Showing 42 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus

  • GB 0210 PHITRE
  • fonds
  • 1859-2006

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus, yn ymwneud ag ochr weinyddol y capel, materion ariannol a'r Ysgol Sul. Ceir yn eu plith cofrestri bedyddiadau, 1859-1990, cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1899-1914, llyfr cyhoeddiadau pregethwyr, 1889-1933, llyfr cofnodion eglwysig, 1899-1950, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-2002, llyfrau cyfrifon, 1917-2003, llyfr yr eisteddleoedd, 1913-1939 a chofrestri'r Ysgol Sul, [1881]-1952, ynghyd â thaflenni ystadegol, 1969-2002, llythyrau'n ymwneud ag ymdrechion i gyllido'r gwaith atgyweirio ar yr adeilad, 1991-1995, adroddiad pensaernïol, 1996, ar gyflwr yr eglwys, a nodiadau ymchwil, [2002], am hanes yr achos.

Eglwys Philadelphia (Morriston, Wales)

Cofnodion gweinyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri bedyddiadau, 1859-1990, llythyrau aelodaeth, 1898-1991, cofrestri aelodau'r Gymdeithas Ddirwestol, 1899-1914, llyfr cyhoeddiadau pregethwyr, 1889-1933, cofrestr eglwysig, 1899-1944, taflenni ystadegol, 1969-2002, ynghyd â gohebiaeth yr ysgrifennydd, 1956-1995, llythyrau oddi wrth y pensaer, 1995-1999, ac arolygon pensaernïol, 1988-2000.

Arolygon pensaernïol

Mae'r ffeil yn cynnwys ffurflen adroddiad eiddo, 1988, arolwg, 1996, Alwyn Jones, Pensaer, Caerdydd, ac arolwg Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 1999, yn ymwneud â chyflwr yr adeilad a iechyd a diogelwch, ynghyd â nodiadau cyffredinol, 2000, am gapeli'n cau ac yn uno.

Llythyrau'r pensaer

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1995-1999, oddi wrth Alwyn Jones, pensaer ac ymgynghorwr ar adeiladau hanesyddol, yn ymwneud â chostau, ac amcangyfrifon am y gwaith atgywerio; llythyr, 1999, oddi wrth Heddlu De Cymru ynglŷn â fandaliaeth ar adeiladau'r eglwys; a llythyr, 2003, oddi wrth ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, ynghyd ag adroddiad blynyddol am 2002-2003.

Ceisiadau am gymorth ariannol

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyr, 1993, oddi wrth CADW yn nodi fod yr adeilad wedi'i restru fel un o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol; llungopïau o ddeunydd ym meddiant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ymwneud â hanes pensaernïol Eglwys Philadelphia ac o ffynonellau printiedig eraill; torion o'r wasg, [1998]-2002, yn ymwneud ag argyfwng capeli yn gyffredinol; llungopïau o ffotograffau o'r capel; ynghyd â llythyr, 2003, oddi wrth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cadw (Organization : Great Britain)

Results 1 to 20 of 42