn : 'Gwallt hir'; telynegion : 'Y gadwyn'; chwech o ddiarhebion newydd yn null Triban Morgannwg; sonedau : 'Geni'; dychangerddi : 'Y sefydliad'; cerddi cenedlagarol gyfoes; cerddi rhyddiaith : 'Cyffuriau' ac emynau ar gyfer gwasanaethau mewn ysbyty.

Barddoniaeth David Davies (Ffatri Emlyn, Adpar),

  • NLW ex 2577.
  • ffeil
  • [1892]-[1937] /

Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].

Davies, David, 1871-1947.

Barddoniaeth Derfelog,

  • NLW MS 16481C.
  • ffeil
  • [1910au]-[1930au] /

Tua chant ac ugain o gerddi holograff, [1910au]-[1930au], gan Hugh Edwards (Derfelog), Manceinion, nifer ohonynt yn ymwneud ag ardal Llandderfel, sir Feirionnydd, neu ar bynciau crefyddol. = Some one hundred and twenty holograph poems, [1910s]-[1930s], by Hugh Edwards (Derfelog), Manchester, many relating to the Llandderfel area, Merionethshire, or on religious themes.
Ymddengys i rai o'r cerddi gael eu cyhoeddi yn newyddiadur wythnosol Y Seren (Bala); nid ydynt yn ymddangos yn ei gyfrolau Oriau Myfyr (Bala, [1898]) nac Oriau Anian (Bala, [c. 1900]). = Some of the poems were published in the weekly newspaper Y Seren (Bala); none appear in his Oriau Myfyr (Bala, [1898]) or Oriau Anian (Bala, [c. 1900]).

Derfelog, 1870?-1941.

Barddoniaeth (emyn-trosiadau i'r Gymraeg),

Emynau : 'Fel y byddont oll yn un'; cadwyn fer o englynion : 'Y llynnoedd'; carolau Nadolig; penillion yn null y Ficer Pritchard, yn ceryddu Cymru heddiw a storïau ar gân addas ar gyfer gweithgarwch llafar i ysgolion; cyfrolau o farddoniaeth wreiddiol; casgliad o 50 o ddarnau o farddoniaeth grefyddol Gymraeg a throsiadau i'r Gymraeg o gerdd o waith unrhyw fardd Eingl-Gymreig.

Barddoniaeth Gymraeg a Saesneg,

  • NLW MS 23940A.
  • ffeil
  • 1829-[1830au].

Cyfrol, 1829-[1830au], o bosib yn llaw un Richard Prichard, yn cynnwys copïau o farddoniaeth Gymraeg (ff. 1-6 verso) a Saesneg (ff. 18 verso-22 verso). = A volume, 1829-[1830s], possibly in the hand of one Richard Prichard, containing copies of poetry in Welsh (ff. 1-6 verso) and English (ff. 18 verso-22 verso).
Mae'r farddoniaeth Gymraeg yn cynnwys tua phedwar deg tri o benillion telyn, ynghyd ag un englyn (f. 1) a hwiangerdd (f. 6 recto-verso); maent yn hysbys o ffynnonellau llawysgrif a phrintiedig eraill heblaw am dri, y rhai sy'n cychwyn 'Gwyn y fyd na fai gyn [?hawsed]' (f. 5), 'Mae gan i gariad yn y Werddon' (f. 5 verso) a 'Dacw dy a dacw dalcen' (f. 6), sydd heb eu canfod. Mae'r farddoniaeth Saesneg yn cynnwys penillion a dernynnau eraill o gerddi gan nifer o feirdd, gan fwyaf o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys Sir Charles Sedley (f. 22 verso), George Gascoigne (ff. 20 verso-21), Samuel Daniel (ff. 19 verso-20), Henry Willoughby (ff. 19 recto-verso) a Michael Drayton (f. 18 verso). = The Welsh poetry consists of some forty-three 'penillion telyn', along with a single englyn (f. 1) and a lullaby (ff. 6 recto-verso). These are known from other manuscript or printed sources with the exception of three, those beginning 'Gwyn y fyd na fai gyn [?hawsed]' (f. 5), 'Mae gan i gariad yn y Werddon' (f. 5 verso) and 'Dacw dy a dacw dalcen' (f. 6), which have not been traced. The English poetry consists of verses and fragments from the works of various poets, mostly of the sixteenth and seventeenth centuries, including Sir Charles Sedley (f. 22 verso), George Gascoigne (ff. 20 verso-21), Samuel Daniel (ff. 19 verso-20), Henry Willoughby (ff. 19 recto-verso) and Michael Drayton (f. 18 verso).

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Barddoniaeth Waldo Williams,

'Teipysgrif breifat' a gyflwynwyd i Tecwyn Lloyd gan y bardd. [Ceir cerddi ychwanegol at y rhai a gyhoeddwyd yn Waldo Williams, Dail Pren (Aberystwyth, 1956)].

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y môr'; casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell : 'Melodïau'; cywyddau : 'Un wennol ...'; englyn cydymdeimlad; englynion crafog : 'Bacha hi o'ma'; deg o gwpledi epigramatig; telynegion : 'Dawns'; wyth o dribannau : 'Gwaith'; cerddi rhydd : 'Ôl traed'; salmau : 'I'r cymanaswyr' a baledi: 'Cwango'.

Canlyniadau 161 i 180 o 3783