Print preview Close

Showing 3 results

Archival description
Only top-level descriptions Gwenallt, 1899-1968
Print preview View:

Papurau Gwenallt

  • GB 0210 GWELLT
  • Fonds
  • 1913-1970

Llawysgrifau a chopïau teipysgrif o gerddi Gwenallt, 1922-[1968], yn cynnwys 'Mynach','Ynys Enlli', a cherddi eraill a gyhoeddwyd; sgriptiau, dramâu ac anerchiad, yn bennaf ar gyfer y radio,1947-1952; llyfrau, nodiadau rhydd a phenawdau'n cynnwys nodiadau a gopïwyd o lyfrau ac erthyglau wedi eu paratoi ar gyfer darlithoedd, sgyrsiau, anerchiadau, gweithiau cyhoeddedig ac ysgolion, 1913-1958; llythyrau, at Gwenallt yn bennaf, a rhai at ei weddw, 1926-1970; deunydd yn ymwneud â'i gofiant i Idwal Jones (1958) yn cynnwys llyfrau nodiadau a chopïau drafft o ran o'r llyfr yn ogystal â chaneuon, cerddi a pharodïau gan Jones, 1922-[1958]; a llyfr cofnodion,1929-1933, 'Cymdeithas yr Hwrddod' a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth. Derbyniwyd cyfrol o gerddi cynnar, heb eu cyhoeddi, a hefyd cyfrol o nodiadau llawysgrif, Medi 2013 a llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau o lyfrau Saesneg a drafftiau o gerddi cyhoeddedig gan Gwenallt yn Gymraeg yn Nhachwedd 2015. = Manuscripts and typescripts of poetry by Gwenallt, 1922-[1968], including 'Y Mynach', 'Ynys Enlli' and other published poems; scripts, dramas and an address, mostly written for radio, 1947-1952; notebooks, loose notes and headings containing notes copied from books and articles in preparation for lectures, talks, addresses, published works and for school, 1913-1958; letters, mostly to Gwenallt, with some to his widow, 1926-1970; material relating to his biography of Idwal Jones (1958) including notebooks and drafts of parts of the book as well as songs, poems and parodies written by Jones, 1922-[1958]; and a minute book, 1929-1933, of 'Cymdeithas yr Hwrddod', formed by Gwenallt and Idwal Jones at Aberystwyth.

A further volume of early poetry in Gwenallt's hand, not published, and a volume of manuscript notes were received, September 2013.

Papurau ychwanegol Gwenallt yn cynnwys llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943]; derbyniwyd Tachwedd 2015.

Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg; derbyniwyd Medi 2016.

Derbyniwyd papurau ychwanegol ym mis Rhagfyr 2021.

Bwndel ychwanegol o bapurau Gwenallt, yn cynnwys tri llyfr nodiadau, nodiadau ar bapurau rhyddion, album yn ymwneud â dadorchuddio plac ar gartref y bardd ym Mhenparcau ym Mawrth 1997, rhai ffotograffau, dau dâp caset o Ŵyl Gwenallt, Pontardawe, Hydref 1984, a ffeil o lythyrau oddi wrth Gwenallt at Nel Owen Edwards, 1935-1936, cyn eu priodi; Rhagfyr 2022.

Gwenallt, 1899-1968

Gwenallt manuscripts

  • GB 0210 MSGWENALL
  • Fonds
  • [1960s]-1982

Papers, [1960s]-1982, of David James Jones (Gwenallt), comprising autograph and typescript drafts of Ffwrneisiau - Cronicl Blynyddoedd Mebyd (Llandysul, 1982), with some related material.

Gwenallt, 1899-1968

Nodiadau,

  • NLW MS 21754E.
  • File
  • [c. 1940]-1960 /

Manuscript and typescript notes of lectures, addresses and articles, [c. 1940]-1960, by David James Jones ('Gwenallt') relating to his upbringing and the background to his poetry, Christianity and society, Communism, the decline of religion, the poet and Christianity, hymnology and hymnists, and aspects of poetry and literary appreciation.

Gwenallt, 1899-1968