Dangos 207 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Addysg i oedolion,

Papurau, [1938]-1992, yn ymwneud â'r cyfnod y bu'n cynnal dosbarthiadau i oedolion dan nawdd Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Adroddiadau ysgol,

Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.

Aled Vaughan,

Llythyr, 1984, oddi wrth Aled Vaughan yn amgau pennod 11 o'i waith creadigol mewn teipysgrif er mwyn cael barn Tecwyn Lloyd arni.

Vaughan, Aled, 1920-1989.

Atgofion Gomer Roberts,

Adysgrif ganddo mewn teipysgrif, Awst 1992, o 'Atgofion am ardal Llawrybetws' gan Gomer Roberts a luniodd yn 1926.

Roberts, Gomer Morgan

Bangor 1934-38,

Atgofion am ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifysgol ar ffurf llawysgrif a theipysgrif a ysgrifennwyd yn 1990.

Barddoniaeth Waldo Williams,

'Teipysgrif breifat' a gyflwynwyd i Tecwyn Lloyd gan y bardd. [Ceir cerddi ychwanegol at y rhai a gyhoeddwyd yn Waldo Williams, Dail Pren (Aberystwyth, 1956)].

Beirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol,

Gwahoddiadau i feirniadu mewn cystadlaethau llenyddol, 1984-1990, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau 1985, ynghyd â chopi o'i feirniadaeth yng nghystadleuaeth yr ysgrif bortread yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

Bro a Bywyd,

Papurau, [1968]-[1997], yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol gan gynnwys manylion am y ffotograffau a'r llyfryddiaeth a ddefnyddiwyd, ynghyd â gwybodaeth am ei yrfa a'i gyhoeddiadau, [1968], yn Saesneg.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

Ceisiadau am swyddi,

Ceisiadau am swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Astudiaethau Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Caeredin, [cyn 1955], tiwtor cynorthwyol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Bangor, 1955, a darlithydd cynorthwyol yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Caerdydd (llenyddiaeth ddiweddar), 1957.

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a llawysgrif gan gynnwys 'Ymson ynghylch y tir' a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Llenor, Hydref-Gaeaf 1946, a 'Dioddefaint' a gyhoeddwyd yn Y Llenor, Hydref-Gaeaf 1945, a llawer o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Ieuan Parri (gol.), Cerddi Tec Lloyd (Llanrwst, 2009).
Rhodd Awst 2017
Cerdd yn llaw D. Tecwyn Lloyd yn dwyn y teitl 'Idris Bach, Maerdy', wedi ei hysgrifennu mewn inc du a glas, gyda darluniau bach mewn inc coch; daeth y rhoddwr o hyd i'r gwaith yng nghanol y gyfrol A. Hilka & O. Schumann, Carmina Burana, cyf. 2 (Heidelberg, 1941), fu'n rhan o lyfrgell D. Tecwyn Lloyd yn wreiddiol.

Clychau mebyd,

Caneuon i blant gan Catherine H. Cooke a gyfansoddodd y gerddoriaeth mewn llawysgrif ac wedi'u darlunio [mae rhai o'r caneuon wedi'u cynnwys yn ei chyfol Caneuon glannau Hesbin : llyfr adrodd a chanu i blant (Lerwpl : Gwasg y Brython, 1960)].

Cooke, Catherine H.

Coleg Harlech,

Papurau gan gynnwys llythyr oddi wrth Percy E. Watkins, 1926, yn ymwneud â sefydlu'r Coleg; llyfr cofnodion y Gymdeithas Gymraeg, 1931-1938; llyfryn Horace Haigh, myfyriwr yn y Coleg, 1936-1937; amserlen, 1947-1948; llyfr nodiadau darlithiau Llên Gymraeg, [1947]-[1948], ynghyd â nodiadau dosbarthiadau diweddarach, 1962-7; prosbectws cyrsiau 1946-1947; Adroddiad Blynyddol, 1949-1950; a Y Bont (Cylchgrawn Coleg Harlech, 1954-1955).

Watkins, Percy E. (Percy Emerson), Sir, 1871-1946.

Canlyniadau 1 i 20 o 207