Showing 54 results

Archival description
Wales Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Archifau Urdd Gobaith Cymru (Ceredigion),

  • GB 0210 URDDION
  • fonds
  • 1965-1997 /

Cofnodion Urdd Gobaith Cymru, Rhanbarth Ceredigion,1965-1997, yn cynnwys cofnodion pwyllgorau, 1965-1995; gohebiaeth, 1979-1995; adroddiadau a deunydd printiedig, 1975-1993; a phapurau amrywiol, 1983-1995 = Records of Urdd Gobaith Cymru, Rhanbarth Ceredigion, 1965-1997, comprising committee minutes, 1965-1995; correspondence, 1979-1995; reports and printed material, 1975-1993; and miscellaneous papers, 1983-1995.

Urdd Gobaith Cymru. Rhanbarth Ceredigion.

Papurau Cymdeithas Telynau Cymru,

  • GB 0210 CYMTEL
  • fonds
  • 1961-1987 /

Papurau Cymdeithas Telynau Cymru, 1961-1987, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor gwaith, 1963=1982; cofnodion pwyllgor Gweithdy'r Delyn, 1961-1983; rhestri aelodaeth, 1967-1981; adroddiadau blynyddol,1967-1980; papurau ariannol, 1966-1983; gohebiaeth gyffredinol,1968=1981, a gohebiaeth ynglŷn â diddymu'r Gymdeithas, 1981-1987, a lluniau o Rali Byd y Delyn, 1977 = Papers of Cymdeithas Telynau Cymru, 1961-1987, including executive committee minutes, 1963-1982; Harp Workshop committee minutes, 1961-1963; membership lists, 1967-1981; annual reports, 1967-1980; financial papers, 1966-1983; general correspondence, 1968-1981, and correspondence concerning the dissolution of the society, 1981-1987; and pictures from Rali Byd y Delyn, 1977.

Cymdeithas Telynau Cymru

Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

  • GB 0210 YSGOLPEN
  • fonds
  • 1964-1968 /

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

Capel yr Annibynwyr a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun,

  • NLW MS 16276D.
  • file
  • 1831-1927.

Papurau, 1831, 1838 a 1926-1927, yn ymwneud â Chapel yr Annibynwyr, Rhuthun, a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch. = Papers, 1831, 1838 and 1936-1927, relating to the Congregational Chapel, Ruthin, and the Ruthin and District Welsh Society.
Maent yn cynnwys nodiadau o bregeth, 1831, gan y Parch. William Williams, y Wern (ff. 1-2); llythyr, 1838, yn gwahodd y Parch. Richard Jones, Aberhosan, i ddod yn weinidog ar Gapel yr Annibynwyr, Heol y Ffynnon, Rhuthun (ff. 3-4); a derbyniadau a thaliadau, 1926-1927, Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch (f. 5). = The papers consist of notes on a sermon, 1831, by the Rev. William Williams, Wern (ff. 1-2); a letter, 1838, inviting the Rev. Richard Jones, Aberhosan, to become minister of the Congregational Chapel, Well Street, Ruthin (ff. 3-4); and receipts and payments, 1926-1927, of the Ruthin and District Welsh Society (f. 5).

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16203iiA.
  • file
  • [1851x1858].

Llyfr tonau, [1851x1858], o eiddo Edward Davies, Bryn Morfydd, Y Rhyl, yn cynnwys anthemau a salm-donau yn bennaf. = Tune book, [1851x1858], belonging to Edward Davies, Bryn Morfydd, Rhyl, containing mainly anthems and psalm-tunes.

Cofnodion Undeb Dirwestol Dyffryn Taf,

  • GB 0210 DIRWESTTAF
  • fonds
  • 1929-1949 /

Cofnodion Pwyllgor Gŵyl Undeb Dirwestol Dyffryn Taf, 1929-1020, yn cynnwys cyfrifon ariannol, rhaglenni yr ŵyl, a phapurau eraill yn ymwneud â'r Gymanfa Ddirwestol = Records of the Dyffryn Taf Temperance Union, Festival Committee, 1929-1949, comprising financial accounts, festival programmes, and other papers relating to the Gymanfa Ddirwestol.

Undeb Dirwestol Dyffryn Taf.

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • file
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

Cofnodion Noddfa, Capel y Bedyddwyr, Corris,

  • GB 0210 NODDFA
  • fonds
  • 1896-1970 /

Mae'r casgliad yn cynnwys cyfriflyfrau, 1896-1970; adroddiadau y capel, 1964-1969; gohebiaeth, 1932-1950, yn ymwneud â phrynu rhydd-ddaliad y capel oddi wrth stad Plas Machynlleth, ynghyd â chatalog gwerthiant perthynol; ac amrywiol bethau, 1897-1968 = The collection comprises account books, 1896-1970; chapel reports, 1964-1969; correspondence, 1932-1950, relating to the purchase of the freehold of the chapel from the Plas Machynlleth estate, together with a related sale catalogue; and miscellanea, 1897-1968.

Noddfa, Capel y Bedyddwyr (Corris, Wales).

Deiseb y Gymraeg yn y Rhondda,

Papurau, 1924-1926, a gasglwyd gan y Parch. Fred Jones, Tal-y-bont (aelod o'r pwyllgor), yn ymwneud â'r Ddeiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda i Bwyllgor Addysg Rhondda, gan gynnwys torion o'r wasg.

Results 41 to 54 of 54