Showing 3 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron
Print preview View:

CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

  • GB 0210 BWLTRE
  • fonds
  • 1871-1912

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.

Capel Bwlchgwynt (Tregaron, Wales)

Llyfrau Cyfrifon Casgliadau

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau cyfrifon y casgliadau, yn enwedig tuag at ddyled y Capel, am y blynyddoedd 1871-1878, 1880, 1883-1884, 1886, 1890, 1901 a 1912. Ceir manylion cyffredinol am y casgliadau, megis enwau'r aelodau, gan gynnwys aelodau o ganghennau'r Ysgol Sul, eu preswylfeydd a'u cyfraniadau. Mae llyfr 1886 ar gyfer 'Casgliad at Gapel Llandyssil' yn unig.

Llyfr yr Ysgrifennydd

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr yr Ysgrifennydd ar gyfer Ysgol Sabothol Tregaron, 1898-1902. Ceir ystadegau am ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, megis enwau'r athrawon a'r aelodau, nifer o adnodau a phenillion a ddarllenwyd, ynghyd รข phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.