Showing 37 results

Archival description
item
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau o Racine, Wisconsin

Dau lythyr, 1846-1847, oddi wrth John ac Isaac Cheshire, Racine, Wisconsin, ymfydwyr o Gymru, at eu llystad a'u mam Morris a [Sarah] Davies, Trefonen, sir Amwythig. = Two letters, 1846-1847, from John and Isaac Cheshire, Racine, Wisconsin, Welsh emigrants, to their stepfather and mother, Morris and [Sarah] Davies, Trefonen, Shropshire.
Cynhwysir hefyd dau lythyr oddi wrth y rhoddwyr, y Merched M. A. a C. F. Davies, at Alan Conway, 1955 (ff. 5-6, Saesneg). = Also included are two letters from the donors, the Misses M. A. and C. F. Davies, to Alan Conway, 1955 (ff. 5-6, English).

Cheshire, Isaac, 1830-1882.

Cofnodion teuluaidd Joseph Eaton,

Dalen o gofnodion teuluaidd, [?1860au], yn llaw Joseph Eaton, wedi ei ysgrifennu ganddo yn wreiddiol mewn copi o'r Drysorfa (1851). = A leaf containing family memoranda, [?1860s], in the hand of Joseph Eaton, originally written by him in a copy of Y Drysorfa (1851).
Ceir gwybodaeth am deulu Eaton yn Henllan, sir Ddinbych, yn arbennig ei nain, Mari Jones. Ar y verso mae englynion beddargraff i William Jones (Eos Henllan), cefnder Eaton, gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd). = The memoranda relate to Eaton's family in Henllan, Denbighshire, in particular his grandmother, Mari Jones. On the verso are englynion from the tombstone of Eaton's cousin, William Jones (Eos Henllan), by Ebenezer Thomas (Eben Fardd).

Eaton, Joseph.

Cofnodion teuluaidd Gutyn Peris,

Dalen yn cofnodi genedigaethau, priodasau a marwolaethau (dyddiadau rhwng 1794 a 1835) plant Griffith Williams (Gutyn Peris) ac Elisabeth ei wraig, [?1819]-[?1835] (dyfrnod 1818). = A leaf recording the births, marriages and deaths (dates between 1794 and 1835) of the children of Griffith Williams (Gutyn Peris) and his wife Elisabeth, [?1819]-[?1835] (watermark 1818).

Teulu Thomas Phillips, Neuaddlwyd,

Drafft, [20 gan., cynnar], o goeden deulu Dr Thomas Phillips o Neuaddlwyd, Henfynyw, a Scythlyn, Pencader. = Draft pedigree, [early 20 cent.], showing the family of Dr Thomas Phillips of Neuaddlwyd, Henfynyw, and Scythlyn, Pencader.

Cofnodion teuluaidd Evan Williams,

Copi llawysgrif, [20 gan., ½ cyntaf], o daflen yn dangos oedrannau aelodau teulu Evan Williams, Ty Newydd, Llanrhychwyn, Sir Gaernarfon, yn 1868. = Manuscript copy, [20 cent., first ½], of a leaf recording the ages in 1868 of members of the family of Evan Williams, Ty Newydd, Llanrhychwyn, Caernarvonshire.

Cofnodion teuluaidd Elwyn Evans, MA,

Llungopi, [?1971], o gofnodion genedigaethau teulu Evans, Hen Neuadd, Llanidloes, sir Drefaldwyn, teulu'r rhoddwr, [c. 1920]. = Photocopy, [?1971], of a record of births of the Evans family, Hen Neuadd, Llanidloes, Montgomeryshire, the donor's family, [c. 1920].

Achau Wil Ifan,

Copi ffacsimili, [1973], o goeden deulu ei fam, [c. 1960], yn llaw y Parch. William Evans (Wil Ifan). = A xerograph facsimile, [1973], of his mother's family tree, [1933x1968], in the hand of the Rev. William Evans (Wil Ifan).

Wil Ifan, 1883-1968.

