Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

  • GB 0210 BWLTRE
  • fonds
  • 1871-1912

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.

Capel Bwlchgwynt (Tregaron, Wales)

Llyfr yr Ysgrifennydd

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr yr Ysgrifennydd ar gyfer Ysgol Sabothol Tregaron, 1898-1902. Ceir ystadegau am ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, megis enwau'r athrawon a'r aelodau, nifer o adnodau a phenillion a ddarllenwyd, ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.

Llyfrau Cyfrifon Casgliadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau cyfrifon y casgliadau, yn enwedig tuag at ddyled y Capel, am y blynyddoedd 1871-1878, 1880, 1883-1884, 1886, 1890, 1901 a 1912. Ceir manylion cyffredinol am y casgliadau, megis enwau'r aelodau, gan gynnwys aelodau o ganghennau'r Ysgol Sul, eu preswylfeydd a'u cyfraniadau. Mae llyfr 1886 ar gyfer 'Casgliad at Gapel Llandyssil' yn unig.