Dangos 9 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Capel Abergeirw
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofysgrifau Capel Abergeirw

  • GB 0210 ABEGRW
  • fonds
  • 1897-1975

Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol Capel Abergeirw, sir Feirionnydd, 1899-1940; ynghyd â llyfrau'r ysgrifennydd, 1941-1975; llyfr cofrestriad aelodau'r Capel, 1910-1917; a chofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Capel, 1897-1928.

Eglwys Abergeirw (Llanfachreth, Wales)

Llyfr cyfrifon

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr cyfrifon sydd yn cofnodi casgliad misol oedolion a phlant y capel, 1899-1923. Nodir ynddo hefyd gyfrifon y trysorydd ar gyfer 1912 a chyfrifon yr eglwys, 1899-1923.

Llyfr y trysorydd

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr y trysorydd, 1906-1940, sydd yn nodi, yn bennaf, taliadau am y Weinidogaeth. Nodir hefyd 'taliadau achlysurol' megis am yswiriant, llyfr y cyhoeddiadau a chyfraniadau at achosion arbennig, ynghyd â chyfraniadau eraill, megis ar gyfer eisteddleoedd. Ceir hefyd yn y gyfrol gofiannau ar gyfer aelodau a fu farw.