Llythyr R. Gerallt Jones,

Llythyr, 12 Awst 1977, oddi wrth [R.] Gerallt Jones, Borth, at Hywel M[eredydd] Davies, Pen-y-bont ar Ogwr, yn trafod ei ddaliadau Cristionogol yng nghyd-destun ei nofel, Triptych (Llandysul, 1977), a oedd newydd ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. = Letter, 12 August 1977, from [R.] Gerallt Jones, Borth, to Hywel M[eredydd] Davies, Bridgend, discussing his Christian beliefs in the context of his novel, Triptych (Llandysul, 1977), which had just won the Prose Medal at the National Eisteddfod.

Jones, R. Gerallt (Robert Gerallt), 1934-1999

Llythyr W. Nantlais Williams,

Llythyr, 2 Mai 1933, oddi wrth y Parch. W. Nantlais Williams, Rhydaman, at y Parch. a Mrs George J. Davies, Tre-boeth, Abertawe, yn trafod materion teuluol â chyfraniadau arfaethedig ar gyfer Yr Efengylydd, misolyn a olygid gan Nantlais. = Letter, 2 May 1933, from the Rev. W. Nantlais Williams, Ammanford, to the Rev. and Mrs George J. Davies, Tre-boeth, Swansea, discussing domestic matters and planned contributions to The Evangelist, the monthly magazine edited by Nantlais.
Am gefndir teuluol y derbynwyr, gweler Cynog Dafis, Mab y Pregethwr (Talybont, 2005). = For the recipients' family background see Cynog Dafis, Mab y Pregethwr (Talybont, 2005).

Nantlais, 1874-1959.

Llythyr W. Glasnant Jones,

Llythyr, 25 Chwefror 1904, oddi wrth y Parch. W. Glanant Jones, Nantyffyllon, i weinidog Annibynol anhysbys, yn gofyn iddo gymryd rhan mewn gwasanaeth yng Nghapel Siloh, Nantyffyllon, i ddathlu canmlwyddiant y Gymdeithas Feiblaidd. = Letter, 25 February 1904, from W. Glasnant Jones, Nantyffyllon, to an unnamed Congregational minister, asking him to participate in a service at Siloh chapel, Nantyffyllon, to celebrate the centenary of the British and Foreign Bible Society.

Glasnant, 1869-1951

Llythyr Saunders Lewis,

Llythyr, 12 Ebrill 1956, oddi wrth Saunders Lewis, Penarth, at Mrs Dodd, yn amgau geirda. = Letter, 12 April 1956, from Saunders Lewis, Penarth, to a Mrs Dodd, enclosing a reference letter.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llythyr Eifionydd at Glyn Myfyr,

Llythyr, [?6] Mawrth 1920, oddi wrth John Thomas (Eifionydd) at Glyn Myfyr, o bosib ynghlyn ac erthyglau ar gyfer Y Geninen. = Letter, [?6] March 1920, from John Thomas (Eifionydd) to Glyn Myfyr, possibly concerning proposed articles for Y Geninen.

Eifionydd, 1848-1922.

Rhigwm i ofyn calennig,

Rhigwm ar gyfer hel calennig, fu'n eiddo i Samuel Thomas, Trefeglwys, Sir Drefaldwyn, ac wedi'i ddyddio 7 Rhagfyr 1854. = A rhyme for collecting calennig (New Year's gift), belonging to Samuel Thomas, Trefeglwys, Montgomeryshire, and dated 7 December 1854.

Thomas, Samuel, of Trefeglwys.

Crwys: Dim Gwaith

Cerdd gan Crwys yn dwyn y teitl 'Dim Gwaith', wedi ei dyddio 6 Chwefror 1932, ac yn ôl bob tebyg heb ei chyhoeddi. = A poem by Crwys entitled 'Dim Gwaith' ('No Work'), dated 6 February 1932 and apparently unpublished.

