Dangos 76 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Marion Eames,
Rhagolwg argraffu Gweld:

A Private Language?,

Gwaith ymchwil ar gyfer A Private Language?, [1992x1997], gan gynnwys erthyglau gan R. Geraint Gruffydd ar waith Dafydd ap Gwilym; copïau o nifer o gerddi Cymraeg a'u cyfieithiadau Saesneg; nodiadau ar y gynghanedd; a drafft o bennod fer ar William Williams, Pantycelyn, ac Ann Griffiths. = Research for A Private Language?, [1992x1997], including articles by R. Geraint Gruffydd on the work of Dafydd ap Gwilym; copies of numerous Welsh poems and their English translations; notes on the 'cynghanedd'; and a draft of a short chapter on William Williams, Pantycelyn, and Ann Griffiths.

Addasiadau o weithiau Marion Eames,

Papurau'n ymwneud ag addasiadau radio, llwyfan a theledu o rai o weithiau Marion Eames, 1981-[2007], yn cynnwys I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; ac Y Stafell Ddirgel, 2001. = Papers relating to radio, stage and television adaptations of works by Marion Eames, 1981-[2007], comprising I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; and Y Stafell Ddirgel, 2001.

Adolygiadau a chyfweliadau,

Torion o'r wasg a chyfrolau printiedig, 1969-2001, yn cynnwys cyfweliadau â Marion Eames ac adolygiadau o'i gweithiau. = Press cuttings and journals, 1969-2001, containing interviews with Marion Eames and reviews of her works.

Anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007], yn sôn am ei nofelau a'i bywyd, ac yn trafod pynciau megis hanes y Crynwyr yng Nghymru. = Drafts of various speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007], discussing her life, her writing and topics such as the history of the Quakers in Wales.

Baner Beca,

Drafftiau anghyflawn o'r stori fer Baner Beca, [2002x2004], ynghyd â chopi cyflawn o'r cyfieithiad Saesneg. = Various incomplete drafts of the short story Baner Beca, [2002x2004], together with a complete copy of the English translation.

Cerddi,

Cerddi, 1933-[1990], gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth a'r gerdd 'The Caprice', gan Marion Eames, 1933-1957; ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill, gan gynnwys copïau llawysgrif o 'A'u gwelo, tros ei galon...' a 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' gan T. Gwynn Jones, a 'Deuoedd' gan Wil Ifan; ambell gerdd gan J. Lewis Jones; a dwy gerdd deyrnged i Marion Eames. = Poems, 1933-[1990], including a volume of poetry and a copy of 'The Caprice' by Marion Eames, 1933-1957; together with copies of poems by others, including manuscript copies of 'A'u gwelo, tros ei galon...' and 'Pe gwyddit ti pa beth wyf fi...' by T. Gwynn Jones, and 'Deuoedd' by Wil Ifan; copies of poems by J. Lewis Jones; and two tributes to Marion Eames.

Cerddi,

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o gerddi gan Griffith Williams, [1940]-[1977]. = Manuscript and typescript drafts of poems by Griffith Williams, [1940]-[1977].

Cyfieithiadau emynau,

Cyfieithiadau emynau gan Marion Eames, 1994-2001, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg, 1994, o emyn gan Dietrich Bonhoeffer; cyfieithiad Cymraeg o emyn y Parch. Andrew Pratt a luniwyd yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol yn Efrog Newydd, Medi 2001; a cyfieithiad Cymraeg o emyn diolchgarwch Doreen Newport. = Translations of various hymns by Marion Eames, 1994-2001, including a Welsh translation, 1994, of a hymn by Dietrich Bonhoeffer; a Welsh translation of a hymn by the Rev. Andrew Pratt drafted following the terrorist attacks in New York, September 2001; and a Welsh translation of a thanksgiving hymn by Doreen Newport.

Deryn Corff,

Sgript Deryn Corff, 1998, a ysgrifennwyd gan Marion Eames i'w ddefnyddio yng nghystadleuaeth deialog agored Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr, 1998. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o sgriptiau T. James Jones ac Eigra Lewis Roberts a ddefnyddiwyd yn yr un gystadleuaeth. = A script entitled Deryn Corff, 1998, written by Marion Eames for use in the open dialogue competition at the National Eisteddfod of Wales, Bro Ogwr, 1998. The file also includes copies of scripts by T. James Jones and Eigra Lewis Roberts used in the same competition.

