Dangos 227 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Alaw Ddu (W. T. Rees)
Rhagolwg argraffu Gweld:

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol ...,

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol Deheudir Cymru, Sulgwyn 1875, ff. 1-8 [anghyflawn]. Cynhwysir hefyd bum copi o rannau o'r anthem yn cynnwys newidiadau a chywiriadau, ff. 9-26 [gweler 140]. Ar gefn un o'r copiau, f. 21, ceir bariau cyntaf 'Gweledigaeth yr Esgyrn Sychion' wedi eu croesi allan. [gweler 137].

Bu Medd'dod Cas, canig (glec) i bedwar llais at wasanaeth y Temlwyr Da, geiriau gan [Richard Davies,] 'Mynyddog' [gweler 25 ...,

Bu Medd'dod Cas, canig (glec) i bedwar llais at wasanaeth y Temlwyr Da, geiriau gan [Richard Davies,] 'Mynyddog' [gweler 25, 28, 185 ac 194] buddugol yn Eisteddfod [Genedlaethol ?] Bangor, 1874. Ar y cefn, ceir emyn-dôn a ddanfonwyd i eisteddfod Ponthenry, Awst 31ain, 1874, yn ogystal â phennill o'r gerdd 'Mis y Mel' [gan ?].

Canlyniadau 1 i 20 o 227