Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions fonds Poets, Welsh.
Print preview View:

Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,

  • GB 0210 RHYNIS
  • fonds
  • [1864]-[1999] /

Mae'r grŵp cyntaf (1-185) o bapurau'r Parch. W. Rhys Nicholas, [1864]-1996, a dderbyniwyd yn 1996 yn cynnwys llythyrau personol ac eraill yn ymwneud â'i waith fel golygydd; ei gyfansoddiadau megis emynau, yn arbennig ei emyn enwog 'Pantyfedwen'; ei waith ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau; anerchiadau; papurau bywgraffyddol; papurau unigolion eraill; a deunydd printiedig.-- Mae'r papurau ychwanegol (186), 1914-[1998], a dderbyniwyd yn Ionawr a Medi 2002 yn cynnwys papurau personol y Parch. W. Rhys Nicholas gan gynnwys tystysgrifau amrywiol a dderbyniodd; llythyr, 1952, yn ei wahodd i fod yn weinidog ar eglwysi Horeb a Bwlchygroes, Llandysul; ynghyd â phapurau a gasglwyd gan y rhoddwr ar ôl marwolaeth ei ewythr. --Ymhlith rhodd 2008 (187) mae teyrngedau i W. Rhys Nicholas o'r wasg gan gynnwys teyrnged Derwyn Morris Jones a gyhoeddwyd ym mhapur bro Yr Hogwr, Rhagfyr 1996 (yn seiliedig ar yr hyn a draddodwyd ganddo yn yr angladd); taflen y gwasanaeth angladd, 2 Hydref 1996, a'r gwasanaeth coffa, 23 Tachwedd [1996]; ac adroddiad am ddadorchuddio cofeb iddo yng Nghapel y Tabernacl, Porth-cawl, 1997. = The first group of Rev. W. Rhys Nicholas papers, [1864]-1996, which were donated in 1996 (1-185), and are not described here, comprise personal letters and other letters relating to his work as editor; his compositions such as his hymns, especially his famous hymn 'Pantyfedwen'; his research work for publications; addresses; biographical papers; papers of other individuals; and printed material. The additional papers, 1914-[1988], received January and September 2002 (186), comprise personal papers of the Rev. W. Rhys Nicholas including various certificates presented to him; a letter, 1952, inviting him to be minister of Horeb and Bwlchygroes, Llandysul; together with papers collected by the donor after his uncle's death. There are tributes to W. Rhys Nicholas among the papers received in 2008 (187) among the papers received in 2008 including a tribute by Derwyn Morris Jones published in Yr Hogwr (community paper), December 1996 (based on what he said in the funeral service); funeral service card, 2 October 1996 and the memorial service, 23 November [1996]; and a report of the unveiling of a memorial to him at Tabernacl Church, Porth-cawl, 1997.

Nicholas, W. Rhys.

Papurau Ioan Brothen,

  • GB 0210 BROTHEN
  • fonds
  • 1823-1996 /

Y mae'r casgliad yn cynnwys: llythyrau, 1909-1938, at 'Ioan Brothen', a llythyrau, 1950-1974, at Enid Jones; dyddiaduron Ioan Brothen, 1894, 1931-1940; llyfrau nodiadau a llyfrau lloffion, 1888-1940, yn cynnwys cerddi, englynion, penillion, torion o'r wasg, arysgrifau cerrig beddau; papurau amrywiol, 1823-1996; ac eitemau printiedig, 1922-1926. = The collection comprises: letters, 1909-1938, to 'Ioan Brothen, and letters, 1950-1974, to Enid Jones; diaries of Ioan Brothen, 1894, 1931-1940; notebooks and scrapbooks, 1888-1940, containing poems, englynion, verses, press cuttings, gravestone inscriptions; miscellaneous papers, 1823-1996; and printed items, 1922-1926.

Ioan Brothen, 1868-1940.