Deunydd printiedig,

Deunydd printiedig, 1929-2007, yn cynnwys erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998; torion amrywiol o'r wasg, 1954-2007; adolygiadau o'i gwaith a chyfweliadau, 1969-2001; ynghyd â pamffledi a llyfrynnnau yn ymwneud ag ymweliad Marion Eames i'r Unol Daleithiau yn 1984. = Printed materials, 1929-2007, comprising articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998; various press cuttings, 1954-2007; reviews of her work and interviews, 1969-2001; together with pamphlets and booklets relating to her visit to the United States in 1984.

Dewch i Foli,

Sgriptiau o gyfraniadau Marion Eames i'r gyfres radio Dewch i Foli, 1984-1985, yn cynnwys storïau a dramâu byrion crefyddol eu thema. = Scripts of Marion Eames's contributions to the radio series Dewch i Foli, 1984-1985, comprising short stories and dramas relating to religion.

Drafftiau nofelau,

Casgliad o lawysgrifau, [1964]-1981, a dderbyniwyd yn rhodd i'r Llyfrgell yn 1988, yn cynnwys drafftiau o Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; ac Y Gaeaf Sydd Unig, 1981. = A collection of manuscripts, [1964]-1981, donated to the Library in 1988, comprising drafts of Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; and Y Gaeaf Sydd Unig, 1981.

Dramâu a storïau byrion,

Drafftiau teipysgrif o ddramâu a storïau byrion gan Griffith Williams, [1940]-[1977], gan gynnwys sgript drama radio, Prelude to Escape, a sgript drama deledu, The Unarmed. = Typescript drafts of dramas and short stories by Griffith Williams, [1940]-[1977], including a radio script entitled Prelude to Escape, and a television drama, The Unarmed.

Duwies y Llyn,

Papurau'n ymwneud â Duwies y Llyn, 1999, gan gynnwys drafftiau o'r gwaith, rhai llythyron yn trafod newidiadau posibl, a llyfr nodiadau yn cynnwys peth gwaith ymchwil ac yn dwyn y teitl gwreiddiol, Y Tiriadon. = Papers relating to Duwies y Llyn, 1999, including drafts, letters discussing possible changes to the text, and a notebook containing some research notes and bearing the original title, Y Tiriadon.

Dyddiadur,

Dyddiadur poced Marion Eames, 2001, yn cofnodi ei hapwyntiadau. = Marion Eames's pocket diary, 2001, recording her various appointments.

Erthyglau a storïau byrion,

Torion o'r wasg o erthyglau a storïau byrion gan Marion Eames, 1929-1998, gan gynnwys storïau a ysgrifennwyd ganddi yn blentyn a'u cynhwyswyd yn The Daily Courier. = Press cuttings of articles and short stories by Marion Eames, 1929-1998, including stories written by her as a child which appeared in The Daily Courier.

Erthyglau,

Torion o'r wasg o erthyglau a ysgrifennwyd gan Griffith Williams, 1954-1977, gan gynnwys ei gyfraniadau rheolaidd i dudalennau celf papur wythnosol Plaid Cymru, Welsh Nation, 1974-1977. = Press cuttings of various articles written by Griffith Williams, 1954-1977, including his regular contributions to the arts pages of Plaid Cymru's weekly newspaper, Welsh Nation, 1974-1977.

Erthyglau,

Drafftiau o erthyglau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-2001, gan gynnwys erthyglau yn trafod hanes Dafydd Lloyd, cyfreithiwr a Crynwr o Gymru, a Gustav Mahler. = Drafts of various articles by Marion Eames, [1970]-2001, including articles relating to Dafydd Lloyd, a lawyer and Quaker from Wales, and Gustav Mahler.

Erthyglau, anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o erthyglau, anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007]. = Drafts of various articles, speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007].

Canlyniadau 1 i 20 o 76