Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyfansoddiadau cerddorol Richard Evans

Emyn-donau gan Richard Evans (Alaw Ffrydlas, Bethesda, 1883-1949), tad Emlyn Evans, gan gynnwys 'Capel Curig' a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Ebrill 1928, a 'Carneddi'. Anfonwyd rhai ohonynt i gystadleuaeth ‘y dôn gynulleidfaol’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac i eisteddfodau lleol.

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Eglwys Jewin

Bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd Eglwys Jewin. Ceir adroddiadau'r eglwys, 1955-1979, rhestri testunau a rhaglenni eisteddfodau'r plant, 1949-1961, a rhaglenni cyngherddau mawreddog, 1952-1957.

Cymdeithas Llyfrau Cymraeg

Deunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â Chymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain y bu Emlyn Evans yn ysgrifennydd ac yn llywydd arni yn Llundain, torion o'r Faner, 1956, yn ymwneud â changhennau o'r Gymdeithas Lyfrau yng Nghymru, a phapurau cyffredinol.

Y Ddinas

Torion o erthyglau a gyfrannodd i'r golofn 'Sylwadau' yn Y Ddinas (cylchgrawn Cymry Llundain), 1953-1955, a llythyr ato oddi wrth Caradog Prichard, 1955, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad', Y Ddinas, Awst 1957, ynghyd ag erthyglau diweddarach a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan a Y Goleuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Dramâu

Rhaglen 'Y celyn a'r iorwg', drama mewn tair act, 1954, a berfformiwyd gan Gwmni Drama Cymdeithas Ddiwylliannol Jewin ac a droswyd i'r Gymraeg gan Emlyn Evans; sgript 'Y ffenestri tro', drama mewn un act a droswyd ganddo, [1963]; 'Ffransis o Assisi', drama mewn pedair golygfa; a sgript 'Ieuan Gwynedd, drama mewn pedair act, [1952].

Torion yn ymwneud â'i benodiad i'r wasg

Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.

Y Genhinen

Papurau'n deillio o'i gyfnod fel golygydd y cylchgrawn gan gynnwys llythyrau oddi wrth lenorion amlwg.

Anerchiadau ac erthyglau

Anerchiadau ac erthyglau amrywiol, gan gynnwys 'Na foed heddwch', cylchgrawn Byw, Mehefin 1964; ‘How books are made’, 1965; ‘Pennod o hunangofiant’, 1976; 'Cofio Huw Derfel', 1990; 'Gall cau capeli'r Carneddi a'r Gerlan brofin ergyd farwol i Ddyffryn Ogwen', llythyr agored at drigolion Bethesda a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan, 1993; ‘John Wycliffe a’i amserau’, Y Pentan, 2001; a ‘Tair ffrwd ein hetifeddiaeth’, Y Pentan, 2004.

Cwpanaid o de : a diferion eraill

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi cyfrol R. T. Jenkins, wedi'i dethol a'i golygu gan Emlyn Evans yn 1997, gan gynnwys rhaglen lansio'r gyfrol ym Mhrifysgol Bangor yn 1997.

Y Pentan

Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.

Canlyniadau 1 i 20 o 1033