Showing 45743 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Cofrestr o danysgrifwyr

Mae'r ffeil yn cynnwys enwau tanysgrifwyr o swllt ac uchod a gyfrannodd at gronfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert yn 1865, ac hefyd hanes adeiladu'r capel. Rhestrir y tanysgrifwyr fesul dosbarth: Dosbarth yr Adfa, Dosbarth Llanfair, Dosbarth Llanfyllin a Dosbarth Croesoswallt.

Papurau gweinyddol

Mae'r ffeil, 1956-[1997], yn cynnwys tystysgrifau trosglwyddo aelodaeth a llythyrau cymeradwyaeth, 1956-1997, gan gynnwys nifer ar gyfer aelodau Capel Rhiwspardyn, Mehefin 1970 [oherwydd ei gau yn 1970], taflenni ystadegol, 1969-1995, ynghyd ag adroddiadau gan bensaer ar gyflwr y capel a'r Foelas, Tŷ'r Gweinidog, [1971x1997], a llythyrau, 1971-1973, yn ymwneud â gwerthu'r Foelas.

Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol o adysgrifau, 1807-1837, o gofrestr genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau, gan John Jones, Plâs-uchaf, 1837, ynghyd â chofnodion diweddarach, 1838-1865, o gofrestr newydd. Ceir y nodyn canlynol y tu mewn i'r gyfrol: 'Cyflwynwyd y Cofrestr hwn i Mr Richard Lloyd, Tabernacl, Portmadoc, gan Evan Williams, Llythyrdy, Talsarnau', 9 Mehefin 1930.

Hanes Eglwys y Tabernacl

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau dienw gyda 'Hanes Eglwys y Tabernacl, Porthmadog. 1862-1891', [1891] ac ysgrif Jonathan Davies, [1914x1922], ar hanes yr eglwys, 1862-1912; anerchiad, 1899, a draddodwyd i Gyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd gan y llywydd Jon[athan] Davies; dau lythyr, 1913, oddi wrth Y Parchedig John Roberts, Lerpwl at Mr Davies, ynghyd â thorion o'r wasg yn cynnwys erthygl am Gymdeithasfa Porthmadog, Y Cymro, 1927; teyrnged i Richard Davies, Porthmadog, Y Goleuad, 1922, a Jonathan Davies, Y Goleuad, 1933.

Bywyd a gwaith John Eilian

Allbrint o grynodeb o fywyd a gwaith John Eilian a luniwyd gan ei fab Goronwy Tudor Jones yn Saesneg. Fe'i diweddarwyd ganddo yn 2022.

Hedd Wyn

Mae'r ffeil yn cynnwys ffotograff o Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), a cherdd ganddo, a thri toriad papur newydd, 1912-1945.

Hedd Wyn, 1887-1917

Hanes yr achos

Mae'r ffeil yn cynnwys hanes yr achos a ysgrifennwyd, [?1958x1968], gan ddibynnu'n helaeth ar [waith W. Samlet Williams, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Morgannwg (Caernarfon, 1916)], rhan o lythyr, [1952x1954], oddi wrth yr Athro T. A. Levi, Aberystwyth, yn nodi ffeithiau am hanes Eglwys Philadelphia; ynghyd â thonau gan D. E. Williams, Treforus.

Levi, T. A. (Thomas Arthur), b. 1874

Cofysgrifau Cyffredinol y Capel

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud ag atgyweirio a phrynu drysau newydd, 1938; mantolen a rhestr o gyfraniadau aelodau 'Drama Cwmni Dan Matthews', [?1935]; hanes llawysgrif yr achos 'Siloh - Johnstown, 1895-1945: Hanes yr Achos'; copi o Eglwys Bresbyteraidd Seilo Johnstown, Llawlyfr Canmlwyddiant: 1894-1994, 1994; toriad papur newydd am hanes y Capel o Nene, Chwefror 1994; nodiadau llawysgrif am hanes yr achos, 1997 a 1999, gyda rhai llungopïau perthnasol; llawysgrifau o adroddiadau blynyddol mewn ffurff drafft, 1944-1946, gyda phroflenni, a chopïau o adroddiadau blynyddol, 1996-1998, fel allbrintiau; llythyrau parthed cyfarfod i drafod problemau'r Capel, 1999; copi o 'Adroddiad yr Ystadegydd am 1998'; rhestr o aelodau'r Capel gyda'r ffurflenni yn dangos eu dewis ynghlych y bwriad i gau'r Capel, a chopi o lythyr yn nodi bod yr achos wedi dod i ben.

Results 1 to 20 of 45743