Showing 338 results

Archival description
Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen

  • GB 0210 JDYFWEN
  • Fonds
  • 1863-1956

Papurau o eiddo J. Dyfnallt Owen neu a grynhowyd ganddo, 1863-1956, yn cynnwys pregethau; nodiadau bywgraffyddol ar weinidogion anghydffurfiol; llythyrau a phapurau eraill yn ymwneud ag achos yr Annibynwyr, 1863-1953; llythyrau amrywiol pellach, 1878-1956, rhai ohonynt yn cyfeirio at yr Orsedd yn Llydaw a Chernyw; dyddiaduron, 1897-1956; cyfraniadau ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Tyst, etc., 1923-[1953]; sgriptiau radio, 1931-1955; pregethau, 1919; torion o'r wasg, [1872]-1954; dyddlyfrau taith, a nodiadau ar bynciau hanesyddol a llenyddol, 1901-1953. = Papers of and accumulated by J. Dyfnallt Owen, 1863-1956, including sermons; biographical notes on nonconformist ministers; letters and other papers concerning the Independent cause, 1863-1953; further miscellaneous letters, 1878-1956, some of which refer to the Gorsedd in Brittany and Cornwall; diaries, 1897-1956; contributions for publication in Y Tyst, etc., 1923-[1953]; radio scripts, 1931-1955; sermons, 1919; press cuttings, [1872]-1954; travel journals, and notes on historical and literary subjects, 1901-1953.

Dyfnallt, 1873-1956.

Llawysgrifau Amrywiol,

Pregethau, etc., gan Dr. D. Miall Edwards, yn ei law ef ei hun. Emynwyr Cymreig:. Cyfres of fywgraffiadau neu nodiadau bywgraffyddol gan y diweddar Barch. D. Eurof Walters. Nid yw'r gyfres yn hollol gyflawn yma. 'Hen Ddyddiadur':. Copi yn llaw J.W. Jones, Minffordd, Oakeley Square, Blaenau Ffestiniog, o ddyddiadur Robert Williams, tad Eifion Wyn, 1879-89 a 1894-1902. 'Ymchil am Gymru ac Erthyglau Eraill' gan 'Tegid', ymgeisydd yn y gystadleuaeth am y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1952, Adran Llenyddiaeth Rhif 23. Copi teipiedig. Llawysgrif 'Dyddlyfr Enaid' gan 'Y Brawd o Rad Isel'. (Argraffwyd yn Y Tyst, 1955.) Rhai bylchau. 'Hunangofiant Ifan Rolands (Gwas Ffarm) Brynrefal'. 'Imram (périple) par Maodez Glandour traduit du Breton'. Copi teipiedig wedi ei rwymo. 55tt. Ffrangeg. 'Adolygiad ac Ychwanegiad ar "Hanes Eglwys Crugybar" gan Mr. Ben Davies Penlan, Nantgaredig - gan Y diweddar Barch. D. B. Richards, Crugybar.'. Copi. Darlithiau ar 'Anibyniaeth ym Mangor' a 'Syr Henry Jones, "Neu y Bachgen a goncrodd ei Anhawsterau"' (Dim enw wrthynt. ? Rhywun o Fangor). Manylion bywgraffyddol am y Parchn. David Bowen, Llandeilo, John Evans, Aberhonddu, David Lloyd, Aberhonddu, Penrith Thomas, Aberystwyth, a T.E. Thomas, Beaumaris, ganddynt hwy eu hunain mewn atebiad i gyfres of ofyniadau gan Dyfnallt tua 1949. Copi o bregath a draddodwyd ar achlysur Tanchwa Tylorstown gan y Parch. John Evans (Eglwys-Bach) yn y Town Hall, Pontypridd, y nos Sul canlynol i'r ddamwain. Testun: Jeremiah IX, 22-24, 'Angau a ddringodd i'n ffenestri...'. Manylion bywgraffyddol am nifer o weinidogion yr Annibynwyr, Dyfnallt yn eu plith, a dderbyniwyd i Goleg Bala-Bangor, Gorff. 2, 1894. Enwau (llofnodau) Cymru Chubut, Perchnogion Ffermdai. Ffotostat. Rhodd gan Dr. Geraint Dyfnallt Owen, Hydref 1979. Deunydd amrywiol yn ymwneud â'r Annibynwyr (A 2002/27). Llythyrau ETC., O Ddiddordeb Ynglyn Ag Enwad Yr Annibynwyr. Llythyrau, 1863-78, at y Parch. Edward Williams, dinas Mawddwy, oddi wrth W. Edwards, [Aberdâr], W.R. Edwards, W. Evans, W.C. Harris, Sam. Holland, William Hughes, Dolgelley, Lewis James, Narberth, Wm. James, D.M. Jenkins, Treforris, C.R. Jones, E.P. Jones, Mostyn, Idrys Jones, J.H. Jones, Newtown, John Jones, Carmel, Brynaman, Michael D. Jones, Thomas. D. Jones, Thomas Lewis, cardiff, D. Morris, Corwen, Thos. Nicholas, London, E. Peter, Bala, David Robert, Wrexham, James Roberts, 'Derwenog', Llanerfyl, Rich. Roberts, Pwllheli, Samuel Roberts, ('S.R.'), John Thomas, Lethr House, R. Thomas, 'Ap Vychan', Rd. Williams, London, S.C. Williams, Corris, a Thomas Williams, Merthyr Tydfil, ynglyn ag Athrofa Annibynol y Bala a Thysteb Goffadwriaethol Ioan Pedr, gyda rhai cyfrifon a phapurau eraill. Llythyrau, 1871-1910, at y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, oddi wrth Emlyn H. Davies, Upper Bangor, Ellis Thos. Davies, Abergele, J.D. Davies, Llnidloes, R. Davies, [Penegoes], D. Silyn Evans, Aberdâr, E. Herber Evans, John Evans, Aberystwyth, Owen Evans, London, W. Evans, Aberayron, M. griffiths, Swansea, Thos. W. Hancock, London, J.G. James, (ar fordaith), J. Lloyd James, 'Clwydwenfro', David John, Swansea, C.R. Jones, Lanfyllin, E. Penllyn Jones, Aberystwyth, H. Jones, Birkenhead, R. Mawddwy Jones, Dolyddelen, T. Lewis, Bala, J. Myfenydd Morgan, St. Dogmaels, J.S. Parry, Burnley, Eliza Peter, Bala, T. Talwyn Phillips, Bala, Thomas Rees, Abertawy, Ellis Robert, Llanfyllin, R. Roberts, Manchester, Robert Robinson, London Missionary Society, J. Rogers, Burry Port, D. Rowlands, Brecon, E. Stephen, 'Tanymarian', D. Lleufer Thomas, D.S. Thomas, Llanfir, Welshpool, David Thomas, Llangynidr, Isaac Thomas, Towyn, J. Thomas, Liverpool, J. Thomas, Swansea, W. Gwynne Vaughan, Llanbrynmair, ac 'Ap Daniel', New York City. Papurau printiedig, rhai ohonynt wedi bod yn eiddo'r Parch. Josiah Jones, yn ymwneud â helynt Athrofa Annibynnol y Bala, 1877-80. Nifer o lythyrau amrywiol at wahanol bersonau, oddi wrth O.M. Edwards, E. Vincent Evans, Thos. Nicholas, W. Nicholson, D. Oliver, Griffith Parry, Llanbadarn, E. Peter (darn), Samuel Roberts, ac E.O. Skaife. Dichon fod un neu ddau o'r llythyrau at y Parch, Edward Williams neu'r Parch Josiah Jones. Tystysgrif cofrestru ty o'r enw Llettyrnoyadd ym mhlwyf Llanllawddog, sir Gaerfyrddin, fel man cyfarfod i addoli ar gyfer Anghydffurfwyr Protestannaidd, Gorff. 16, 1806. Pump o ddogfennau a anfonwyd i Dynfallt yn 1953 gan Mr. Richard Jones, Maesgwyn, Towyn, ac a argrafwyd yn Y Tyst, yn ymwneud â Chapel Penystryd, Capel Jerusalem, ac adeilad o'r enw Shiop issaf ym mhlwyf Trawsfynydd, ac ag ewyllys John Williams, Llanelltyd, ?1832. Tir llythyr yn ymwneud ag eglwys Heol Undeb, Caerfyrddin:. A. Galwad oddi wrth eglwys Blaenycoed i'r Hybarch [?William] Morgans i ddod i'w bugeilio. dd. B. Dau lythyr at y Parch. D.S. Davies, 1886, un oddi wrth L. Daniel, Caerfyrddin, a'r llall oddi wrth Sam Lewis Jones, Caerfyrddin. Penillion gan [Lewis William Lewis], 'Llew Llwyfo', 'Ar Adeg Eisteddfod Utica, N.Y. Calan 1872. Cyflwyniedig i D.S. Davies, Un o Oruchwylwyr y Wladfa Gymreig a Sefydlir yn Patagonia, gyda rhoddiad hawl iddo i wneud y defnydd a fyno o'r gân hon, yn gyfrinachol neu gyhoeddus, gyda neu heb enw yr Awdur wrthi'. Tuchangerdd: "Y Fintai drodd yn ol" gan R.J. Berwyn.

