Dangos 838652 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

28,

299,

  • 299.
  • Ffeil
  • Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig [a'r Cyngor Darlledu Cymreig] (gohebiaeth). 1960-62.
  • Rhan oPapurau Undeb Cymru Fydd

3 Llythyr at ei ferch Eluned, 1935, 1937 a 1944 ac 1 at ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones, 1945; llythyr ...,

3 Llythyr at ei ferch Eluned, 1935, 1937 a 1944 ac 1 at ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones, 1945; llythyr, 1945, oddi wrth y Parchedig Dyfnallt Owen, golygydd Y Tyst; ynghyd â phapurau eraill gan gynnwys adysgrif o lythyr oddi wrth yr Arglwydd Rendel at y Prifathro T. F. Roberts gyda chyfeiriad at ddarluniau John Kelt Edwards ar gyfer cyfieithiad Daniel Rees o Divina Commedia Dante; toriad o'r Dublin Evening Mail, 1938, yn dangos T. Gwynn Jones mewn cynhadledd yn y Brifysgol; manylion, 1945, am y trefniadau i gael Evan Walters i wneud portread mewn olew o T. Gwynn Jones a'r cyflwyno; taflenni gwasanaethau coffa a gynhaliwyd iddo yn Hebron, Hen Golwyn, Mawrth 1949, ac yng Nghapel Hyfrydle, Betws-yn-Rhos, Gorffennaf 1950.

4 Rhag. 1925.

'Cyfarchiad y Golygydd'. 'Nis gall Cymry aiddgar y Barri a'r Cylch lai na theimlo yn llawen fod Cyfarwyddwr llygadgraff y 'Barry and District News' a'r Golygydd, Mr Pullin, yn cydnabod y Barri yn dref ddwy-ieithog, yn eu gwaith yn neilltuo cyfran o'u newyddiadur at wasanaeth y Cymro yn ei iaith ei hun ... Ni arbedir unrhyw drafferth i wneud yr adran Gymraeg yn ddiddorol ac yn wasanaethgar ... Cymerwn y cyfle hwn i bwysleisio y ffaith mai nid gelyniaeth at yr iaith Seisnig, nac amharch i Saeson, sy'n cyfrif am ymlyniad y Cymry wrth eu hiaith, ond greddf a chariad. Teimlant, hefyd, mai drwy deyrngarwch i'w hiaith yn unig y gallant gyfrannu eu goreu ar allor budd cyffredinol y deyrnas ...'. 11 Rhag. 'Yn llên gofnodol Cymru, un adeg, by 'dychmygion' mewn bri mawr. Perthyna dyfalu 'dychmygion' i'r un dosbarth o gampau meddwl a 'pos' y croeseiriau. Gan farnu y ca ein darllenwyr bleser yn y gwaith hwn, rhoddir o wythnos i wythnos 'ddychymyg' yn yr Adran Gymraeg. Anfoner y dyfaliadau i'r Golygydd, a chyhoeddir enwau y rhai llwyddiannus'. Rhoddir yr ateb bob tro yn yr wythnos ganlynol. Mewn ambell d? ceir gwrthrych. Defnyddiol iawn yn wir,. Pan ddaw y gaeaf called,. A phan fo'r nos yn hir;. Mae ganddo drwyn cyrhaeddbell,. A chlust, a chroen mwyn, têg,. Ond ni fedd draed, na dwylaw,. Na llygad, gwallt, na chêg. Beth yw? (Megin). 18 Rhag. Dychymyg (ii). Y mae yna wrthrych. Heb un dafn o waed,. Ond mae iddo wyneb,. Corff, deufys, a thread;. Mae'n cerdded yn gyson. Heb symud o'i le,. Mae hefyd yn taro. Heb fraich chwith na de. Beth yw? (Cloc neu awrlais). 25 Rhag. Dychymyg (iii). Aderyn heb draed na chân fy ffrynd;. Aderyn heb edyn, ac eto'n mynd!. Aderyn heb blu, er hynny mae pwn. Dilladu'r miliynau ar gefen hwn. Beth yw ei enw? (Gwennol y gwehydd). 8 Ion. 1926. Dychymyg (iv). Y mae mewn caseg,. Ond nid mewn cawn;. Y mae mewn meddyg,. Ond nid mewn mawn;. Y mae mewn neges,. Ond nid mewn nos;. Y mae mewn rhyfyg,. Ond nid mewn rhos. Beth yw? (Y llythyren 'g'). 15 Ion. 'Twm Shon Cati yn Llanfabon'. Hanes Twm yn twyllo Siôn, tafarnwr, Pen yr Heol Fawr, Llanfabon, ac yn dwyn ei geffyl. 22 Ion. Dychymyg (v). Mae gan bob Cymro llawen,. A phob Cymraes iawn ryw,. Ddau efaill i'w hymg'leddu,. Bob dydd, tra byddant byw;. Mae sawdl, cefn a thafod,. Yn rhan pob un o'r ddau,. Ond fod y tafod, druan,. Mewn carchar wedi'i gau. Enwch y 'ddau efaill'! (Dwy esgid). 29 Ion. Dychymyg (vi). Mae'n enaid morwriaeth. Yr aig i gyd;. Mae'n rhwygydd gwlyb blisgyn. Bedd mwya'r byd;. Mae'n berffaith ei gynllun -. Gwaith llaw dyn gwan;. Mae draw ar y tonnau,. Mae'n ymyl glan. Beth yw? (Bwa llong). 5 Chwef. Dychymyg (vii). Mae gwrthrych bychan, cyfrwys,. I'w gael yng Nghymru fad;. Mae'n barchus iawn gan fechgyn,. A hefyd llawer tad;. O dan ei aden esmwyth,. Y llecha anghau du,. Ac ebyrth teg ei ystryw,. Yn fynych ddaw i'r ty. (Bach pysgota). 5 Mawrth. Dychymyg (viii). Offeryn hylaw welais,. A'i goes yn hir a llefn;. A dwy res wen o ddannedd. Yn sefyll gefn yng nghefn. Rhoddwch ei enw. (Ateb?).

Canlyniadau 161 i 180 o 838652