Crwys, 1875-1968

Llythyr milwr or Rhyfel Byd Cyntaf,

Llythyr, 8 Mai 1916, oddi wrth y Preifat I[orwerth] Hughes o Frynymaen, sir Ddinbych, oedd yn gwasanaethu gyda 17 Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc, at un Mrs Owen, yn rhoi newyddion personol. = Letter, 8 May 1916, from Pte I[orwerth] Hughes of Brynymaen, Denbighshire, serving with the 17th Battalion, Royal Welsh Fusiliers in France, to one Mrs Owen, giving personal news.

Hughes, Iorwerth, Royal Welsh Fusiliers.

Cerdyn post oddi wrth Griffith T. Roberts,

Cerdyn post, [23] Chwefror 1949, oddi wrth G[riffith] T[homas] R[oberts], Bangor, at Garfield H. Hughes, Aberystwyth, ynghlyn a'i arferion darllen diweddar. = Postcard, [23] February 1949, from G[riffith] T[homas] R[oberts], Bangor, to Garfield H. Hughes, Aberystwyth, relating to Roberts's recent reading habits.

Roberts, Griffith T. (Griffith Thomas), 1912-1991.

Llythyr Jennie Eirian Davies,

Llythyr, [?1976], oddi wrth Jennie Eirian Davies, Yr Wyddgrug, at Mr [?Ifor] Jones yn ymddiheuro am na fyddai'n gallu beirniadu yn Eisteddfod Llanrwst y flwyddyn honno. = Letter, [?1976], from Jennie Eirian Davies, Mold, to Mr [?Ifor] Jones apologising for being unable to adjudicate at that year's Llanrwst Eisteddfod.

Davies, Jennie Eirian, 1925-1982.

Cerdyn er cof am Thomas H. Parry-Williams,

Cerdyn argraffedig, Mawrth 1975, yn cydnabod cydymdeimlad ar farw T. H. Parry-Williams. Anfonwyd y cerdyn oddi wrth ei weddw, Amy, at eu ffrindiau 'Margaret ac Owen'. = A printed acknowledgement card, March 1975, on the death of T. H. Parry-Williams, sent by his widow, Amy, to their friends 'Margaret and Owen'.
Mae'r cerdyn yn cynnwys testun Cymraeg printiedig, gyda neges ychwanegol yn Saesneg yn llaw Amy Parry-Williams. = The card contains a printed message in Welsh, with an additional note in English in the hand of Amy Parry-Williams.

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988.

Emyn dôn Dewi Myrnach,

Copi, [?1887], o osodiad cerddorol gan, ac yn llaw, David Davies (Dewi Myrnach) o emyn Maurice Davies 'Am graig i adeiladu'. Mae'r copi wedi ei gyflwyno i Thomas Morris. = A copy, [?1887], of a musical setting by, and in the hand of, David Davies (Dewi Myrnach) of Maurice Davies's hymn beginning 'Am graig i adeiladu'. The copy is dedicated to Thomas Morris.
Ennillodd y dôn wobr yn Eisteddfod yr Iwbili a gynhaliwyd yn Nhyddewi ar 17 Awst 1887, gyda Dr Joseph Parry yn beirniadu. = The hymn tune was awarded a prize at the 'Jubilee Eisteddfod' held at St Davids on 17 August 1887, with Dr Joseph Parry adjudicating.

Davies, David, 1845-1923.

Englyn gan Wil Ifan,

Nodyn, [c. 1965?], oddi wrth Wil Ifan, Pen-y-bont ar Ogwr, at [Rhiannon Francis Roberts] yn cynnwys englyn ganddo (ond sydd yn cael ei briodoli yma i Roberts) yn cyfeirio, mae'n debyg, at annibendod ei bapurau ei hun. = Note, [c. 1965?], from Wil Ifan, Bridgend, to [Rhiannon Francis Roberts] containing an englyn by him (but here ascribed to Roberts), apparently referring to the disarray amongst his own papers.
Roedd Roberts yn archifydd yn y Llyfrgell Genedlaethol a bu'n gyfrifol am gatalogio lythyrau Wil Ifan ym 1965. = Roberts was an archivist at the National Library and was responsible for cataloguing Wil Ifan's letters in 1965.

Wil Ifan, 1883-1968.

Results 1 to 20 of 37