Llythyrau Amrywiol,

Llythyrau, Mai-Mehefin 1916, oddi wrth Dyfnallt at Mrs. Owen, gydag un neu ddau o rai diweddarach (o Baris). Llythyrau, c. 1931-56, oddi wrth Dr. Geraint Dyfnallt Owen at ei rieni, ynghyd â rhai llythyrau at Dr. Geraint Dyfnallt Owen oddi wrth yr Athro T. Gwynn Jones ac eraill. Llythyrau at Dyfnallt, Awst 1953, yn ei longyfarch ar gael ei ethol yn Archdderwydd Cymru. (Un oddi wrth 'Myfyr Hefin'). Llythyrau at Dyfnallt, 1953-6, ynglyn â chyhoeddiadau. Llythyrau a dderbyniwyd pan oedd Dyfnallt yn yr ysbyty yn Aberystwyth Chwef.-Ebrill 1956. Gorsedd Llydaw; Gohebiaethau at Dyfnallt, 1952-5, yn cynnwys llythyrau oddi wrth P. Loisel, 'Eostig Sarzhaw', F. Taldir Jaffrennou, Mme. Galbrun, 'Iona', A.J. Raude, 'Rhon Peniarth', Francois Ters, H.H. Yellen, y Parch A. .E. Jones, 'Cynan', a'r Athro Morgan Watkin, ynghyd â phapurau eraill (cylchlythyrau, etc.). Gorsedd Cernyw: Llythyrau a phapurau eraill oddi wrth Edwin Chirgwin, 'Map Melyn', at Dyfnallt ynglyn â'r trefniadau ar gyfer Gorsedd Cernyw, Castle Dore, 1954. Cyfarchion i Dyfnallt ar ôl chwarter canrif fel Golygydd Y Tyst. Gweler Y Tyst, Ion. 3, 1952. Galwadau, a llythyrau ynglyn â galwadau, 1898-1910.

Results 1 to 20 of 338